麻豆社


Explore the 麻豆社

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol Help gyda'ch
taith i Batagonia

Rhoi teithwyr o Gymru
ar ben y ffordd

Dydd Iau, Awst 3, 2000
gan Glyn Evans

Ymhlith dosbarth arbennig o Gymry y mae yr hyn sydd ar 么l o鈥檙 wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn dod yn lle mwy a mwy poblogaidd i ymweld ag ef.

Am flynyddoedd cafodd y Wladfa unigryw hon ei hanwybyddu, i bob diben, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf ffurfiwyd cysylltiadau a chyfeillgarwch newydd nes bo鈥檙 ymwneud â hi heddiw yn fywiocach ac yn gynhesach nag y bu erioed o bosib.

Sylwodd disgynyddion y Cymry cynnar fod mwy a mwy o Gymru yn ymweld 芒 hwy erbyn hyn hefyd gyda sawl taith y flwyddyn yn cael ei threfnu.

Canmol y croeso

Nid oes amheuaeth mai cynyddu a wnaiff y diddordeb hwn dros y blynyddoedd nesaf wrth iddo ddod yn hwylusach i deithio yno - ac wrth i鈥檙 rhai sydd wedi ymweld ddychwelyd adref yn diferyd o ganmoliaeth am y croeso Cymreig a gafwyd wyth mil o filltiroedd o鈥檜 gwlad eu hunain a straeon am rostio wyn cyfain yn yr awyr iach a chanu emynau mewn capeli traddodiadol Gymreig.

Mae鈥檔 brofiad sy鈥檔 gyfuniad o鈥檙 ysgytwol a鈥檙 cyfareddol a鈥檙 enigmatig - ac nid wyf wedi cyfarfod a neb eto sydd wedi ei siomi a鈥檙 ymweliad.

Er, y mae鈥檔 wir i wahanol bobl weld rhywbeth gwahanol wrth edrych ar yr un pethau!

Heb wybod beth i'w ddisgwyl

Yr hyn sy鈥檔 gyffredin i鈥檙 rhan fwyaf o bobl wrth gychwyn yno ar eu taith yw na wyddant beth yn union i鈥檞 ddisgwyl ac yn amlach na pheidio y mae鈥檙 hyn a welant yn dra gwahanol i鈥檙 darlun a grewyd ganddynt yn niwl eu meddwl.

Mae pob ymwelydd da yn paratoi ar gyfer ei daith yn hytrach na dim ond codi pac a mynd. Tan yr wythnos hon bu鈥檔 rhaid i鈥檙 teithiwr o Gymro a鈥檌 fryd ar Batagonia ddibynnu ar adrannau mewn llawlyfrau taith Saesneg am Ariannin.

Ac mae鈥檔 rhaid cofio mai rhan o wlad enfawr Ariannin yw Patagonia a bod Patagonia yn llawer iawn, iawn, mwy na dim ond y gornel fechan a fraenarwyd gan y Cymry.

Yr wythnos hon, fodd bynnag, cyhoeddwyd llyfr poced (yn llythrennol) wedi ei anelu yn arbennig at ymwelwyr o Gymru 芒鈥檙 gymuned Gymreig ym Mhatagonia.

Cathrin WilliamsYn ymwelydd cyson (blynyddol, yn wir) a鈥檙 Wladfa y mae Cathrin Williams yn ei llyfr, Y Wladfa yn dy Boced, yn gosod y gymuned Gymraeg-Sbaenaidd yng nghyd-destun gweddill Patagonia ac Ariannin.

Nid llyfr taith mohono ond cyfeirlyfr taith cwbl ymarferol a hanfodol gan awdur sy鈥檔 gwbl gyfarwydd a鈥檌 phwnc.

Go brin fod yna gwestiwn y byddwch yn ei ofyn nad oes ateb iddo ar un o鈥檙 223 o ddalennau yn y llond llaw gyfforddus hwn o lyfr.

Unrhywbeth o seisus dillad i lle gallwch chwi fwyta yn y Gaiman o sut i newid o un maes awyr i鈥檙 llall ym Muenos Aires i ble mae gweld morloi a morfilod yn y gwyllt.

Mae鈥檙 cyfan yn gryno ac yn onest gyda rhybudd, er enghraifft, i wylio鈥檙 prisiau rhag cael eich gwneud yn ambell i le!

Er, ni allaf yn fy myw gydweld a'r elfen o feirniadaeth yn ei sylwadau am Westy Tywi yn Y Gaiman.
Gwir na fum yn cysgu'r nos yno ond treuliais ddigon o amser gyda'm traed dan y bwrdd yno ac hefyd yn siarad â nifer a fu'n aros yno - pob un yn unfryd parthed safon ragorol y ddarpariaeth.

Fel un a oedd yn paratoi i deithio i Batagonia yr union adeg hon y llynedd dim ond un cweryl sydd gen i a gweddill cyfrol Cathrin Williams - na fyddai hi wedi cael ei llyfr yn barod flwyddyn ynghynt.

Byddai wedi bod yn fwy na buddiol nid yn unig ar gyfer paratoi am y daith ond yn ystod yr ymweliad hefyd.

Ac fel un sydd erbyn hyn wedi ymweld 芒 nifer o鈥檙 lleoedd y mae鈥檔 s么n amdanynt gallaf fod yn dyst i ba mor ddibynadwy yw ei gwybodaeth.

Yn fyr: llyfr tywys gan un sy鈥檔 gwybod am beth mae鈥檔 siarad ac sydd wedi鈥檙 profi ei hun y trafferthion sy鈥檔 debyg o wynebu ymwelwyr â鈥檙 Wladfa - byddent dalog neu ofnus!

Y Wladfa yn dy Boced: Llyfr Taith y Wladfa gan Cathrin Williams. Argraffwyd gan Wasg Pantycelyn. 拢5.

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y S卯n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy