麻豆社


Explore the 麻豆社

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Llais Tros Heddwch Byd Rhwng cariad
a'r gwn

Brwydr y canrifoedd rhwng heddwch a heddychiaeth

Dydd Iau, Gorffennaf 27, 2000
Bu gwybod sut i ymateb i ryfel yn broblem i鈥檙 eglwys ers ei dyddiau cynnar. Daeth yn fwy o broblem gyda threigl y canrifoedd.

Gellid maddau i rywun sy鈥檔 edrych o鈥檙 cyrion am feddwl nad felly y dylai hi fod.

Bydd y gyfrol Llais Tros Ddyfodol Byd - Seiliau Diwinyddol Heddychiaeth o gymorth mawr, felly, i grisialu pethau.

Mae鈥檙 awdur, E.R. Lloyd-Jones, yn edrych gyda manylder ar heddychiaeth o safbwynt y Cristion gan olrhain y gwahanol safbwyntiau a amlygodd eu hunain dros y canrifoedd.

Nid yn unig y mae鈥檔 edrych ar heddychiaeth o safbwynt dysgeidiaeth Crist ond hefyd yn edrych ar ddylanwad dysgeidiaeth yr Hen Destament.

Y mae鈥檔 olrhain ddehongliad diwinyddol gwahanol Gristnogion o ddyddiau鈥檙 Eglwys Gynnar hyd y dydd heddiw.

Y Rhyfel Mawr
- Cristnogion yn anghydweld

Darlunia鈥檙 anhawster sy鈥檔 wynebu鈥檙 Cristion trwy s么n am y ddau safbwynt gwahanol oedd yna ymhlith Cristnogion tuag at y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yr un fu鈥檙 problemau gyda rhyfeloedd eraill.

Y Parchedig John Williams, Brynsiencyn, yn annog bechgyn ifainc i ymuno 芒鈥檙 fyddin er mwyn trechu gormes yr Almaen ond Thomas Rees, Bangor, yn dadlau na ddylai fod gan yr eglwys unrhyw ran o gwbl mewn ymladd a thrais beth bynnag yr achos.

Safbwynt John Williams, fel un sawl Cristion ar ei 么l, oedd: mai eiddo Duw yw grym a bod gan ddyn felly yr hawl i鈥檞 ddefnyddio er mwyn amddiffyn cyfiawnder.

"Nid yw cenhedlaeth gyfan yn ormod o bris i鈥檞 dalu am gyfiawnder," meddai wrth amddiffyn ei safbwynt.

Dadleuai Thomas Rees, ar y llaw aral: fod rhyfel "yn groes i鈥檙 union beth y mae鈥檔 honni ei ddiogelu" ac o鈥檙 herwydd yn anghyfiawn.

Unwaith eto, gellid maddau i鈥檙 sawl sydd ar gyrion Cristnogaeth am feddwl fod safbwynt Thomas Rees mor syml 芒 chlir ei resymeg na ddylai fod anhawster o gwbwl ei goleddu.

Sut, yn enw popeth, y gellid cyfiawnhau defnyddio anghyfiawnder i ddiogelu cyfiawnder.

O na byddai hi felly.

Y syniad o Ryfel Cyfiawn

Yn cymhlethu鈥檙 ddadl hon ym meddwl sawl un y mae鈥檙 syniad o Ryfel Cyfiawn. Yn syml, y ddadl yw fod yna rai pethau sydd mor ofnadwy o ddrwg y gellir cyfiawnhau defnyddio grym milwrol a lladd i鈥檞 hatal.

Yr oedd Hitler yn un y gellid cyfiawnhau mynd i ryfel i鈥檞 rwystro. Yn fwy diweddar deyrn gel Gadaffi a Saddam.

Mae E. R. Lloyd-Jones yn mynd i鈥檙 afael a鈥檙 holl ddadleuon hyn gan nodi fod safbwynt yr eglwys gynnar "yn heddychlon-ddiamod."

Dim ond wedyn y llwyddodd dyn i dymheru ei safbwynt hwnnw i gydfynd a鈥檌 amgylchiadau ei hun.

Daeth y Cristion i gyflwr y gallai gyfiawnhau rhyfel trwy "haeru ei bod yn rhesymol disgwyl iddo (h.y. rhyfel) adael mwy o dda nag o ddrwg ar ei 么l."

Dim ond pan yw dyn yn defnyddio mwy o rym nag sydd ei angen i鈥檞 amddiffyn ei hyn y mae鈥檙 trais yn anghyfiawn a phan fo ei filwrio yn ymosodol yn hytrach nag yn amddiffynnol.

Pan ddaeth arfau niwclear

Dengys E. R. Lloyd-Jones sut y cymhlethwyd y ddadl gyfleus a diddig hon fwyfwy gyda dyfodiad arfau niwclear a chanddynt y gallu i ddinistrio dyn a鈥檌 fyd.

O ddarllen y gyfrol mae rhywun yn sylweddoli鈥檔 fuan nad yw鈥檙 holl dindroi ac ystumio ymenyddol yn tanseilio mewn unrhyw ffordd ddamcaniaeth yr heddychwr pur.

"Dadl yr heddychwr yw fod rhyfel yn defnyddio moddion sy鈥檔 groes i鈥檙 diben. Pan ddywedir bod rhyfel yn rhywbeth y mae cariad yn gofyn amdano, rydym yn dweud fod cariad yn gofyn am rywbeth sy鈥檔 groes i鈥檞 hanfod ei hunan," eglura E. R. Lloyd-Jones.

I aralleirio T. H. Parry-Williams does dim dianc rhag hyn ac y mae鈥檔 dda inni gael ein hatgoffa gan E. R. Lloyd Jones o鈥檙 hyn a ddywedodd Gandhi; nad methiant heddychiaeth a welsom dros y canrifoedd o ryfel ond methiant trais "am na roesom gyfle i heddwch."

Da hefyd inni gael ein hatgoffa fod sawl gwahanol math o ryfel yn amrywio o rai arfog i rai economaidd a鈥檜 bod i gyd yn fygythiad i gyfiawnder.

Dim ond cariad all fod yn drech na hyn. Sut mae argyhoeddi pobl i'w ddefnyddio yw鈥檙 cwestiwn nad ydym wedi cael ateb iddo hyd yn hyn.

Llais Tros Ddyfodol Byd - Seiliau Diwinyddol Heddychiaeth gan E. R. Lloyd-Jones. Gwasg Pantycelyn. 拢4.95.

Cliciwch yma
er mwyn mynd yn syth i'n rhestr o lyfrau sydd newydd eu cyhoeddi.

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y S卯n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy