|
|
Trysorau
ar goll
yng
ngholofnau'r
wasg
Dydd
Iau, Gorffennaf 20, 2000 |
Dadwneud
cam a wnaed â’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru y mae’r gyfrol
ddiweddaraf yn y gyfres Saesneg ragorol, A Guide to Welsh Literature.
Rhoddir chwip din iawn gan Hywel Teifi Edwards i’r rhai hynny a fu’n
swcro’r syniad fod y ganrif honno yn un sy’n sarnu ac yn anharddu’r
traddodiad llenyddol Cymraeg.
Fel golygydd, A Guide to Welsh Literature c.1800-1900 Volune
V dywed Hywel Teifi Edwards i "gorff arwyddocaol o lenyddiaeth
a sgrifennwyd yn wyneb amgylchiadau torcalonnus iawn" gael ei esgeuluso
gan feirniaid llenyddol oherwydd y meddylfryd hwn.
Yn ei ragarweiniad i’r gyfrol y mae o’n disgrifio sgrifenwyr Cymraeg
y cyfnod yn gwarchod eu Rorke’s Drift llenyddol yn wyneb ymosodiadau
beirniaid blaenllaw y dydd y naill ochr a'r llall i Glawdd Offa.
Dywed fod y gyfrol hon yn cyflwyno cyfres o safbwyntiau ynglyn â pha
gyfrif ohonynt eu hunain a roddodd rhai sgrifenwyr, ynghyd â sefydliadau
arwyddocaol fel y wasg a’r Eisteddfod, yn y frwydr.
Bydd rhai yn synnu gweld "y wasg" yn cael ei chynnwys yn y rhestr
hon ond y mae hynny yn cael mwy na’i gyfiawnhau mewn erthygl ddadlennol
a diddorol gan Aled Jones sy’n bennaeth yr Adran Hanes ym Mhrifysgol
Aberystwyth.
Y mae o’n ei chael yn hawdd iawn cyfiawnhau cynnwys y wasg - Saesneg
a Chymraeg - mewn unrhyw drafodaeth ar gyflwr llenyddol y bedwaredd
ganrif ar bymtheg.
"Cyfrannodd rhai o sgrifenwyr gorau a mwyaf dylanwadol y bedwaredd
ganrif ar bymtheg yng Nghymru . . . yn sylweddol i’r wasg rad wythnosol,
a dyddiol,"(yn y Gymraeg a’r Saesneg)," meddai.
Ychwanega fod llawer o’r gweithgarwch llenyddol rhyfeddol hwn yn parhau
ar goll i ni heddiw yn y pum cant o bapurau newydd a gyhoeddwyd yn
ystod y ganrif.
"Y mae ynddynt, lenyddiaeth y bobl wedi ei gladdu," meddai.
Camgymeriad, meddai fyddai peidio ag ystyried y cyfraniadau hyn i
bapurau newydd yn llenyddiaeth.
"Yr oedd papurau newydd Cymraeg, felly, yn cael eu gwerthfawrogi’n
feirniadol gan eu cyfoeswyr fel ffurf ar lenyddiaeth ac yr oeddent
yn destun trafodaeth yn ogystal â bod yn bethau i’w darllen," meddai.
Un peth diddorol iawn am y cyfraniadau hyn yw mai prin iawn yw’r wybodaeth
am eu hawduron.
Hynny, i raddau helaeth, oherwydd tuedd y cyfnod i sgrifennu dan ffugenw.
Y mae Aled Jones yn awgrymu sawl math o ymchwil buddiol:
Pwyso a mesur ‘nofelau’ oedd yn cael
yn cael eu cyhoeddi bob yn bennod wythnosol
Pwyso a mesur colofnau barddol
Archwiliad o sgrifennu tafodieithol
Arolwg o deyrngedau marwolaeth
Arolwg o lythyrau darllenwyr
Arolwg o ddeunydd oedd yn cael ei godi
o’r wasg Lundeinaidd a’r wasg Americanaidd.
Mor ddiddorol ac mor werthfawr fyddai cyflawni hyn mae rhywun yn teimlo
fel gweiddi hei ati wrth fyfyrwyr ymchwil sy’n gwastraffu eu
hamser ar bethau llawer mwy diwerth.
Cyfranwyr y gyfrol
Gan gynnwys Aled Jones a golygydd y gyfres, Hywel Teifi
Edwards, y mae naw i gyd yn cyfrannu:
Yn eu plith y mae’r diweddar R. Gerallt Jones.
Cyhoeddir ei gyfraniad olaf ef cyn ei farwolaeth, astudiaeth o Emrys
ap Iwan - dyn meddai a oedd gymaint o flaen ei oes nad yw rhai o’i
gysyniadau yn ddealladwy i bawb hyd yn oed heddiw.
Ond "yr oedd," meddai, "yn feddyliwr treiddgar, herfeiddiol, digyfaddawd
a gonest yn hytrach nag yn un cymhleth."
Er cymaint o ddyrchafu fu yna ar Emrys ap Iwan ymhlith cenedlaetholwyr
diweddar y mae R. Gerallt Jones wrth gau pen y mwdwl yn arwyddocaol:
" …safai ar ei ben ei hun yn ystod ei gyfnod ac ni all rhywun ond
synio tybed a fyddai’n teimlo rywfaint yn llai unig pe byddai byw
yn awr."
Y cyfraniadau eraill yn y gyfrol dreiddgar a diddorol hon yw:
Y Bardd Steddfodol gan Hywel teifi
Edwards
Gwilym Hiraethog gan Ioan Williams
Islwyn ac Y Storm - Glyn
Tegai Hughes
Y Telynegwyr - Huw Meirion Edwards
Daniel Owen - Robert Rhys.
Beriah Gwynfe Evans: dramodydd
a chynhyrchydd - E. G. Millward
Llyfrau taith a chyfnodolion cynnar
O. M. Edwards - Hazel Davies
Arolwg Fictoraidd - Hywel Teifi
Edwards.
A Guide to Welsh Literature c.1800-1900 Volune V. Golygydd
Hywel Teifi Edwards. Gwasg Prifysgol Cymru. £14.99.
Y mae Â鶹Éç Cymru'r Byd yn cyhoeddi bob wythnos restr gan Gyngor Llyfrau
Cymru o'r llyfrau diweddaraf i'w cyhoeddi. Cliciwch
yma
|
|
|