|
|
Byd
o
fabis,
sêr a
Friends. . .
Pori
drwy J-17, cylchgrawn yr wythnos
Dydd Iau, Gorffennaf 20, 2000 |
Y
mae’r ysgolion ar gau neu wedi cau.
Mae’n bryd holi beth mae rhywun yn ei ddisgwyl o’i wyliau haf.
Os yr ydych o gwmpas eich dwy ar bymtheg oed ymhlith y dau ar bymtheg
o dips gwyliau y mae y cylchgrawn J-17 yn eu hawgrymu
y mae:
Cael deg rhif newydd ar eich ffôn symudol,
pob un yn perthyn i tanned boy-babes.
Bwyta rhywbeth na allwch ei ynganu
Nofio’n noeth efo’ch ffrindiau
Anfon neges destun at fachgen
yr ydych wedi mopio efo fo.
Snogio bachgen o wlad nad ydych
erioed wedi ymweld â hi.
Sgrifennu ei enw mewn llythrennau
mawr ar draeth tywodlyd.
Pryderon genethod ifanc
Yr ydw i’n ddigon hen i gofio J-17 pan oedd o’n cael ei alw
yn Just 17 a rhieni, mwyaf sydyn, yn gwaradwyddo o ddarganfod
pa mor fanwl oedd o’n trafod materion rhywiol.
Dechreuodd rhai alw’r hyn oedden nhw wedi arfer meddwl amdano fel
comic i’r arddegau o’i weld yn gorwedd mor ddiniwed ar eu soffas yn
porn gan sicrhau fod mwy fyth o enethod ifanc yn troi
ato.
Yr un, mae’n ymddangos, yw pryderon genethod ifainc heddiw a rhai
yr adeg honno ond bod y pryderon hynny’n cychwyn hyd yn oed yn gynt.
Mae rhai o ddarllenwyr J-17 yn poeni eu bod yn dal heb brofiad
rhywiol llawn a hwythau’n bymtheg oed.
Yn llythyr y mis mae merch 16 oed yn son am drafferthion magu ei babi
ac adolygu ar gyfer ei arholiadau TGAU ar yr un pryd.
"Meddyliwch am y pwyntiau drwg cyn rhuthro i rywbeth sy’n mynd i newid
gymaint ar eich bywyd. Mi ddysgais i’r ffordd anodd ond does dim raid
i chi. . .," medda hi.
Naw TGAU a rhyw
Ac meddai merch ifanc mewn erthygl arbennig, The Last Virgin
in Town : "By the time I hit 15, I knew that chastity was
not for me . . . My two aims in life was to get nine GCSE’s and have
sex."
Bu Ellen, 13 oed o Wales yn mynd allan efo John, 15 oed, ers dwy flynedd.
Y penwythnos diwethaf gwrthododd ei gais am gyfathrach rywiol . .
. ond mae’n holi nawr a wnaeth hi’r peth iawn.
Hyd yn oed mewn dyddiau pan yw perthynas rywiol i’w gweld yn beth
mor rhwydd â hyn i lithro iddi bu "J17 writer Nic" yn arbrofi
sut orau i 'dynnu' bechgyn mewn parc. Aeth yno gyda sgwtar, pêl-droed
a chi bach yn abwyd.
Mae’r bêl-droed yn gwneud yn well na’r sgwtar a'r ci bach yn well
na’r ddau. "Looks like they’re barking mad about each other" meddai
J17 wrth ddod i’r casgliad mai efo ci ar dennyn y mae
dal bechgyn mewn parc.
Bechgyn eu breuddwydion
Wrth gwrs, mae yna rai bechgyn na all y ferch gyffredin ond breuddwydio
amdanyn nhw - a synfyfyrio’n llesmeiriol dros eu lluniau mewn cylchgrawn
fel hwn.
Yn eu plith y mae:
Kerr Smith o Final Destination
a "second resident heart-throb" Dawson’s Creek;
Yr Hot talent Don Philip
sy’n dweud i’w gariad ddygymod yn dda iawn a’i lwyddiant personol
- nes iddyn nhw wahanu!
Dywed Dec - o Ant a Dec ("The
most loved Geordie boys, like, ever) - mai’r hyn a fyddai
ef yn ei wneud pe gallai fod yn eneth am ddiwrnod yw: "go shopping
and play with my boobs."
Eilunod eraill
Ymhlith eilunod eraill y jyst dwyarbymthegion y mae Slipknot
y band a fydd yn gwneud i’ch nain wylo, Friends - cyfres
deledu’r mis - sydd wedi eu dysgu, ymhlith pethau eraill, sut i wneud
aros i mewn yn y ty yn beth cwl a sut i regi mewn ffordd nad yw’n
anweddus.
Ffilm y mis iddyn nhw ydi High Fidelity, gyda
Sleepy Hollow yn fideo’r mis ac If Only, Geri
Halliwell yn llyfr y mis.
Cofiwch am sbectol: Beth bynnag arall ddywedwn ni am enethod
yn eu harddegau y maen nhw’n graff iawn. Dyna’r unig ffordd i egluro
y defnydd o gymaint o brint mân, mân, ar gefndir anodd ei ddarllen.
Ynteu ai cynllwyn yw hwn i’w cadw yn y ty cyn hired â phosib - o leiaf,
nes y byddan nhw’n ddigon hen i gael babis?
Chwiliwch am eiriau: mae'n ffasiwn torri geiriau'n fyr. 'Enders
am Eastenders; 'iIsh am issue a 'rents
am parents.
J-17. The World's Coolest Mag... Definitely. Awst, 2000.
£1.90.
|
|
|