Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Teithiau Edward Llwyd Edmygwyr
Edward Llwyd
ar dramp!

Cymdeithas Edward Llwyd yn cyhoeddi llyfr
o deithiau cerdded

Dydd Iau, Gorffennaf 13, 2000
Byddai’n hawdd i rywun gael ei gamarwain gan deitl y llyfr, Teithiau Edward Llwyd, i feddwl mai son y mae am deithiau gan y naturiaethwr hynod hwn o’r ail ganrif ar bymtheg.

Yr hyn sydd yma, fodd bynnag, yw 13 o deithiau cerdded yng nghanolbarth a deheubarth Cymru a brofwyd gan aelodau y gymdeithas gyfoes a sefydlwyd er cof amdano.

Y mae’r gyfrol hon yn chwaer i un arall o deithiau yng ngogledd Cymru.

Er bod yna 11 o wahanol gerddwyr yn cyflwyno’r teithiau yr un yw’r patrwm ar gyfer pob un:

Map
Dalen gyntaf yn rhoi manylion am hyd y daith, sut i gyrraedd y man cychwyn, lleoedd parcio, cyfleusterau ac ati
Disgrifiad yr awdur neu gyd-awduron o’r daith a'i hynodion

Mae pawb yn wybodus iawn am ei fro ac wedi ffureta pob math o wybodaeth ddifyr sy’n mynd i annog mwy nag un teithiwr talog i ddilyn yn ôl eu traed.

Y mae cysylltiad uniongyrchol ag Edward Llwyd ei hun yn ystod taith Llanfihangel Genau’r Glyn yng nghwmni Eddie a Bethan Jones. Meddent:

"Roedd Glanfrêd yn gartref Bridget Pryse, mam Edward Lhuyd. Pan aned Edward Lhuyd roedd ei dad, Edward Lloyd, eisoes yn briod ac fe ddiarddelwyd Bridget gan ei thad a’i hanfon ymaith. Maged Edward Lhuyd gan ei fam faeth, Catherine Bowen, yn Llanforda, cartref ei dad ger Croesoswallt. Nid oedd gan ei fam na’i dad lawer i’w ddweud wrtho pan oedd yn ifanc."

Dyfynnir ei dad yn ei ddisgrifio fel bachgen anufudd a thrahaus.

"Yn ei ewyllys gadawodd Edward Lloyd £10 i Mrs Bridget Pryse a’i ‘fine linen to Edward, son of Mrs Bridget Pryse’," meddir.

Wedi’r cychwyn hwn daeth Edward Lhuyd yn naturiaethwr mwyaf blaenllaw ei ddydd ac yr oedd hefyd yn hynafiaethydd ac yn ieithydd o fri.


Gan gychwyn ym Mai 1697 bu’n teithio Cymru, Iwerddon, yr Alban, Cernyw a Llydaw am bedair blynedd.

Bu yn y coleg yn Rhydychen a’i benodi yn Geidwad Amgueddfa Ashmole yno yn 1691. Bu farw yn 1708, flwyddyn wedi ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol.

Y mae holl rychwant ei ddiddordebau yn cael eu hadlewyrchu yn y gyfrol hwylus hon o deithiau.

Y mae gemau lawer i’w darganfod yma gyda’r teithiau yn amrywio o un o amgylch cynefin Hen Dy Fferm D. J. Williams yn Rhyd cymerau i un arall yng nghwmni Dafydd Islwyn i fyny Cwm Rhymni.

Mae o’n gwadu’r sylw mai "twll o le" yw’r cwm diwydiannol hwn. Mae’n gyfoethog ei gysylltiadau llenyddol: bu’r Prifardd Trefin yn deiliwr yn y Bargoed ac y mae cysylltiadau amlwg a’r bardd Eingl-Gymreig, Idris Davies. Ac y mae Dafydd Islwyn yn holi lle tybed yn y cwm y gwelodd Crwys yr hen wr yn ysgubo’r dail.

Yn ardal Llambed y mae Ieuan H. Roberts yn adrodd hanes trist CaeSion Phillip a sut y twyllodd tirfeddiannwr oedd eisiau prynu’r cae y llysoedd i grogi Sion er mwyn cael y tir.

Teithiau Edward Llwyd. Cyfrol 2, Canolbarth a Deheubarth Cymru. Gwasg Carreg Gwalch. £4.50

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy