|
|
Llinyn
Trons
yn cydio
Adolygiad
o Nofel y Mis
Dydd Iau, Mai 19, 2000
|
Syniad
i'w ganmol ydi un Cyngor Llyfrau Cymru i gael Nofel y Mis gyda’r
nofel honno yn cael lle o anrhydedd mewn siopau llyfrau.
Mae’n syniad gwell fyth pan yw’r nofel sy’n cael ei dewis yn un mor
naturiol a gafaelgar ag un mis Mai.
Mae awdur Llinyn Trons yn adnabyddus i ddarllenwyr Â鶹Éç
Cymru’r Byd gan fod Bethan Gwanas yn un o’n cyfranwyr rheolaidd.
Daeth i amlygrwydd fel nofelydd, gyntaf, gyda’r nofel rygbi merched,
Amdani, a drowyd wedyn yn gyfres deledu.
Criw o bobol ifanc yn eu harddegau yw cymeriadau Llinyn Trons
- gyda Llinynh Trons yn llysenw un ohonyn nhw oherwydd ei fod yn cael
ei ystyried - wel, yn cael ei ystyried yn dipyn o linyn trons.
Mae’r teitl bachog yn arwydd o’r math o iaith naturiol, hawdd ei dilyn
sy’n cael ei defnyddio yn y nofel. Iaith sy’n peri i’r stori lifo’n
ddirwystr o un ddalen i’r llall.
Llinyn Trons, Llion Jones, sy’n dweud yr hanes yn ei eiriau ei hun
am brofiadau criw o blant ysgol blwyddyn TGAU yn dod i adnabod eu
hunain ac i adnabod ei gilydd tra’n treulio cyfnod mewn canolfan gweithgareddau
awyr agored.
Mae yma ddringo, hwylio canws, syrthio mewn cariad, cenfigen, croesdynnu
a dysgu gwersi.
Y mae rhywun yn ymwybodol yn syth mai am bobol - plant - go iawn y
mae Bethan Gwanas yn sgrifennu. Mae’r dweud yn naturiol drwyddo draw
ac yn arw pan fo galw am hynny. Er yn nofel i rai o oed ysgol dydi
hon ddim yn nofel y mae ei hiaith wedi ei diheintio a’i glastwreiddio
ar gyfer y dosbarth.
"Fy mwriad oedd apelio at bobl ifanc sy’n darllen fawr ddim Cymraeg
ar hyn o bryd. Dwi’n gobeithio y bydd plant ysgol yn gallu uniaethu
â’r stori, y cymeriadau â’r iaith sydd yn y gyfrol," meddai Bethan.
Diau, iddi daro’r cywair cywir er efallai y bydd ambell un yn codi
ei eiliau wrtyh ddarllen am bobol ifanc ar ‘wyliau’ ysgol yn rhegi,
hel diod a chwydu ond bydd y digwyddiadau a’r sgyrsiau yn rhai a fydd
yn gyfarwydd i ddarllenwyr ieuanc heddiw.
Ac er wedi ei sgrifennu ar gyfer plant nid oes amheuaeth y bydd sawl
darllenydd hynach yn cael blas arni hefyd.
Mae llawer o’r nofel yn ymwneud a’r gweithgareddau awyr agored eu
hunain a’r modd y mae criw o blant yn cydymddwyn ac yn gwrthdaro dan
amgylchiadau arbennig. Y mae i bob un o’r cymeriadau ei nodweddion
a’i briodoleddau a hynny’n creu gwahanol densiynau o fewn y grwp.
Y mae tro annisgwyl a thrist yng nghynffon y nofel ond yn gwbl greadwy
gan gyffwrdd ac yn argyhoeddi.
Nofel fer, fyrlymus am bobol go iawn gyda sgyrsiau naturiol, felly.
Nofel werth chweil ar gyfer unrhyw fis.
Llinyn Trons gan Bethan Gwanas. Lolfa. £4.95.
beth ydych chi wedi ei ddarllen yn ddiweddar? Beth oedd eich barn
amdano? Anfonwch i ddweud. Cliciwch isod a gwebostio:
glyn.evans@bbc.co.uk
|
|
|