|
|
Cynhaeaf
y Cilie
Antur,
rhamant a chyffro un o deuluoedd mwyaf nodedig Cymru
Yr ail o adolygiadau cystadleuaeth
Llyfr y Flwyddyn
Dydd Iau, Mai 4, 2000
|
Heb
amheuaeth, cynhaeaf mwyaf gwerthfawr fferm tri chan erw y Cilie yng
Ngheredigion yw y beirdd, llenorion ac arweinwyr a godwyd yno.
Gwir y dywed y Prifardd T. Llew Jones yn ei ragymadrodd i un o'r cyfrolau
sydd ar rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni i "un o'r
teuluoedd mwyaf nodedig a fu'n byw yn y Gymru Gymraeg erioed"
gael ei godi ar fferm y Cilie.
Cyfrol o fawl, clod a theyrnged i'r teulu hwnnw yw Teulu'r Cilie
gan Jon Meirion Jones - un o or-wyrion y penteulu cyntaf.
Y mae'n gyfrol drawiadol nid yn unig o ran cynnwys ond o ran ei golwg
hefyd yn gyforiog o luniau diddorol i gydfynd a'r testun.
Pum merch a saith o fechgyn
T.Llew Jones sy'n gosod y cefndir:
"Roedd e'n deulu mawr o ddeuddeg o blant - pump o ferched
a saith o fechgyn - i gyd yn epil y gof a'r bardd Jeremiah Jones a'i
wraig Mary.
"Aeth dau o'r bechgyn i'r Weinidogaeth a dod yn bregethwyr mwyaf
amlwg a phoblogaidd eu dydd. Enillodd un mab Gadair a Choron yr Eisteddfod
Genedlaethol a dyrchafwyd tri ohonynt i urdd y wisg wen yng Ngorsedd
y Beirdd am eu cyfraniad i farddoniaeth Gymraeg. Enillodd un arall
wobr yr 'Academi' am gyfrol o farddoniaeth orau'r flwyddyn. Cyhoeddodd
y brodyr rhyngddynt ryw ddeg o gyfrolau o farddoniaeth a rhyddiaith.
. ."
Arwydd o natur y cyfnod cychwynnol - troad y ganrif a blynyddoedd
cynnar y ganrif hon - yw mai am y saith o fechgyn y mae'r mwyaf o
son ac amdanyn nhw yr ydym yn debyg o fod wedi clywed cyn troi at
y gyfrol hon.
Y mae Jon Meirion Jones, fodd bynnag, yr un mor ofalus yn rhoi hanes
y pum merch oherwydd eu cyfraniad a'u dylanwad hwythau.
Gwraig y Cilie
Yr un mor allweddol a Jeremiah Jones yn hanes sefydlu teulu'r Cilie
oedd ei briod, Mary George:
"Ni welwyd ei henw gyferbyn ag un pennill, na chân nac
englyn. Hi oedd y llaw fu'n siglo'r crud, hi oedd yn cynghori yn awr
yr argyfwng, hi a lywiai'r cwch yn y dymestl," meddai gan
fynd ymlaen i ddyfynnu disgrifiad Isfoel, un o'i meibion, ohoni:
"Gwraig araf, gall a chadarn yn ei mater, yn pwyso pob pwnc
yn annibynnol ac yn canfod yn bell tu hwnt i syniadau a gweledigaethau
gwyllt ei chymar, a phan âi efe dros ben llestri weithiau, un
gair o'i heiddo a'i lliniarai fel haul ar ymenyn, ac ni feiddiai ddadlau
â hi ar unrhyw bwnc."
Yn Hydref 1889 y cymerodd Jeremiah Jones denantiaeth fferm a oedd
yn nodweddiadol o drefn y cyfnod hwnnw o fferm fawr yn ganolbwynt
i glwstwr o weithwyr o'i hamgylch.
Manteisia Jon Meirion Jones ar lu o ddyfyniadau a lluniau i gyfleu
yn fyw naws a natur cefn gwlad y cyfnod hwnnw yn economaidd, yn gymdeithasol
ac yn ddiwylliannol. Er yn ymylu ar fod yn ddarlun rhamanatidd bron
o gyd-dynnu, cydweithio a chyd-ddyheu cymunedol nid yw ychwaith yn
euog o anwybyddu y caledi.
Ond darlun wedi ei liwio a gwareidd-dra naturiol a ddeilliai o ymddiddori
mewn crefydd, diwylliant, llên a chân sydd yma.
Dafad ddu
Nid nad oedd gan fferm y Cilie ei dafad ddu fel petai - ond er iddi
grwydro ymhell dros ei therfyn y mae hon hefyd yn ddafad i ymhyfyrdu
ynddi yn y pen draw.
Carcharwyd John Tydu Jones, y pumed plentyn, am flwyddyn yng ngharchar
Cerfyrddin gyda llafur caled am ymosod, yn dilyn hen ffrae deuluol,
ar gymydog, y Capten David Griiffiths a oedd yn cael ei adnabod yn
lleol fel Adda'r Tar.
Yr argraff a gawn o'r gyfrol yw iddo gael ei yrru i hyn yn erbyn ei
ewyllys.
"Adnabyddid Tydu fel champion of the underdog ac roedd
ganddo enw fel 'un a allai edrych ar ei ôl ei hunan',"
meddai Jon Meirion Jones.
Gydag ef yr oedd cydymdeimlad y teulu fel y dengys yr englyn hwn ato
yng ngharchar gan Isfoel:
O'r carchar anwar yna - datodir
Di, Tydu, o'th rwyma';
Yn nhywyll nos llawenha,
Daw hedd o wado Adda!
Ond dyfynnir Simon, ei frawd arall, yn dweud wrtho: "Oni bai
amdanat ti, a beth wnest ti, byddai teulu'r Cilie yn un o'r teuluoedd
mwyaf parchus yng Nghymru."
Allan o nythaid o rai lliwgar Tydu, o bosib, oedd y mwyaf
lliwgar a rhamantus hefyd ac er gwaethaf gwrhydri a pheth garwedd
yn un gyda rhyw geinder arbennig i'w farddoniaeth.
Ef hefyd gafodd y bywyd mwyaf anturus.
Gadael am Ganada
"Cafodd ei garchariad a marwolaeth ei dad gryn effaith arno,"
meddai Jon Meirion Jones, "Roedd wedi edifarhau ac am symud
y sen a ddisgynasai ar y teulu trwy ei gamwedd, a phenderfynodd ymfudo
i Ganada. Hwyliodd o Lerpwl ar yr Empress of Canada yn Chwefror
1904, a glaniodd yn Halifax Nova Scotia."
Yno cafodd fywyd llawn cyffro ac antur lle nofiodd drobyllau Rhaeadr
Niagra a gwnaeth gais am hwylio dros y rhaeadr mewn casgen hefyd.
O bosib mai'r enwogrwydd mwyaf i ddod i'w ran yno fu cynnwys cwpled
ganddo sydd i'w weld hyd heddiw ar fwa mewnol yn y Siambr Goffawdwriaethol
yn y Twr Heddwch yn Senedd-dy Canada yn Ottowa i gofio am y rhai a
laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf:
All's well, for over there among his peers
A Happy Warrior sleeps.
Ymgyrchydd blaengar
Ond yr oedd cyfraniad eraill o'r brodyr yr yn mor drawiadol os nad
bob amser mor lliwgar. Yn weinidog yr oedd Fred Jones yn ymgyrchydd
blaengar ym maes gwleidyddiaeth iaith. Diddorol darllen amdano yn
dweud yn 1930:
"Gwelaf gyfundrefn addysg Seisnig, ac nid oes ond dyrnaid
bach o rai mwy diwylliedig na'i gilydd yn darllen dim Cymraeg . .
. gwelaf rhyw druth o sylw i'r Gymraeg ar y 麻豆社. Ac yna athrawon sydd
a'u hiaith yn llaprau yn cael eu hystyried yn ddigon da i'w dysgu.
. . Bydd presenoldeb un Sais mewn pwyllgor o bymtheg yn ddigon i droi'r
cyfan yn Saesneg. Hynny yw, y mae un Sais a llywodraeth Seisnig tu
ôl iddo yn gryfach na gwlad gyfan o Gymry heb lywodraeth Gymraeg
y tu ôl iddi."
Ni ellir ond edmygu llafur Jon Meirion Jones yn casglu'r holl ddeunydd
ynghyd ar gyfer y gyfrol werthfawr a diddorol hon. Mae o ddiddordeb,
wrth gwrs, y tu allan i'w milltir sgwar gan fod dylanwad bois y Cilie
yn parhau yn fyw yn y tir a'r disgynyddion yn parhau yn lefain yn
nhoes Cymru a Chymreictod - yn wir, byddai cynnwys coeden deuluol
gyda'u henwau wedi bod yn ychwanegiad buddiol i'r gyfrol. Mae'n ddiffygiol
hebddi.
Peth arall a fyddai wedi ei hwyluso fel cyfrol fyddai mynegai manwl.
Anodd deall sut yr ystyriwyd ei chyhoeddi heb un.
O ddiddordeb hefyd fyddai gwybodaeth am gyflwr a pherchenogaeth y
fferm heddiw.
Ond dydio'n syndod yn y byd i gyfrol mor ddiddotrol gyrraedd rhestr
fer Llyfr y Flwyddyn.
Teulu'r Cilie gan Jon Meirion Jones. Barddas £11.95
Cliciwch yma am erthygl am un arall
o gyfrolau Llyfr y Flwyddyn:
|
|
|