Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


clawr y Black Media Journal LLeisiau duon

Cylchgrawn yr wythnos y tro hwn yw Black Media Journal

Dydd Iau, Ebrill 20, 2000
Pwyso a mesur sut mae’r cyfryngau ym Mhrydain yn trin pobol dduon y mae BMJ - Black Media Journal.

Ymateb sgrifenwyr o dras Affricanaidd, Caribeaidd ac Asiaidd sydd yn yr hyn sy’n cael ei alw yn llais swyddogol y Black Media Institute - corff na wyddwn i am ei fodolaeth.

Mae’n llwyfan i bawb sydd a rhywbeth i’w ddweud am agwedd y cyfryngau tuag at bobol dduon.

A ninnau, Gymry, yn lleiafrif ieithyddol y mae gennym ddiddordeb naturiol mewn gwybod mwy am helyntion lleiafrioedd eraill.

Pwy ydan ni
Dydi o ddim yn synnu rhywun fod hunaniaeth a 'phwy ydan ni' yn bwnc trafod; gyda Darcus Howe, yn dilyn taith o amgylch Prydain ar gyfer rhaglen deledu, yn datgan yn groyw, "If there is one thing I know - this is my country. I am an Englander."

Darganfu ef hefyd fod yr "Hen Loegr" hunanhyderus wedi diflannu.

"Mae pobol mewn creisus, mae rhywbeth wedi gorffen a does yna ddim i’w roi yn ei le," meddai.

Ymhyfrydu mewn bod yn wahanol
Mae ystyriaethau arbennig i berthyn, wrth gwrs, os ydi rhywun yn teimlo ac, yn enwedig, yn edrych yn wahanol i’r lleng a neges BMJ i bobol dduon yw fod angen iddyn nhw ymhyfrydu yn yr hyn ay’n eu gwneud yn wahanol.

Rhybuddir na thâl hi ddim, i smalio bod pawb yr un fath a dywedir bod angen arbennig am sgrifenwyr duon sy’n deall holl rychwant y bywyd du yn ei holl amrywiaeth.

Arwydd o eangder y rhychwant hwnnw yw yr amrywiaeth o bynciau sy’n dod dan chwydwydr BMJ o faterion rhyngwladol i ryw gyda thrafodaeth eang am erotica du.

Mae Janet Momo yn cymryd "a long, hard, look at the chocolate jungle bunny, Naomi Campbell"

Er bod edrych yn hir arni hi yn rhywbeth hawdd iawn ei wneud y mae’r defnydd a wnaeth Playboy ohoni yn codi cwestiwn ynglyn â’r defnydd o ferched yn gyffredinol a’r defnydd o ferched duon yn arbennig i ddibenion gogleisio rhywiol.

Mae llawer yn cael ei wneud o’r ffaith i Naomi fabwysiadu - wrth bosio’n rhywiol mewn llun efo llewpard - ystum negresse oedd yr hen berchenogion caethweision yn ei ffafrio pan yn treisio eu heiddo.

Mae Elaine Pennicott yn holi wedyn "why Melvin Van Peebles is so damn sexy" wrth drafod y "black male superstud" hwnnw.

Syllu i ddyfnder yr enaid
Mae Caroline Shola Arewa am i bobl edrych yn ddwfn i’w heneidiau eu hunain.

"Y neges yr ydym yn ei derbyn ar hyn o bryd yw nad yw pobl o liw, gyda chyrff siocled blasus, prydferth, yn ofni rhywioldeb. Nid yw ei rym a’i hudolaeth yn tarfu arnom. Yr ydym yn fodau rhywiol ac yn falch o hynny ond y mae’n ymddanos ein bod yn ofnus pan yw’n dod i ddathlu ein rhywioldeb a’i gysegredigrwydd," meddai hi.

"Y mae’n bryd inni anwesu ein prydferthwch a’n rhywioldeb a’r ysbryd sy’n cyniwair ynddom a dangos beth ydym mewn gwirionedd a dangos ein dwyfoldeb," meddai.

gan Glyn Evans

BMJ. Rhifyn 2. £3.50

Os ydych eisiau ymateb i'r erthygl hon, cliciwch ar y cyfeiriad gwebost:
glyn.evans@bbc.co.uk

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy