麻豆社


Explore the 麻豆社

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gwyddau
Gregynog
gan Gerallt

Cerdd mewn argraffiad cain

Dydd Iau, Mawrth 30, 2000
Yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "a fine late poem" gan y diweddar R. Gerallt Jones yw cynnwys y cyhoeddiad diweddaraf o Wasg Gregynog.

Yn un o gyhoeddiadau cain y wasg y mae'r gyfrol 16 tudalen yn costio £35 ac wedi ei hargraffu ar bapur cotwm pur.

Dim ond 250 o gopiau sydd wedi eu hargraffu o
Gwyddau yng Ngregynog ac y mae gwaith celf gan Colin See-Paynton a chyfieithiad gan Joseph Clancy.

Yn ogystal a bod yn fardd, nofelydd, storiwr a beirniad llenyddol blaenllaw yr oedd R. Gerallt Jones hefyd yn warden Gregynog ar un adeg a da gweld y wasg a leolir yn y plasty hardd ym Maldwyn yn ei anrhydeddu gydag un o'i chyhoeddiadau.

Cyhoeddwyd y gerdd gyntaf yng nghylchgrawn yr Academi Gymreig, Taliesin, y bu R. Gerallt Jones yn ei olygu gyda'r diweddar Bedwyr Lewis Jones o 1987 tan 1992.

Yr oedd R. Gerallt Jones yn llenor cynhyrchiol iawn ac yn cyfrannu i radio a theledu hefyd.

Americanwr yw Joseph P. Clancy. Dysgodd Gymraeg yn y chwedegau ac y mae'n awdur nifer o gyfieithiadau o'r Gymraeg i'r Saesneg ganb gynnwys dramau gan Saunders Lewis.

Y mae'n byw yn Aberystwyth gyda'i briod, Gerrie, sydd hefyd yn fardd ac yn awdur straeon i blant.

Y mae Colin See-Paynton yn arlunydd sy'n gweithio o'r Rhiw yng nghanolbarth Cymru ac y mae dra adnabyddus am ei ysgythriadau o fywyd gwyllt, yn enwedig adar.

Dyma'r bumed gyfrol iddo ei darlunio ar gyfer Gwasg Gregynog.

Cynhyrchwyd y papur marmor ar gyfer claw y gyfrol gan Victoria Hall o Norwich sydd wedi bod yn gwneud y math hwn o waith er 1989 gan ennill iddi ei hun mewn sawl gwlad.

Wythnosau Blaenorol:

[an error occurred while processing this directive]*

[an error occurred while processing this directive]
*
*
*
Siaradwch
*
[an error occurred while processing this directive]

*
*
Dysgwch
[an error occurred while processing this directive] *
Gwybodaeth
*
Arolwg Blynyddol
adborth.cymru@bbc.co.uk
麻豆社 Wales (Saesneg)


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy