Adolygiad
|
|
Straeon
gyda gafael
Bu Glyn Evans yn darllen straeon byrion Gareth Miles
Dydd Iau, Mawrth 16, 2000
|
Y mae gan Gareth Miles agenda wleidyddol - os dyna’r ymadrodd trwsgwl, cywir - amlwg iawn ac mewn
casgliad o straeon byrion o’i eiddo a gyhoeddwyd yn ddiweddar nid oes ymgais i guddio hynny.
Fe allai hynny, mewn dwylo llai celfydd, fod yn feichus i'r darllenydd ond dyw’r wythien wleidyddol amlwg
ddim yn gwneud Romeo a Straeon Eraill yn wrthun o gwbl.
Y mae yn gyfrol eang ei gweledigaeth gyda’i gwleidyddiaeth nid yn unig yn un genedlaethol Gymraeg ond
hefyd yn ymwneud a hawliau a brawdgarwch dyn yn fydeang.
Tebyg fod Marcsaidd yn air cyfleus a phriodol gydag argyfwng a gwrthdaro yn esgor ar ddigwyddiadau
nid yn unig yn gymdeithasol ond mewn bywyd personol hefyd.
Mae yma rai profiadau personol hunllefus sy'n ysgwyd ac yn sobri rhywun.
Y mae’r llwyfan i’r chwe stori fer yn eang felly.
Plethu i'w gilydd
Yn ogystal a bod yn blethwaith thematig y mae rhai ohonyn nhw yn plethu i’w gilydd o ran y stori hefyd.
Er enghraifft, y mae Rhian ac M yn gorgyffwrdd ac hefyd Rosa a Branwen ond,
yn y ddau achos, oherwydd breuder y cysylltiad does dim rhaid darllen y naill i werthfawrogi a deall y
llall.
Mae yn gyfrol llawn adleisiau.Weithiau mae’r adleisiau hynny fel ag yn Branwen yn gwbl amlwg. Mae
Cymraes o’r enw Branwen yn priodi Gwyddel, Kevin, sy’n aelod o’r IRA ac yn cael ei chamdrin ganddo ar
ôl cartrefu ar yr Ynys Werdd. Does dim rhaid bod yn hyddysg iawn yn ei Fabinogion i weld arwyddocâd
hynna.
Hon, i mi, yw un o straeon gorau y casgliad yn cael ei hadrodd o safbwynt sawl cymeriad gan gynnwys tad
Branwen a’i brodyr Mathonwy a Gwyn gyda Mathonwy yn aelod o’r fyddin ac yn filwr yn Iwerddon.
Does yna ddim du a gwyn yn hon na'r straeon eraill ac mae cymhlethdod a thyndra y berthynas rhwng y gwahanol
gymeriadau bob amser yn afaelgar ac weithiau yn gignoeth.
"Marwolaeth Mam oedd gwreiddyn pob drwg ddigwyddodd wedyn," yw’r frawddeg gyntaf yn Branwen
sy’n agor y drws i gawlach o berthynas deuluol a chwestiynau am berthynas pobl a’i gilydd.
Yn y stori M y mae’r gyfeiriadaeth yn amlwg at y smyglwr cyffuruiau o Gymro, Howard Marks o Faesteg,
ond y stori yn fwy na dim ond ei hanes o.
Camdrin a threisio
Datgelodd Gareth Miles adeg cyhoeddi’r gyfrol fod y stori ddirdynnol, Rosa, un arall o oreuon y
gyfrol ond ei bod yn dirwyn i ben yn rhy frysiog, wedi ei sylfaenu ar hunangofiant Rigoberta Menchu o
Guatamala.
Adlais o stori Blodeuwedd sydd yn ei hanes hi yn ferch ifanc o America Ladin a ddaeth i fyw i Gymru ar
ôl cael ei chamdrin a’i threisio a gweld ei brawd ei hun yn cael ei ladd.
Nid oes amau dawn Gareth Miles fel lluniwr stori ac y mae ganddo ddawn arbennig i ddatblygu’r hanes trwy
lygaid sawl cymeriad.
Rhagoriaeth arall yw ei ddawn i greu sgyrsiau a chyfleu natur cymeriad trwy ei sgwrs.
Mae sgwrs chwithig dau o hen gyfoedion ysgol yn cyfarfod ar faes y Steddfod yn benigamp yn Romeo
a sgyrsiau'r cyfryn-gwn yn Eifion Maelor yn batrwm.
Y mae amrywiaeth o acenion a thafodieithoedd Cymraeg yma . Pob un yn argyhoeddi ac yn hwyluso’r darllen.
Bydd sawl sgrifennwr yn genfigennus o glust mor fain.
Llawer mewn ychydig
Fel storiwr, hefyd, mae’n effeithiol ac yn ddiwastraff a does yna ddim afradu geiriau
Y mae llawer yn cael ei gyfleu mewn ychydig eiriau gyda’r brawddegau moel yn gwneud mwy na chofnodi ffaith
ond yn cyfleu teimladau hefyd. Mae'n werth ei weld yn adeiladu brawddegau.
"Mi fydda’n hanas ni fel teulu wedi bod yn wahanol iawn pe na bai’r Sais wedi bod ar gymaint o
frys i gyrraedd ’i dy ha’ yn Abar-soch. Doedd o na’i Jag fawr gwaeth. Mi ddaeth hen Wolsley 1500 ’Nhad
o’r drin yn rhyfeddol o dda, ond mi aeth Mam drwy’r winsgrin."
Mewn cynildeb, mae llawer a go brin mai honna yw’r enghraifft orau o’r hyn rwyf am ei gyfleu.
Ar y clawr ymffrostir y bydd testun a ieithwedd y straeon hyn yn "sicr" o "ymestyn ffiniau
y stori fer yng Nghymru."
Dydw i ddim yn siwr iawn be mae rhyw ymadrodd ffuantus felna i fod i’w olygu yn union. Os ydio’n golygu
fod yma straeon gafaealgar mewn arddull i’w hedmygu sy’n mynd i’r afael a phynciau o bwys mewn ffordd
ddifyr nad yw’n llethol o gwbwl, cytunaf gant y cant.
Romeo a Straeon Eraill gan Gareth Miles. Gwasg Crreg Gwalch. £4.75
Beth ydych chi wedi ei ddarllen yn ddiweddar? Ydych chi am ei argymell i eraill? Anfonwch i ddweud. Gwebostiwch
trwy glicio yma:
glyn.evans@bbc.co.uk
|
|
|