Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


llyfrau Llyfrau
pobol
y llyfre

Gyda thros bedair miliwn o lyfrau yno dydio ddim syndod o gwbl i Lyfrgell Cenedlaethol Cymru fynd ati i ddathlu Diwrnod y Llyfr, ddoe.

Dydd Sadwrn, 11 Mawrth, 2000

Un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd ymhlith staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yw’r hen ffefryn, Llyfr Mawr y Plant, meddai Sion Jobbins.

Ar gyfer Diwrnod y Llyfr holwyd staff y llyfrgell am eu hoff lyfrau, a dyma’r ymateb:

Roedd Llyfr Mawr y Plant yn syndod o boblogaidd, meddai, – ydi’r staff yn hiraethu am ddyddiau eu plentyndod, neu oes ’na lawer o rieni ifainc yn y Llyfrgell? Un cwestiwn sydd, pryd gawn Llyfr Mawr nesaf- i blant mawr a bach?!

Hanes Cymru. Mae beibl hanes y Dr John Davies yn dal i fod yn boblogaidd. Fel buasai rhywun yn disgwyl gan staff y Llyfrgell Genedaethol, mae’n cael ei ddefnyddio fel llyfr i’w fwynhau a llyfr i’w bori ynddo am wybodaeth pwysig yn y gwaith.

Mae Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard yn dal i fod ar y brig a hynny drigain mlynedd ers cyhoeddi'r nofel hunangofiaannol ac un ffilm yn ddiweddarach.

Nofel boblogaidd arall oedd yr hen ffefryn, Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames. Tydyn nhw ddim yn sgwennu nofelau fel yr oedden nhw yn yr hen ddyddiau!

Ymhlith y llyfrau poblogaidd eraill y mae ysgrifau Islwyn Ffowc Elis, Cyn Oeri’r Gwaed, llyfr Harri Gwynn, Y Fuwch a’i Chynffon, a'r nofel Tabyrddau’r Babongo hefyd gan Islwyn Ffowc Elis.

Ymysg y fferfrynnau eraill mae Gweledigaethau’r Bardd Cwsg a Gwaith Guto’r Glyn.

Beth yw eich hoff lyfr Cymraeg chi? Beth am lunio rhestr o bump a dweud gair neu ddau am eich dewis.
Ebostiwch yn syth i'r golygydd nodwedd
:

glyn.evans@bbc.co.uk
Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy