|
|
Diwrnod
y llyfr
Pob math o ddigwyddiadau
ar hyd a lled Cymru
Dydd Iau, Mawrth 9, 2000
|
Mae yfory, dydd Gwener Mawrth 10, yn ddiwrnod mawr I bawb sy’n mwynhau llyfrau.
Ac fe fydd yna lu o ddigwyddiadau ledled Cymru i ddathlu Diwrnod y Llyfr.
Gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn trefnu a’r Cynulliad Cenedlaethol yn talu bydd y digwyddiadau yn amrywio
o sesiynau 'cwrdd ag awdur' ar drenau bach Cymru, i ddarlleniadau mewn canolfannau siopio a danfon pytiau
o lyfrau ar y rhyngrwyd.
Yn ystod y bore bydd nifer o awduron plant, gan gynnwys Siân Lewis a Julie Rainsbury, yn darllen i blant
ysgol ar Reilffordd Dyffryn Tawe, Rheilffordd Llyn Tegid, Rheilffordd Llyn Llanberis, a Rheilffordd Dyffryn
Teifi.
Yng Nghaerdydd, bydd gweithgareddau yn y Ganolfan Celfyddydau Gweledol â’r Llyfrgell Ganolog. Bydd y prifathro
a'r bardd Neil Nuttall yn cynnal sesiynau barddoniaeth, yr artist, Jackie Morris, a beintiodd ddarluniau
ar gyfer llyfr y diweddar Ted Hughes, How the Whale Became, yn cynnal gweithdy paentio, a'r awdur,
Gillian Clarke, yn cynnal sesiynau dweud stori.
Yn y Ganolfan Celfyddydau Gweledol bydd y Cyngor Llyfrau yn lansio llyfryn arbennig ar gyfer rhieni,Helpu
eich plentyn i ddarllen, ac o bencadlys y Cyngor yn Aberystwyth gweithredir cynllun uchelgeisiol i
ddanfon pytiau byr o lyfrau dros y rhyngrwyd i gynulleidfa o 25,000.
Yn arwain at Ddiwrnod y Llyfr bu gwahanol bapurau dros y wlad yn argraffu tocynnau llyfrau arbennig i'w
defnyddio ar Ddiwrnod y Llyfr ei hun a'r diiwrnod wedyn, Mawrth 11. Bydd y tocynnau yn caniatau £1 i ffwrdd
ar bob llyfr a brynir gwerth £2.99 neu fwy.
Bydd gwahanol weithgareddau stryd hefyd gydag actorion yn rhoi darlleniadau yng Nghaerfyrddin a Llanelli,
tra yng Nghanolfan Siopa Fictoria, Llandudno, bydd dwy artist yn creu cerfluniau anferth ar thema llyfrau.
Darlledir yn fyw o siop lyfrau Ottakar yn Aberystwyth yn y bore ar Radio Ceredigion gydag awduron yn cynnal
gwahanol sesiynau.
Gydol yr wythnos mae'r diwrnod wedi bod yn cael sylw ar raglenni Radio Cymru.
Bydd disgyblion ysgol o bob cwr o'r wlad hefyd yn dathlu gydag Ysgol Uwchradd Llanrhymni, Caerdydd, yn
cynnal ffair lyfrau a sillafu a darllen noddedig , tra bo staff Ysgol Gynradd Penllwyn, Pontllanfraith,
wedi dyfeisio gêm fwrdd anferth, yn seiliedig ar agweddau o lenyddiaeth blant, ar gyfer disgyblion.
Meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru:
"Rydyn ni wedi cael ymateb penigamp i Ddiwrnod y Llyfr. Mae brwdfrydedd y cyhoedd, sydd wedi ymgymryd
yn llwyr â dibenion y diwrnod, yn galonogol iawn ac yn dangos bod llyfrau yn parhau i danio'r dychymyg
yn wyneb cystadleuaeth gemau fidio, ffilmiau a theledu."
|
|
|