|
|
Dathlu
taith
Mari Jones
Y ferch a gerddodd
i gael Beibl
Dydd Iau, Mawrth 9, 2000
|
Bydd taith gerdded arbennig
yfory yn dathlu dau canmlwyddiant taith chwedlonol Mari Jones i'r Bala i brynu Beibl Cymraeg.
Yr un diwrnod bydd llyfr i blant am ei bywyd yn cael ei gyhoeddi.
Er mwyn prynu copi o Feibl Cymraeg William Morgan, bu Mari, merch fferm dlawd, yn casglu ceiniogau am
chwe blynedd. Dim ond pymtheg oed oedd hi pan gerddodd yn droednoeth ac ar ei phen ei hun i'r Bala o Lanfihangel
y Pennant i brynu Beibl.
Y Parchedig Thomas Charles o’r Bala yn son am ei thaith arweiniodd at sefydlu Cymdeithas y Beiblau.
Bu hanes Mari Jones yn boblogaidd nid yn unig yng Nghymru ond mewn gwledydd eraill hefyd.
Disgyblion o Ysgol Uwchradd Tywyn, Ysgol y Gader, Dolgellau, Ysgol y Moelwyn, Ffestiniog, ac Ysgol y Berwyn,
Bala fydd yn ail- greu rhan o'r daith 25 milltir o gartref Mari yn Llanfihangel y Pennant, i’r Bala.
Bydd y daith, a drefnir gan Gyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru, yn dechrau am ddeg y bore
ac yn dilyn llwybr ar hyd y priffyrdd. Disgyblion Ysgol y Berwyn fydd yn cwblhau'r rhan olaf, ac yn cyrraedd
y dref tua 2.45 y prynhawn.
Awdur y llyfr, Mari Jones a'i Beibl, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar y diwrnod Mig Holder ac fe’I haddaswyd
gan Margaret Cynfi, a'i gyhoeddi gan Gyhoeddiadau'r Gair, yn y Gymraeg.
. Meddai’r Parchedig Aled Davies o Gyhoeddiadau'r Gair, "Mae pobl ledled y byd wedi clywed hanes Mari
Jones a'i thaith ryfeddol. Does dim dwywaith bod ei hanes wedi ysgogi sefydlu Cymdeithas y Beiblau, cymdeithas
sy'n parhau i genhadu dros gyfieithu'r Beibl i gynifer o ieithoedd â phosibl er mwyn i bawb allu ei ddarllen.
"Mae'n briodol ein bod ni'n dathlu ei thaith hanesyddol ar Ddiwrnod y Llyfr, ac rydym yn falch bod disgyblion
yr ardal yn gallu cymryd rhan yn y daith gerdded hon i goffáu Mari Jones."
Ffeithiau Beiblaidd
Cyfieithwyd y Beibl i'r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan yn 1588.
Arweiniodd y digwyddiad hwnat ddiogelu dyfodol yr iaith Gymraeg er mai bwriad yr awdurdodau oedd ei gwneud
yn haws i’r Cymry fedru dilyn y fersiwn Saesneg o’r Beibl.
Heddiw, mae'r Beibl ar gael mewn 300 o ieithoedd a rhannau ohono mewn 1,500 o ieithoedd.
|
|
|