Mwy na thebyg fe fyddwch wedi darllen blogbost diflewyn ar dafod Leighton Andrews ynghylch Cymdeithas yr Iaith erbyn hyn. Os na ydych chi mae'r cyfan ar gael yn ond mae hanfod ei ddadl ar ddiwedd yr erthygl.
"Yn anffodus, mae'n ymddangos bod y Gymdeithas wedi datblygu'n un o'r sefydliadau hynny y rhybuddiais amdanynt yn Strategaeth yr Iaith Gymraeg, nad ydynt eto wedi ymgyfarwyddo â datganoli. Fel S4C cyn penodiad Ian Jones, fel CBAC, fel Prifysgol Cymru, fel y 22 awdurdod addysg lleol ac fel yr Eisteddfod.
Os yw'r Gymdeithas am fod yn rhan o'r sgwrs fawr ar ddyfodol yr iaith, yna mae pob croeso iddynt. Ond allan nhw ddim eistedd o amgylch y bwrdd trafod a cheisio atal eraill rhag gwneud y gwaith y cawsant eu hethol i'w wneud ar yr un pryd.
Mae'r Gymdeithas wedi troi'n hanner cant bellach, ac mae'n bryd iddi dyfu i fyny."
Nawr mae'n anodd anghytuno a honiad y Gweinidog bod meddiannu ei gar swyddogol pan oedd e eisoes wedi cytuno i gwrdd â'r protestwyr i drafod eu pryderon yn beth rhyfedd i wneud. Beth oedd y protestwyr yn ceisio cyflawni? Mae'n anodd gwybod.
Ond i fi nid ymddygiad y Gymdeithas sy'n ddiddorol yn fan hyn ond ymateb y Gweinidog. Yn sicr mae Leighton yn wleidydd sy'n hoff o siarad plaen. Dyw e ddim yn ofni pechu pobol na herio eu rhagdybiaethau. Yn eironig ddigon yr unig wleidydd cyfoes sy'n dod yn agos ato o safbwynt ei barodrwydd i dynnu nyth cacwn i'w ben yw ei elyn pennaf Michael Gove, Ysgrifennydd Addysg Lloegr.
Fel mae Leighton yn awgrymu yn ei bost mae 'na dipyn o hanes rhyngddo fe a fi. Ni'n nabod ein gilydd ers degawdau ac rwy'n meddwl yn ei ddeall yn gymharol dda. Un peth fi'n sicr yn ei gylch yw bod bron popeth y mae Leighton yn gwneud yn cael ei wneud at bwrpas. Nid tynnu blew o drwyn er mwyn gwneud hynny mae'r Gweinidog Addysg.
Sylwch nad yng ngwres y foment y cyhoeddodd Leighton ei sylwadau ond peth amser ar ôl y digwyddiad y mae'n cwyno yn ei gylch. Mae'r lled-fygythiad a'r gwahoddiad wedi eu geirio'n ofalus.
Ac o dderbyn telerau'r Gweinidog beth all y Gymdeithas ddisgwyl? Gwn hyn am Leighton hefyd. Mae'n hael i'r rheiny sy'n derbyn ei gyngor. Y bore yma cyhoeddwyd y gorchymyn fydd yn arwain at uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru Casnewydd uniad yr oedd y Leighton yn deisyfu ei weld ac ynghyd a'r gorchymyn cyhoeddiad arall - £24.8 miliwn o gyllid ychwanegol i'r sefydliad newydd.
Fel dywedais i mae Leighton yn hael i'w gyfeillion ac o leiaf mae'n hoffi Colin!
Un o'r tasgau lleiaf heriol rwy'n wynebu yn ystod fy wythnos gwaith yw gwrando ar sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog a'i chrynhoi i'r rheiny sy'n gwylio AMPM ar Â鶹Éç2.
Mae gan y rhaglen gynulleidfa ond mae'n un fechan ac yn llai o dipyn na'r nifer sy'n gwylio fersiwn San Steffan o gwestiynau'r Prif Weinidog bedair awr ar hugain yn ddiweddarach.
Nawr mae'n bosib bod yn well gan y Gynulleidfa Gymreig Andrew Neil na Vaughan Roderick ond esboniad mwy tebygol am y gwahaniaeth yw bod 'na ddiffyg drama yn perthyn i'r croesholi yn y Bae. Mae'r sesiynau'n gallu bod yn ddiddorol ond dyw nhw ddim ar y cyfan yn adloniant da.
Mewn un ystyr dyw hynny o fawr o ots. Atebolrwydd nid adloniant yw'r pwrpas, wedi'r cyfan. Ond mae 'na gred cyffredinol nad yw'r sesiynau'n yn gweithio o'r safbwynt hwnnw chwaith - bod Carwyn Jones yn cael getawe ar bethau byth a hefyd oherwydd cwestiynu llac a'i barodrwydd yntau i droi ei atebion yn ymosodiadau ar lywodraeth David Cameron.
Yn ystod y misoedd diwethaf mae pobol o bob plaid wedi gofyn i mi beth fyswn i'n gwneud i wella pethau. Mewn gwirionedd does gen i ddim ateb pendant.
Yn rhannol y cast sy'n gyfrifol am fethiant y ddrama. Roedd 'na hen ddigon o wrthdaro a drama yn nyddiau cynnar y cynulliad wrth i Dafydd Wigley ac Alun Michael wynebu ei gilydd yng nghrombil TÅ· Hywel. Os nad yw'r cast presennol yn ddigon siarp ac ysgafndroed i roi her go iawn i'r Prif Weinidog does 'na fawr ddim fydd yn newid hynny.
Serch hynny mae gen i ambell i awgrym strwythurol a allai wella pethau.
Ar hyn o bryd mae'r arweinyddion y tair gwrthblaid yn cael gofyn tri chwestiwn yr un yn y cyfnod a glustnodir ar eu cyfer. Dyw hynny ddim yn ddigon. Yn San Steffan mae Ed Miliband yn cael gofyn hyd at chwe chwestiwn. Mae Andrew RT Davies, Leanne Wood a Kirsty Williams yn cymryd eu tro i agor cyfnod cwestiynau'r arweinwyr. Beth am ganiatáu chwe chwestiwn gan bwy bynnag sy'n mynd gyntaf?
Yr ail beth a allai fod o help fyddai gwahardd aelodau rhag darllen eu cwestiynau. Mae hynny wedi ei wahardd yn San Steffan a dydw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam y dylai Bae Caerdydd fod yn wahanol.
Yr awgrym olaf sy gen i yw cyfyngu ar y defnydd mae'r aelodau yn gwneud o gyfrifiaduron yn y Siambr. Byswn i ddim yn cael gwared arnyn nhw. Maen nhw'n caniatáu system bleidleisio llawer callach nac un San Steffan ac yn ffordd i aelodau gyfeirio at yr agenda a phapurau perthnasol i'w trafodion. Ond, o ddifri calon, os ydy aelodau'n credu bod hi'n gymwys ddelio a'u post neu bori'r we yn ystod eisteddiad - pa hawl sy ganddyn nhw i gwyno ynghylch diffyg diddordeb ymysg y cyhoedd?
Es i am dro rai blynyddoedd yn ôl i chwilio am le o'r enw Ffwddog neu Fwthog neu Foothog. Beth bynnag yw'r sillafiad cywir methais ddod o hyd iddi. Mae hi wedi diflannu naill ai o dan ddŵr cronfa Grwyne Fawr neu goed pinwydd tywyll y Comisiwn Coedwigaeth. Dim ond dau air sy'n addas i'w beddfaen - "Poetic Justice"!
Ynys fach o Loegr wedi ei hamgylchynu gan Gymru yng nghanol y Mynyddoedd Duon oedd Ffwddog. Fe'i dychwelwyd i Gymru gan y "Counties (Detached Parts) Act 1844". Yna diflannodd o hanes. Fel arfer, Cymru gafodd yr ochor waethaf i'r fargen. Fe gollodd Sir Fynwy ei hynys hithau yn Swydd Henfordd - Llangystennin Garth Brenni (Welsh Bicknor) - plwyf llawer mwy sylweddol a ffyniannus.
Rwy'n crybwyll deddf 1844 oherwydd mai honna oedd y newid cyntaf i gyfundrefn llywodraeth leol Cymru ers y deddfau uno. Daeth newid llawer mwy sylfaenol yn 1888 pan gafodd y cynghorau sirol a bwrdeistrefol eu creu. Fe barodd y rheiny tan 1973. Newidiwyd y cyfan eto yn 1996 gan roi i ni'r drefn bresennol o 22 cyngor - trefn sydd, mae'n ymddangos, yn tynnu at ei therfyn.
Tan yn ddiweddar roedd 'na gonsensws yn y Cynulliad ynghylch cyfundrefn llywodraeth leol Cymru. Yn y bôn y consensws hwnnw oedd "mae'n llanast ond dydyn ni ddim am ei newid hi".
Dyw'r agwedd yna ddim mor hurt ag y mae'n ymddangos. Mae adrefnu llywodraeth leol yn broses gymhleth a chostus ac mae'n gallu esgor ar bob math o deimladau cryfion lleol. Ymgyrch rymus leol wnaeth arwain at greu cyngor Merthyr Tudful - cyngor nad yw hyd yn oed cynnwys etholaeth seneddol gyfan.
Ateb y Llywodraeth oedd ceisio cymell neu orfodi cydweithio trwy rannu swyddogion, sefydlu byrddau a chonsortia ac yn y blaen. Dyw hynny ddim wedi gweithio bob tro. Nid pob Cyngor sy'n dod ymlaen â'i gymdogion ac mae cydweithio o'i natur yn gallu glastwreiddio atebolrwydd.
Efallai oherwydd y problemau hynny neu efallai oherwydd yr hyn maen nhw'n gweld fel potsian diddiwedd y Llywodraeth mae'n ymddangos bod agwedd rhai o fawrion y cynghorau yn newid.
Bythefnos yn ôl galwodd cyn arweinydd y Gymdeithas Lywodraeth Leol John Davies am gyfundrefn newydd wedi ei seilio ar ffiniau'r byrddau iechyd. Gobeithio na fyddai hynny'n arwain at greu Sir Betsi Cadwaladr! Yna ddoe awgrymodd arweinydd Gwynedd taw dwy sir ddylai fod yn y gogledd.
Dyna i chi ddau o'r mawrion sy'n fodlon dweud eu dweud yn gyhoeddus ac yn ôl ffynonellau o fewn Llywodraeth Cymru mae sawl arweinydd Cyngor arall wedi gofyn am adrefnu llawn.
A fydd hynny'n digwydd? Yn hwyr neu'n hwyrach mae'n saff o wneud.
Wedi'r cyfan sut ar y ddaear mae cyfiawnhau sefyllfa lle mae gan Gymru mwy o gynghorwyr na'r Alban a mwy o gynghorau na Seland Newydd?
Ar y cyfan dydw i ddim yn ffan o ddyddiau neu wythnosau arbennig. Rwy'n deall yn iawn pam y mae elusennau a chyrff eraill yn eu clustnodi. Mae'n ffordd hawdd o ddenu sylw a ffocysu gweithgarwch ond erbyn hyn mae 'na gymaint ohonyn nhw nes eu bod mewn peryg o droi'n ddiystyr. Wyddoch chi, er enghraifft, bod Mawrth 1af, yn ogystal â bod yn Ddydd Gwyl Dewi, yn "Ddiwrnod Rhyngwladol Hunan-Niwed" ac yn "Ddwirnod Cenedlaethol y Mochyn" yn yr Unol Daleithiau.
Mae ambell un o'r dyddiau hyn wedi ennill ei blwyf ac mae dau o'r rheiny'r wythnos hon sef Diwrnod Rhyngwladol y Merched a Diwrnod Rhyngwladol y Llyfr. Y llyfrau sydd am fy nenu i heddiw!
Roeddwn i'n trafod pynciau ar gyfer rhaglen "O'r Bae" yfory a chafodd y cynhyrchydd, Glesni Jones, y syniad o ofyn i'r panelwyr pa lyfrau oedd wedi cael y dylanwad mwyaf arnyn nhw. Nid eu hoff lyfrau, sylwch, ond y rhai mwyaf dylanwadol. Syniad da. Gwnawn hynny.
A dyma fi'n gofyn y cwestiwn i mi fy hun a sylweddoli bod un o'r llyfrau cafodd y dylanwad mwyaf arnaf hefyd yn un rwy'n ei gasau!
Llyfr gan hanesydd o'r enw Arthur Mee oedd hwn. Yn ddigon rhyfedd roedd 'na ddau hanesydd a'r enw yna yn ysgrifennu ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Roedd un yn medru'r Gymraeg ac yn arbenigo ar hanes Sir Gar. Roedd y llall yn awdur ar sawl llyfr a chyfnodolyn i blant oedd yn mawrygu Prydain a'i hymerodraeth.
Yr ail un oedd yn gyfrifol am yr "Arthur Mee Book of Heroes" - llyfr yr oeddwn yn pori trwyddo'n aml pan yn blentyn - yn bennaf oherwydd y platiau lliwgar a'r bennod olaf ynghylch arwyr oedd yn "ordinary folk". Roedd y straeon yn y bennod honno yn afaelgar ac yn ysbrydoledig. Roeddent yn llawer mwy diddorol na'r straeon diflas a difflach ynghylch Wellington, Picton, Kitchener a'u tebyg.
Cafodd y llyfr ddylanwad arnaf am ddau reswm. Yn gyntaf fe daniodd diddordeb oes mewn hanes ynghyd ac ymwybyddiaeth bod 'na fwy nac un fersiwn o'r gorffennol. Yn ail, perodd i mi gwestiynu a bod yn amheus ynghylch hierarchaeth a dosbarth. Mae hynny'n reddf ddefnyddiol i newyddiadurwr.
Ymhlith y gwesteion ar "O'r Bae" yfory mae'r hanesydd Elin Jones sydd wrthi'n arwain adolygiad o'r ffordd y mae hanes Cymru'n cael ei dysgu yn ei hysgolion. Mae'r adolygiad bron yn sicr o ddylanwadu ar ba ffordd y bydd cenedlaethau o blant yn gweld hanes eu gwlad a gellir dadlau bod y canfyddiad o hanes yn sylfaen i genedligrwydd.
Oherwydd bod y gwaith ar ei hanner ni fydd modd gofyn i Elin ynghylch yr adolygiad ond mae'n bosib y bydd ei dewis o lyfrau'n ddadlennol!
Mae derbyn rhifyn y mis o Barn wastod yn bleser - er taw fy nhasg gyntaf bob mis yw cael cipolwg sydyn i weld os oes 'na straeon neu safbwyntiau i ni eu colli! Dydw i ddim am gyfaddef yn fan hyn a ydy hynny wedi digwydd y tro yma!
Yn hytrach cefais ysbrydoliaeth am bost bach gan golofn Vaughan Hughes lle mae'n cwyno am yr hyn mae'n gweld fel defnydd amhriodol o ti a thithau ar raglenni newyddion Radio Cymru. Dyma ddisgrifiad Vaughan o sgwrs rhwng cyflwynydd â chadeirydd y Bwrdd Iaith.
"Roedd y ti a'r tithau diddiwedd, a chywair dau-fêt-yn-cael-clonc y sgwrs gyfan yn rhoi'r argraff anghysurus i mi fy mod yn clustfeinio ar sgwrs breifat... mae'r defnydd o chi o gymorth i gynnwys y gwrandäwr yn hytrach na'i ddieithrio."
Dydw i ddim yn teimlo'n gryf iawn am y peth ond yn bersonol rwy'n tueddu defnyddio chi gyda ffigyrau cyhoeddus hyd yn oed os ydy'r rheiny'n iau na fi. Ar y llaw arall mae'n gas gen i gael fy ngalw'n chi gan rywun sy'n ti i mi! Safonnau dwbwl efallai - neu arwydd fy mod yn heneiddio!
Ta beth mae'r ddadl ynghylch safonau iaith yn un sy'n digwydd yn gyson yng nghoridorau'r Â鶹Éç gyda rhai'n adrodd straeon arswyd am grwpiau ffocws yn cael trafferth i ddeall Cymraeg cymharol syml ac eraill yn mynnu bod yn rhaid tynnu llinell yn rhywle. Mae lle mae'r "rhywle" yna yn gwestiwn arall, wrth gwrs!
Fy nghrwsâd arbennig i yw un i achub y ferf gryno. Efallai bod dyddiau "gallaswn" a "gwybuant" wedi mynd ond gwrthodaf dderbyn bod "Mae Dafydd Jones wedi dweud" yn haws i ddeall na "dywedodd Dafydd Jones". A do, rwyf wedi clywed "mae x wedi dweud" yn cael ei ddefnyddio.
Mewn gwlad sydd wedi methu cytuno'n derfynol ynglŷn ag orgraff ei hiaith ysgrifenedig ar ôl pymtheg can mlynedd efallai ei bod hi'n anorfod bod y darlledwyr yn dal i ymgecru ar ôl cwta dri chwarter canrif!
Mae 'na beryglon wrth symleiddio'r iaith ond ar y llaw arall mae Cymraeg sydd yn orffurfiol ac yn bedantig yn gallu bod yn hyll ac yn ofnnadwy o anodd ei deall.
Roeddwn yn meddwl am hyn wrth wrando ar araith Leighton Andrews yn y ddadl ynghylch safonau iaith ddoe. Roedd hi'n llawn o jargon y gwasanaeth sifil gyda'i geiriau aml sillafog, anghyffredin. Roedden nhw i gyd yna - anghymesuredd, anstatudol, tryloywder a'r gweddill ohonyn nhw.
Mae'r eirfa fiwrocrataidd hon yma'n hyll a chan amlaf yn ddiangen yn Saesneg. Mae ei chyfieithu'n slafaidd i'r Gymraeg ac yna disgwyl i Weinidog sy'n dysgu'r iaith ei defnyddio yn wirion bost.
Rhywle gartref mae gen i lyfr o'r enw "Labour's last chance?: the 1992 election and beyond". Casgliad o draethodau gan rai o'r seffolegwyr gorau Prydain yw'r llyfr ac mae'r teitl yn esbonio'r cynnwys. Ar ôl colli etholiad 1992 pan oedd bron popeth yn gweithio o'i phlaid oedd modd i'r Blaid Lafur ennill byth eto oedd y cwestiwn. Amwys oedd yr atebion.
Cyhoeddwyd y llyfr ym Mai 2004. Llai na thair blynedd yn ddiweddarach enillodd y blaid Lafur y nifer fwyaf o seddi yn ei hanes ac etholwyd Tony Blair yn Brif Weinidog.
Rwy'n codi'r pwynt oherwydd bod cwestiwn digon tebyg yn cael ei ofyn ynghylch y Ceidwadwyr ar hyn o bryd. Os nad oedd hi'n bosib ennill mwyafrif yng ngwyntoedd teg 2010 pa obaith yn y dyfodol?
Yr ateb syml i'r cwestiwn yw wrth gwrs bod hi'n bosib i'r Ceidwadwyr ennill mwyafrif. Yn wir, os nad yw'r blaid yn cwympo'n ddarnau mae hi bron yn sicr o ennill un rhywbryd. Serch hynny mae'r llwybr tuag at fwyafrif yn yr etholiad nesaf yn edrych yn gulach ac yn gulach wrth i ddydd y cyfri agosau.
Y dadansoddiad gorau o broblemau'r Ceidwadwyr mi ddarllen yw gan Paul Goodman cyn aelod seneddol Ceidwadol sy'n un o olygyddion gwefan dylanwadol "Conservative Home".
Yn ôl Goodman mae ennill mwyafrif yn 2015 yn amhosib oherwydd pedair ffactor. Methiant y blaid i apelio at leiafrifoedd ethnig, undod yr asgell chwith, rhaniadau ar yr asgell dde ac anfantais strwythurol y map etholiadol yw'r ffactorau hynny.
Mae canlyniad Eastleigh yn cymhlethu'r ddwy ffactor olaf.
Trwy guro'r Ceidwadwyr mae Ukip wedi dwysau'r rhaniadau ar y dde. Mae unrhyw obaith na fydd y blaid honno'n ffactor yn yr etholiad nesaf yn prysur ddiflannu a does dim rhaid iddi wneud chwarter cystal â gwnaeth hi yn Eastleigh er mwyn dylanwadu ar y canlyniadau mewn llwyth o etholaethau ymylol.
O safbwynt y ffactor olaf, y broblem strwythurol, amcangyfrifir y bydd angen i'r Ceidwadwyr bod saith y cant ar y blaen i lafur yn y bleidlais boblogaidd er mwyn sicrhau mwyafrif o un. Mae hynny'n glamp o fynydd - ond mae'r guru etholiadiol Peter Kellner wedi darogan y gallai'r Torïaid sicrhau mwyafrif mewn ras llawer agosach pe baent yn cipio rhyw ddau ddwsin o seddi o'r Democratiaid Rhyddfrydol - seddi tebyg iawn i Eastleigh.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.