Â鶹Éç

Help / Cymorth

Archifau Chwefror 2013

A Oes Heddwch?

Vaughan Roderick | 09:48, Dydd Iau, 28 Chwefror 2013

Sylwadau (0)

Mae rhai o sefydliadau Cymru wedi addasu i ddatganoli yn well na'i gilydd. Nid beirniadaeth yw dweud hynny. Doedd dygymod a bod yn genedl gyda llywodraeth ar ôl saith canrif o straffaglu ymlaen heb un byth yn mynd i fod yn hawdd! Wedi'r cyfan mae'r hyn sy'n ymddangos fel atebolrwydd i wleidydd yn gallu ymddangos fel ymyrraeth wleidyddol yr un sy'n atebol.

Gan edrych o'r tu fas ymddengys i mi fod ambell i sefydliad cenedlaethol wedi dygymod a'r newid yn ddigon hawdd. Rwy'n meddwl am gyrff megis Amgueddfa Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a'r Cyngor Chwaraeon. Gallwn fod yn gwbwl anghywir. Mae'n bosib bod 'na rycsiyns y tu ôl i'r llenni. Os felly clywais i ddim byd amdanynt.

Mae ambell sefydliad wedi methu'r prawf yn llwyr. Prifysgol Cymru yw'r enghraifft amlwg ond dim ond nawr y mae ambell i Gyngor a Choleg yn sylweddoli bod 'na feistr newydd ar y tÅ·.

Mae hynny'n dod a ni at benderfyniad y Llywodraeth i gomisiynu adolygiad o'r Eisteddfod Genedlaethol.

O safbwynt y Llywodraeth does 'na ddim elfen o fygythiad yn gysylltiedig â'r peth. Mae'r Eisteddfod yn annibynnol. Os ydy hi'n dewis anwybyddu argymhellion yr adolygiad mae perffaith hawl ganddi i wneud hynny heb unrhyw gosb ariannol. Os ydy'r wŷl ar y llaw arall yn derbyn y cyfan neu rhai o'r argymhellion yna fe fyddai'r Llywodraeth yn fodlon cynyddu ei chymhorthdal. Pa le sy 'na i boeni? Wedi'r cyfan mae'r rheiny syn cynnal yr adolygiad yn garedigion y Gymraeg.

Nawr edrychwch ar y sefyllfa o safbwynt Eisteddfodwr pybyr - un sy'n ystyried y Brifwyl yn "gaer fechan olaf" i'r Gymraeg mewn môr o Saesneg. Gellir synhwyro ei ofnau.

"Pa mor ddidwyll yw'r llywodraeth mewn gwirionedd? Oes 'na agenda gudd? Onid yw gwneud yr Eisteddfod yn fwy croesawgar i'r Di-Gymraeg yn gyfystyr a glastwreiddio ei Chymreictod?"

"Wedi'r cyfan," medd ein eisteddfodwr dychmygol "mae'r Eisteddfod wedi profi ei bod yn fodlon newid gyda'r amseroedd. Bob blwyddyn cynhelir adolygiad o lwyddiannau a methiannau'r wÅ·l gydag argymhellion ar gyfer y dyfodol. Mae'r broses yn dryloyw gyda'r cyfan yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod. Pam fod angen adolygiad allanol yn ogystal?"

Ond beth am benaethiaid yr Eisteddfod? Gellir darllen eu tystiolaeth i'r ymchwiliad yn . Mae'n ddarn cytbwys iawn o waith sy'n awgrymu bod yr Eisteddfod wedi ymateb yn bositif i'r ymchwiliad - ar gychwyn y broses o leiaf.

Mae'n ymddangos bod pethau wedi suro rhywfaint ers hynny yn bennaf oherwydd pryder tîm rheoli'r Eisteddfod y gallai'r ymchwiliad argymell canoli'r Eisteddfod ar ddau safle parhaol. Yn ôl y Prif Weithredwr, Elfed Roberts fe fyddai hynny'n drychineb a galwodd ar garedigion yr Eisteddfod i ysgrifennu at yr ymchwiliad i ddatgan eu gwrthwynebiad i'r syniad.

Nawr dydi ddim yn bry ar wal yng nghyfarfodydd y grŵp gorchwyl a gorffen. Dydw i ddim yn gwybod felly faint o sail sy 'na i ofnau Elfed a'i dim rheoli.

Gwn hyn. Mae sylwadau Elfed a rhai'r trefnydd Hywel Wyn Edwards ar Bawb a'i Farn rhai wythnosau yn ôl wedi peri siom a syndod i ambell un yn agos at yr adolygiad. Yr ofn yw bod Elfed a Hywel wedi mynd o flaen gofid a'u bod trwy hynny mewn peryg o droi Eisteddfodwyr yn erbyn proses oedd i fod er lles y Brifwyl.

Nid fy lle i yw barnu pwy sy'n iawn ond fe fyddai'n trueni i bawb pe rhywbeth oedd fod yn gyfle yn cael ei weld fel bygythiad.

04, 05 ac ati

Vaughan Roderick | 09:30, Dydd Gwener, 22 Chwefror 2013

Sylwadau (0)

Gan amlaf os oes 'na fuddsoddiad mawr o dramor yn dod i Gymru mae'r Llywodraeth yn awyddus iawn i frolio am y peth. Rhyfedd felly oedd dod ar draws buddsoddiad gwerth pum miliwn o bunnau o'r Dwyrain Pell na chlywyd siw na miw amdano. Buddsoddiad mewn addysg bellach yw hwn ac rwy'n amau taw'r rheswm am y distawrwydd yw nad yw'r Llywodraeth hyd yn oed yn gwybod ei fod yn digwydd.

Pam felly? Wel oherwydd taw utgyrn Seion ac nid utgyrn Sony sy'n seinio!

Mae'r stori'n dechrau yn ôl ar ddechrau'r ugeinfed ganrif gyda glöwr o Frynaman o'r enw Rees Howell. Go brin fod yr enw yna'n golygu rhyw lawer yng Nghymru'r dyddiau hyn. Mae'n annhebyg y bydd y ffilm yma'n ymddangos yn Odeon, Llanelli na Cineworld, Llandudno yn y dyfodol agos!

Chwi synhwyrwch efallai bod Rees Howell o hyd yn cael ei ystyried yn ffigwr o bwys mewn ambell i fan!

Cenhadwr oedd Howell oedd wedi ei danio gan y diwygiad mawr olaf yn 1904-05. Ar ôl cyfnod yn cenhadu yn Ne Affrica dychwelodd i Gymru gyda'r syniad o agor coleg i hyfforddi myfyrwyr o'r holl genhedloedd i ledaenu'r gair ar ôl dychwelyd adref. Prynodd plasty Derwen Fawr yn Abertawe ac agorodd "Coleg Beibl Cymru" ei ddrysau yn 1924.

Fe ddenwyd myfyrwyr o bedwar ban byd. Yn eu plith roedd meibion ymerawdwr Ethiopia, Haile Selassie. Dydw i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd i'r meibion hynny pan gafodd yr ymerawdwr ei ddyrchafu'n dduw gan y Rastaffariaid!

Ta beth am hynny am dri chwarter canrif roedd Coleg Beibl Cymru yn lle pwysig a dylanwadol i'r rheiny o gwmpas y byd oedd yn hoff o ffydd cymharol ddigyfaddawd.

Daeth tro ar fyd ac ar ddechrau'r ganrif hon penderfynodd ymddiriedolwyr y Coleg newid yr enw i "Trinity" a symud yr holl siabang i ganolbarth Lloegr. Ac eithrio'r plasty ei hun gwerthwyd y cyfan o'r safle i ddatblygwyr.

A dyna fyddai diwedd y stori oni bai am ŵr o'r enw Yang Tuck Yoong sy'n weinidog ar eglwys â rhai miloedd o aelodau yn Singapore.

I ddefnyddio geirfa'n cyndadau derbyniodd alwad i achub Derwen Fawr. O fewn byr o dro llwyddodd i godi'r £5 miliwn angenrheidiol o'i ffyddloniaid yn Singapore i brynu ac adfer y plasty ac fe fydd y Coleg yn ail agor ei drysau rywbryd eleni.

Pam gwneud hynny? Dyma'r esboniad ar .

"The revival that broke forth in the principality of Wales in 1904 is of special importance because of the power and influence that it generated... We have this prophetic sense that somehow, what God did in that revival in Wales... is going to have a profound effect on us, 100 years later."

Oes 'na wers i Lywodraeth Cymru yn fan hyn? Wel, dim ond un fach efallai.

Honnir yn aml bod proffil rhyngwladol Cymru lawer yn is na rhai'r Alban ac Iwerddon. Mae hynny'n wir. Does gan y Cymry ddim delwedd ym meddyliau tramorwyr fel sydd gan ein cefndryd Celtaidd. Ond efallai bod gennym gysylltiadau diwylliannol a hanesyddol â chymunedau eraill nad ydym yn ymwybodol ohonyn nhw.

Daergryn Bach yn Hampshire

Vaughan Roderick | 10:04, Dydd Iau, 21 Chwefror 2013

Sylwadau (0)

Pethau rhyfedd yw isetholiadau ym Mhrydain. Anaml iawn y maent yn effeithio ar y fathemateg seneddol. Mae'n rhaid i fwyafrif llywodraeth fod yn hynod fregus iawn megis un Llafur yn Hydref 1974 neu un y Ceidwadwyr yn 1992 cyn i golli ambell i sedd fod yn broblem. Hyd yn oed yn yr achosion hynny fe lwyddodd John Major i gadw i fynd am y cyfan o'i dymor ac roedd Jim Callaghan o fewn ychydig wythnosau i'r pum mlynedd cyn iddo golli pleidlais o hyder.

Eto i gyd mae isetholiadau'n cael eu trin gan wleidyddion a'r cyfryngau fel rhyw brawf pwysig o gyflwr y pleidiau ac yn arwydd o'r tywydd gwleidyddol. Mae newyddiadurwyr yn tueddu heidio tuag at hyd yn oed yr isetholiad mwyaf di-nod a phan ddaw hymdinger fel Eastleigh mewn lle sy'n gyfleus i Lundain, wel gwyliwch mas pobol fach! Fe fydd na fwy o gamerâu ar eich Stryd Fawr na sy'n ffilmio carped coch y BAFTAS.

Dyw'r cyfryngau Cymraeg ddim yn gwbwl rhydd o'r obsesiwn hwn. Cofiaf i'r Byd ar Bedwar ddarlledu hanner awr gyfan ynghylch isetholiad Bermondsey pan etholwyd Simon Hughes ac roedd 'na gyfnod pan oeddwn i hefyd yn aml yn cael fy nanfon i baratoi adroddiad ynghylch rhyw ornest neu'i gilydd.

Dydw i ddim yn cofio p'un ai y gwnes i ymweld ac Eastleigh yn ystod isetholiad 1994 nei beidio. Rwy'n cofio myn i un Christchurch ychydig i'r gorllewin ac un Newbury ychydig i'r gogledd. Gwnes i elw bychan yn y ddau trwy fentro swllt a'r y rhyddfrydwyr. Tan yn ddiweddar roedd mentro ar y blaid felen mewn is etholiad yn fuddsoddiad wedd gall. Wedi'r cyfan roedd isetholidau yn llythrennol yn rhoi modd i fyw i'r drydedd blaid ac roedd hi'n arllwys popeth oedd ganddi i mewn i'w hennill.

Dydw i ddim wedi bod yn Eastleigh y tro hwn. Peidiwch ddisgwyl i mi ddarogan canlyniad felly. Serch hynny rwyf wneud un pwynt bach o hir brofiad.

Mae momentwm neu ddiffyg momentwm yn nyddiau olaf yr ymgyrch yn hollbwysig mewn isetholiadau ac mae adroddiadau yn y wasg a sibrydion y pleidiau yn awgrymu taw gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol y mae'r momentwm yn Eastleigh.

Mae 'na beryg enfawr i David Cameron yn hynny. Os daw hi'n amlwg i'r etholwyr bod yr enillydd fwy neu lai wedi ei setlo fe fydd y rheiny sy'n tueddu at Lafur, Ukip neu un o'r pleidiau llai yn teimlo'n fwy rhydd i bleidleisio o'r galon. Gallai hynny effeithio ar siâr y Democratiaid Rhyddfrydol o'r bleidlais ond pa ots yw hynny os ydy'r blaid yn fuddugol?

Yn bwysicach gallai diffyg gwasgfa'r "ras dau geffyl" beryglu gafael y Torïaid ar yr ail safle. Fe fyddai colli yn Eastleigh yn anaf i David Cameron - ond cwt fyddai hi nid clais. Fe fyddai dod yn drydydd ar y llaw arall yn gythraul o glatsied.

Ydy hynny'n bosib? Mewn isetholiad mae unrhyw beth yn bosib. Gofynnwch i George Galloway.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.