Wenglish San Steffan
Mae statws neu ddiffyg statws y Gymraeg yn Senedd y Deyrnas Unedig braidd yn aneglur.
Ar un adeg y Saesneg a Ffrangeg Normanaidd oedd yr unig ieithoedd oedd yn cael eu caniatáu yn nhrafodaethau'r palas. Mae pethau wedi newid rhiwfaint ar hyd y degawdau. Erbyn hyn mae aelodau'n cael tyngu eu llw yn y Gymraeg a gellir cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig trwy gyfrwng yr iaith.
Yn y Siambr ac yn yr Uwchbwyllgor Cymreig mae'r cyfan yn dibynnu ar oddefgarwch pwy bynnag sydd yn y gadair. Ar y cyfan caniateir ychydig o Gymraeg os ydy'r siaradwr yn cyfieithu ei eiriau ei hun. Mae hynny'n gallu esgor ar ambell i sesiwn braidd yn rhyfedd fel yr un yma yn ystod cwestiynau Cymraeg ddoe.
"Kevin Brennan: I congratulate the Secretary of State and his hon. Friend the Minister--llongyfarchiadau, as we say in Wales...
Mr Jones: As we say in Wales, diolch am y llongyfarchiadau...
David T. C. Davies (Monmouth) (Con): Would both Ministers, whom I warmly congratulate, agree with me that parch, as we say in Monmouthshire, is something that works in both directions...
Mr Jones: The word "parch" means respect and I agree that parch is a process that works in two directions."
Roedd y cyfan yn dipyn o sbort i'r Aelodau Seneddol ond ar adeg pan mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried herio Mesur Ieithoedd Swyddogol sy'n cadarnhau statws y Gymraeg yn y Cynulliad onid yw hi'n bryd i "Senedd arall Cymru" edrych ar ei rheolau ei hun?
Oni ddylai adroddiadau'r Pwyllgor Dethol gael eu cyhoeddi'n ddwyieithog? Pam y mae adrannau esboniadol ac addysgiadol gwefan y Senedd yn Saesneg yn unig? Pam nad oes 'na gyfieithu ar y pryd ar gael yn sesiynau'r Uwch-bwyllgor Cymreig?
Cwestiynau i'r Senedd yw'r rheiny. Wrth i'r Twrne Cyffredinol ystyried p'un ai i herio'r Mesur Ieithoedd swyddogol yn yr Goruchaf Lys ai peidio dyma gwestiwn iddo fe o Efengyl Mathew.
"Paham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?"
SylwadauAnfon sylw
Yn holloll, yn enwedig o gofio (rhan mawr o'r broblem dybiwn i), mai'r 'Welsh or British tongue' oedd Y Gymraeg am ganrifoedd lawer (13-14 efallai?) yn nhyb Lloegr, fel sydd yn glir wrth sgwrs yn neddf Elizabeth Y Cyntaf ar gyfiethu'r Beibil i'r Gymraeg.....
Fedrai ddim peidio a meddwl petai'r Albanwyr yn datagn eu hannibyniaeth ymhen dwy flynedd, mi welwn dipyn bach mwy o barch at yr iaith Gymraeg o du Y Sefydliad Eingl-Prydeining, a phwy a wyr, rhai yn erfyn am cydnabyddiaeth swyddogol i'r 'British tongue' tu draw i ffiniau'r wlad hon? Pwy a wyr.
Nid dyma'r lle efallai...
Mae rhai wedi tynnu sylw at y peth ar wefan Golwg360 yn barod. Yn yr un modd ag y bu i Â鶹Éç Cymru anwybyddu'r protestiadau enfawr yn Barcelona yn ddiweddar, does dim sôn heddiw am fuddugoliaeth ysgubol y pleidiau cenedlaetholgar yng Ngwlad y Basg.
Yr Alban, Catalwnia a Gwlad y Basg. Ac ar Â鶹Éç Cymru, heblaw am yr Alban, wrth gwrs, dim sôn!
Mae'n drist dweud mai'r agenda Brydeinig sy'n tra-arglwyddiaethu o hyd yn Llandaf. Mae hyn yn gwneud i tywun boeni hyd yn oed yn fwy am y dyfodol pan fydd perthynas agosach rhwng y Bîb ac S4C.