Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Cyfan o'n Cyfansoddiad

Vaughan Roderick | 11:07, Dydd Mawrth, 16 Hydref 2012

Roedd hi'n anorfod y byddai llywodraethau'r Deyrnas Unedig a'r Alban yn cyrraedd cytundeb ynghylch cynnal refferendwm yn yr Alban. Roedd Llywodraeth yr Alban yn dymuno cynnal un ac roedd Llywodraeth y DU eisoes wedi derbyn bod yn SNP wedi ennill yr hawl i wneud hynny. Fe fydd 'na bleidlais yn 2014 felly.

Mae'n werth nodi wrth fynd heibio mai prin iawn yw'r gwladwriaethau yn y byd a fyddai'n caniatáu i ddarn o'i thiriogaeth ymddwyn yn fath fodd. Ar hyn o bryd mae awdurdodau Sbaen yn rhwystro cynnal refferendwm o'r fath yng Nghatalwnia. Yn wir mae unrhyw ymdrech i rannu Sbaen yn groes i gyfansoddiad y wladwriaeth.Ydych chi'n gallu dychmygu Ffrainc yn caniatáu refferendwm ynghylch annibyniaeth i Lydaw? Na finnau chwaith. Fe ymladdodd yr Americanwyr eu rhyfel mwyaf gwaedlyd dros hawl taleithiau unigol i adael yr Undeb.

Roedd 'na adeg pan oedd gwleidyddion Prydain - neu nifer fawr ohonyn nhw yn credu felly. Does ond angen darllen hanes y gwahanol ymdrechion i sicrhau ymreolaeth i'r Iwerddon yn oes Fictoria i ddeall hynny. Datganoli nid annibyniaeth oedd ymreolaeth ond roedd hyd yn oed hynny'n wrthyn i nifer helaeth o'n gwleidyddion. Un Goron, un Senedd, un Genedl - dyna oedd hanfod y wladwriaeth Brydeinig yng ngolwg llawer.

Fe newidiodd yr agwedd honno yn araf bach ar hyd y degawdau. Ar ôl methiant ymreolaeth fe adawodd tri chwarter o'r Iwerddon yr Undeb yn gyfan gwbwl mewn amgylchiadau gwaedlyd. Yn ddiweddarach fel rhan o'r broses heddwch yng ngogledd yr ynys cytunwyd mai mater i drigolion y dalaith honno oedd eu dyfodol cyfansoddiadol. Yn yr Alban mewn proses wnaeth ddechrau gyda Datganiad Perth Edward Heath a gwnaeth ddiweddu gyda "Claim of Right" y Confensiwn Cyfansoddiadol ildiwyd yr un pwynt. Mae'n werth nodi'r hyn mae "Claim of Right" 1989 yn dweud.

"We, gathered as the Scottish Constitutional Convention, do hereby acknowledge the sovereign right of the Scottish people to determine the form of Government best suited to their needs, and do hereby declare and pledge that in all our actions and deliberations their interests shall be paramount."

Fel mae'n digwydd mae'r ddeddf wnaeth sefydlu Senedd yr Alban yn datgan mai mater i San Steffan yw cyfansoddiad y Deyrnas Unedig. Serch hynny does dim amheuaeth ym meddyliau'r mwyafrif o'n gwleidyddion mai datganiad y Confensiwn nid geiriau'r ddeddf sy'n adlewyrchu'r realiti cyfansoddiadol a gwleidyddol.

Mae hynny ond yn bosib oherwydd natur unigryw'r cyfansoddiad Prydeinig fel cyfansoddiad anysgrifenedig. Mae bron y cyfan wedi sgwennu lawr yn rywle wrth gwrs ond mae ffynonellau gwasgaredig ein cyfansoddiad yn golygu bod 'na elfen o "Pick and Mix" yn ein system wleidyddol nad yw'n bodoli mewn gwledydd sydd â chyfansoddiadau ysgrifenedig.

Yn ddiweddar mae ambell un , Carwyn Jones yn eu plith, wedi awgrymu y dylai'r Deyrnas Unedig fabwysiadu cyfansoddiad ysgrifenedig. Mae David Cameron ei hun wedi crybwyll y posibilrwydd o sefydlu Confensiwn Cyfansoddiadol ar ôl refferendwm yr Alban - beth bynnag yw canlyniad y bleidlais honno.

Mae 'na ddadleuon o blaid cyfansoddiad ysgrifenedig. Fe fyddai'n gorfod datgan yn glir beth oedd statws cyfansoddiadol Lloegr, gallai osod canllawiau cadarn ynghyn yr amodau lle mae angen refferendwm yn hytrach na gadael hynny i fympwy gwleidyddion, er enghraifft.

Serch hynny mae 'na beryglon mewn colli hyblygrwydd. Go brin y byddai'n bosib cyflwyno cyfansoddiad ysgrifenedig heb refferendwm ac ar hyn o bryd mae'n anodd gweld y dadleuon a fyddai'n argyhoeddi'r cyhoedd bod y system bresennol wedi ei thorri i'r fath raddau bod angen ei newid.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:51 ar 16 Hydref 2012, ysgrifennodd Neilyn:

    Petai'r Alban yn penderfynnu yn 2014 mai annibyniaeth yw'r ffordd ymlaen, onid yw'n rhy hwyr mewn gwirionedd i benderfynnu ar gyfansoddiad ysgrifenedig i weddillion y wladwriaeth Brydeinig? Gyda rhan helaeth o'r Iwerddon wedi gadael eisioes, mae'r wladwriaeth a gyrhaeddodd ei anterth tiriogaethol yn 1800 bellach wedi ei chwalu'n ddarnau, ac mae'n debyg y bydd sylfaeni diwylliannol-gymdeithasol-gwleidyddol yr Unoliaethwyr yng Ngogledd Iwerddon yn brysur simsanu go iawn. Onid yw pais Prydain yn socian?!

    Cofiwch baratoi am Plan B Mr Jones, Plan B.....

  • 2. Am 10:43 ar 17 Hydref 2012, ysgrifennodd huw prys jones:

    Yr hyn sy’n ddiddorol yma ydi bod David Cameron wedi penderfynu cymryd gambl wrth wrthod ail gwestiwn o ‘devo max’ yn y bleidlais. Mae’n amlwg pam y byddai ar Alex Salmond a’r SNP eisiau ail gwestiwn gan y byddai hynny’n ffordd sicrach o ennill mwy o bwerau i’r Alban. Ond mi fyddai hyn wedi cynnig ffordd allan i Cameron hefyd yn yr ystyr y byddai’n lleihau’r risg o bleidlais dros annibyniaeth.
    Y lein y mae’r wasg wedi tueddu i’w gymryd ydi bod Alex Salmond wedi cael bron y cyfan roedd arno’i eisiau a David Cameron wedi gorfod ildio. Dw i’n meddwl bod hyn yn rhy simplistig. Y ffaith ydi fod propaganda o’r fath yn siwtio’r ddwy ochr – mae’n cadarnhau’r darlun o Alex Salmond fel y llwynog gwleiddol sy’n fwy cyfrwys na’i wrthwynebwyr, a hefyd yn creu’r argraff o David Cameron fel rhywun rhesymol sy’n barod i adael i bobl yr Alban benderfynu.
    Peth arall gwerth ei nodi ynghylch y bleidlais ydi y bydd ar y ddwy ochr angen mwyafrif clir – fydd 51% ar droad allan gwael ddim yn ddigon da i’r naill na’r llall. Go brin y byddai ennill o drwch blewyn yn gosod sylfaen digon cadarn i wladwriaeth newydd, a’r cyfan y byddai pleidlais Na o drwch blewyn yn ei wneud fyddai sicrhau y byddai annibyniaeth yn parhau’n bwnc llosg am flynyddoedd i ddod.
    Yr unig gasgliad y gellir dod iddo ydi bod David Cameron yn credu, yn gam neu’n gymwys, na all golli’r bleidlais yma. Y cwestiwn ydi ai credu’r un mor gadarn i’r gwrthwyneb y mae Alex Salmond – neu yntau a oes ganddo ‘Plan B’ i gael ei ailethol ac ennill mwy o rym i’r Alban os bydd y bleidlais hon yn methu?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.