Â鶹Éç

Help / Cymorth

Archifau Medi 2012

Gwylio Brighton o Bell

Vaughan Roderick | 11:12, Dydd Iau, 27 Medi 2012

Sylwadau (0)

Fel pawb arall yn y sector gyhoeddus mae'r Â鶹Éç yn ceisio arbed ambell i geiniog y dyddiau hyn. Gwylio Cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol o bell oeddwn i'r wythnos hon felly gan glywed fel pawb arall y cynrychiolwyr pybyr yn mynnu mai trwy ddilyn llwybr cul y glymblaid y mae cyrraedd y ddinas sanctaidd.

Roedd ambell un yn anghytuno'n gyhoeddus ac roedd cyn-aelod Maldwyn, Lembit Opik, wrthi'n casglu eu henwau mewn ymdrech i sicrhau etholiad arweinyddol. Fe fyddai'n rhaid i Lembit sicrhau cefnogaeth hanner yr Aelodau Seneddol neu saithdeg pump o bwyllgorau etholaeth er mwyn gorfodi etholiad. Y cyfan ddyweda i yw fy mod yn disgwyl i'w ymdrech fod un mor llwyddiannus â'i yrfa reslo.

Ond y ffyddloniaid a'r gwir-gredinwyr oedd yn bresennol yn Brighton. Nid cadw eu cefnogaeth nhw yw problem fawr Nick Clegg. Denu yn ôl yr actifyddion sydd wedi gadael neu sy'n eistedd ar eu dwylo yw'r dasg allweddol.

Tynnu sylw at yr hyn mae'r blaid wedi cyflawni mewn llywodraeth yw prif dacteg Nick Clegg ar hyn o bryd. Dyw'r buddugoliaethau hynny ddim yn ddisylwedd ond mae 'na broblem. Yn wahanol i drwch yr etholwyr, yr agenda cyfansoddiadol sy'n gwneud i'r ffyddloniaid a chyn-ffyddloniaid lafoerio a beth bynnag yw cyflawniadau'r blaid mewn meysydd fel addysg neu drethi pitw iawn yw'n newidiadau cyfansoddiadol sydd wedi eu cyflawni. Gwrthodwyd y bleidlais amgen gan yr etholwyr ac aeth yr hwch trwy'r siop wrth geisio diwygio TÅ·'r Arglwyddi. Mae'n anodd gweld y sefyllfa'n newid cyn yr etholiad nesaf.

Beth sy'n wynebu'r blaid 2015 felly? Mae colledion bron yn anorfod a chrasfa yn bosibilrwydd cryf. Eto i gyd "critical but not serious" yw'r disgrifiad gorau o gyflwr y blaid yn fy marn i. Mae hon yn blaid wydn sydd wedi bod mewn sefyllfaoedd llawer gwaeth ac fe fyddai 'na ddigon ar ôl i ddechrau ar y gwaith ail-adeiladu hyd yn oed ar ôl y grasfa waethaf posib.

Deng mlynedd yn ôl roeddwn i'n dyst i farwolaeth plaid yr "Austaralian Democrats" - plaid yr oedd nifer o fy ffrindiau yn gweithio iddi a'i chynrychioli. Am gyfnod hir roedd y blaid wedi dal y fantol yn siambr uchaf senedd y wlad. Fe aeth i ebargofiant yn bennaf o ganlyniad i ymgecru mewnol mewn llai na phum mlynedd.

Ond plaid ddiwreiddiau oedd Democratiaid Awstralia. Dyw hynny ddim yn wir am ei chwaer blaid Brydeinig. Does dim rhyfedd bod Nick Clegg wedi dyfynnu Jo Grimmond a David Steel yn ei araith i'r gynhadledd. Cryfder gwreiddiau'r blaid yw ei gobaith gorau yn yr hir dymor.

Ble ti'n myned glas y dorlan?

Vaughan Roderick | 11:11, Dydd Mawrth, 11 Medi 2012

Sylwadau (3)

Sut byddai Sarjant Ifan Pugh yn ymateb i'r syniad o ethol gwleidyddion fel Comisiynwyr Heddlu, dywedwch? Rhoi slap i Gordon a'i heglu hi am y dafarn, dybiwn i.

Erbyn hyn mae'n anodd canfod unrhyw un sy'n frwdfrydig o blaid y syniad. Yn ôl ambell i Geidwadwr fe fyddai'r syniad mwy na thebyg wedi ei ollwng yn dawel pe bai gan David Cameron fwyafrif. Roedd y ffaith bod y polisi wedi ei gynnwys yn y cytundeb clymblaid yn rhwystr i ambell i Syr Wmffra fyddai wedi cael gair tawel yn y clustiau iawn mewn amgylchiadau arferol.

Reit, dyna ddigon o gyfresi comedi'r ganrif ddiwethaf!

Fe fydd yr etholiadau yn digwydd ym mis Tachwedd ac fe ddylai'r cardiau a phapurau pleidleisio bod yn ddwyieithog os ydy pobol Whitehall yn tynnu eu bysedd allan.

Mae'r ffaith ei bod hi wedi cymryd rhybudd gan y Comisiwn Etholiadol i gael nhw wneud hynny yn adrodd cyfrolau.

Dyma'r diweddaraf gan y Swyddfa Gartref.

"Home Office officials are working urgently to try to ensure legislation is in place to allow bilingual forms in Wales."

Hyd yn oed os ydy'r Swyddfa Gartref yn sortio'r smonach yna allan - fe fydd y papurau pleidleisio'n bethau rhyfedd. Fe fydd blodyn Plaid Cymru a deryn y Democratiaid Rhyddfrydol yn absennol o'r papurau i ddechrau. Nid bod y naill blaid na'r llall yn boicotio'r etholiad fel y cyfryw. Y disgrifiad mwyaf addas o'u hagwedd yw "pam ddylen ni?"

Fe fydd Llafur a'r Ceidwadwyr yn sefyll. Serch hynny ar ôl clywed disgrifiad gan un Geidwadwr ynghylch y ffordd y gwnaeth y blaid ei fegian yn aflwyddiannus i sefyll rwy'n casglu bod yr union blaid oedd mor frwd dros Gomisiynwyr yn ei chael hi'n anodd darbwyllo pobol addas i sefyll mewn ambell ardal.

Dyw Llafur ddim wedi wynebu'r un broblem. Er bod y blaid wedi gwrthwynebu'r syniad o Gomisiynwyr Etholedig mae'r hen bennau yn gweld cyfle gwleidyddol. Yn yr hinsawdd bresennol fe ddylai Llafur ennill y mwyafrif o swyddi a thrwy hynny rheolaeth ar .

Fe fydd gan Gadeirydd y Gymdeithas honno bulpud gwych i ymosod ar y Llywodraeth ar faterion cyfraith a threfn. Gellir disgwyl ei glywed a'i weld ar "Today a "Newsnight" byth a hefyd a bydd Comisiynwyr Llafur eraill yn gwneud y colbio ar eu cyfryngau lleol.

Y gwir amdani yw bod y Torïaid mwy na thebyg wedi creu cythraul o bastwn a'i roi yn nwylo eu gwrthwynebwr.

Y cwestiwn mawr nawr yw faint o bobol fydd yn trafferthu i droi allan i bleidleisio yn nhywyllwch Tachwedd. Dim llawer, dybiwn i. Rwy'n ddigon hen i gofio'r dyddiau pan oedd pobol Cymru yn gorfod pleidleisio bob saith mlynedd ynghylch agor tafarnau ar y Sul. Yn yr ardaloedd oedd eisoes yn 'wlyb' roedd y niferoedd oedd yn pleidleisio yn chwerthinllyd o fach. Mae rhyw gof gen i fod llai na deg y cant wedi bwrw eu pleidlais yng Nghasnewydd yn y bleidlais olaf yn y ddinas honno.

Dydw i ddim yn disgwyl ffigyrau llawer uwch y tro yma - a beth mae hynny'n dweud am bolisi oedd wedi ei lunio i gynyddu atebolrwydd yr heddlu?

Gwaed ar eu dwylo

Vaughan Roderick | 09:50, Dydd Iau, 6 Medi 2012

Sylwadau (1)

Roedd ddoe yn ddiwrnod rhwystredig yn Uned Wleidyddol Â鶹Éç Cymru. Roedden ni'n clywed gan ffynonellau dibynadwy iawn bod Stephen Crabb i'w benodi'n weinidog yn Swyddfa Cymru. Roedd ffynonellau eraill, a'r rheiny'r un mor ddibynadwy, yn mynnu mai'r Farwnes Randerson fyddai'n ddirprwy i David Jones. Pwy i gredu felly?

Wnaeth neb feddwl am eiliad y gallai'r ddwy stori fod yn wir. Wedi'r cyfan Ysgrifennydd Gwladol rhan amser ac un dirprwy yn Swyddfa Cymru fu'r patrwm am y rhan fwyaf o'r cyfnod ers sefydlu'r Cynulliad - a dydw i ddim yn cofio Don Touhig yn cwyno am y pwysau gwaith.

Y cwestiwn amlwg yw beth ar y ddaear y mae tri gweinidog am wneud a'u hamser? Roedd tri yn ddigon i redeg y cyfan o'r hen Swyddfa Gymreig - go brin fod angen yr un nifer i ofalu am ei gweddillion.

Y peryg mawr yw i'r triawd newydd botsio ym mhriod waith y Cynulliad er mwyn llenwi'r oriau hesb. Gallai hynny achosi pob math o broblemau a gwrthdaro. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn gobeithio bod 'na ddigon o gardiau chwarae a setiau Monopoli yn NhÅ· Gwydyr!

Mae'n debyg mai Mike German fu'n ymgyrchu dros gael Democrat Rhyddfrydol yn Swyddfa Cymru ac i fod yn deg roedd y ffaith bod yr adran un o lond dwrn lle nad oedd gan y blaid gynrychiolaeth yn ymddangos braidd yn rhyfedd o'r cychwyn.

Yr adran ddiwylliant oedd un o'r adrannau eraill lle'r oedd gan y Torïaid fonopoli o'r swyddi. Am y rheswm hynny roedd y blaid Gymreig yn teimlo'n rydd i ymosod ar y ffordd y gwnaeth Jeremy Hunt ddelio ac S4C. Anodd fyddai wedi gwneud hynny pe bai 'na Ddemocrat Rhyddfrydol yn weinidog yn yr adran.

Mae 'na fanteision amlwg i'r Democratiaid Rhyddfrydol o gael llais a chlust yn Swyddfa Cymru. Ar y llaw arall mae'n gwneud hi'n anoddach i'r grŵp yn y Cynulliad esgus bod a wnelo penderfyniadau Swyddfa Cymru a'r glymblaid yn San Steffan ddim byd a nhw.

Fe fydd gallu cyhuddo Kirsty Williams o fod a gwaed ar eu dwylo yn fêl ar fysedd Carwyn Jones.

Tenant Newydd TÅ· Gwydyr

Vaughan Roderick | 13:42, Dydd Mawrth, 4 Medi 2012

Sylwadau (0)

Daeth tro ar fyd felly ac am y tro cyntaf ers 1987 mae gennym Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol sy'n cynrychioli etholaeth Gymreig yn NhÅ·'r Cyffredin.

Er iddo gael ei eni yn Llundain yn Rhosllannerchrugog y cafodd David Jones ei fagu - dyna mae'n debyg sy'n gyfrifol am yr hynny o Gymraeg sydd ganddo - er go brin mai Rhos sy'n gyfrifol am ei acen Saesneg!

Mae gen i sbeis ym mhobman ac yn ôl un o gyfoedion David o Rhos roedd ei dad, y fferyllydd lleol, yn ddyn hynod boblogaidd yn y pentref. Llai felly ei fab.

Rwyf wedi ysgrifennu o'r blaen am y tensiynau rhwng David a rhai o aelodau Ceidwadol y Cynulliad. Mewn sgwrs breifat ddoe dywedodd un o'r rheiny y byddai penodi aelod Gorllewin Clwyd yn Ysgrifennydd Cymru yn "drychineb i'r blaid". Mae eraill yn fwy diplomatic ond teg yw credu nad yw'r champagne yn llifo ar drydydd llawr TÅ· Hywel y prynhawn yma.

Pam mae'r tensiynau hynny'n bodoli? Wel, mae David yn gallu bod yn gymeriad pigog ond mae 'na fwy i'r peth na hynny. Mae rhai o'i gyd-Geidwadwyr o'r farn nad yw'r Ysgrifennydd Gwladol newydd wedi llwyr gofleidio datganoli. Yn sicr, yn ystod ei gyfnod byr fel Aelod Cynulliad rhwng 2002 a 2003 doedd hi ddim yn ymddangos ei fod yn hoff iawn o fywyd gwleidyddol y Bae na bod ganddo llawer o barch at yr egin Gynulliad.

Yn ei datganiad yn ymateb i'r penodiad tynnodd Llafur sylw at y ffaith bod David yn gyn-aelod o grŵp o Aelodau Seneddol o'r enw "Cornerstone". Disgrifiad y grŵp hwnnw o'r Cynulliad a Senedd yr Alban oedd "disgracefully wasteful talking-shops" a galwodd am refferendwm Prydain gyfan i ddiddymu'r sefydliadau datganoledig.

Dyw bod yn aelod o grŵp ddim yn golygu eich bod yn cefnogi pob un o'i safbwyntiau wrth reswm ond mae 'na ddigon yng nghefndir yr Ysgrifennydd Gwladol newydd i godi amheuon ymhlith y rheiny sydd eisoes yn amheus.

Ond mae 'na rywbeth dyfnach yn mynd ymlaen rwy'n meddwl. Teg yw nodi bod nifer o'r Ceidwadwyr sy'n amheus ynghylch penodiad David Jones hefyd yn grwgnach ynghylch arweinyddiaeth Andrew RT Davies yn y Cynulliad.

Yn y bôn mae'r aelodau hyn yn ofni bod Ceidwadwyr Cymru yn dawnsio wrth ymyl y dibyn a bod angen gwleidydd o sylwedd, boed hwnnw yng Nghaerdydd neu San Steffan, i osod cyfeiriad pendant ac adeiladol i'r blaid. Eu hofn mwyaf yw y gallai Ceidwadwyr Cymru ddioddef trychineb fel un 1997 yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf a chyda dwy ran o dair o'r aelodau wedi diflannu ers hynny na fyddai modd brwydro yn ôl yr eildro.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.