Â鶹Éç

Help / Cymorth

Archifau Ebrill 2012

Pleidiau neu Enwadau

Vaughan Roderick | 15:30, Dydd Mercher, 25 Ebrill 2012

Sylwadau (7)


Rwyf wedi bod yn esgeuluso'r blog ychydig dros yr wythnos ddiwethaf. Roedd ysgrifennu darlith ar gyfer Canolfan y Morlan wedi mwy neu lai lladd fy awch i sgwennu! Sut mae Gweinidogion yn llwyddo i gynhyrchu pregeth yr wythnos, dywedwch?

Fe fydd y ddarlith yn ymddangos ar wefan y Morlan yn y man ond yn ei hanfod roedd hi'n rhoi bras olwg o hanes gwleidyddol Cymru o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd heddiw ac yn gofyn ydy'r system bleidiol sy'n bodoli yng Nghymru heddiw yn adlewyrchu'r rhaniadau yn y farn gyhoeddus. Dyma ran ohoni.

"Ydy'r rhaniadau pleidiol sy'n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd yn cynrychioli'r rhaniadau naturiol o fewn y farn gyhoeddus - wrth i bynciau Cymreig hawlio fwy fwy o sylw?

Rwyf yn gadarn o'r farn nad ydyn nhw.

Mae'n ymddangos i mi bod gwleidyddiaeth sy'n bennodol Gymreig yn cael ei eni drachefn a bod yna floc naturiol o bleidleiswyr sydd wedi eu gwasgaru rhwng y pleidiau ar hyn o bryd.

Mi fedrwch eu canfod o fewn rhengoedd y pedair plaid. Rhain yw disgynyddion y traddodiad gwleidyddol anghydffurfiol rhyddfrydol sydd wedi goroesi o dan wyneb system bleidiol Brydeinig am ganrif a mwy.

Pwy yw'r bobol yma a beth maen nhw'n credu?

Pobol yw nhw sy'n ymwybodol ac yn ymfalchïo mewn Cymreictod, sy'n dyrchafu addysg, diwylliant a democratiaeth, sy'n edmygu gwasanaeth i gyd-ddyn a chymuned ac sy'n parchu llwyddiant trwy ymdrech ond yn ddrwgdybus ynghylch anghyfartaledd ac annhegwch.

Mae'n nhw'n ffyrnig o blaid y wladwriaeth les ac yn credu bod gwasanaethau cyhoeddus safonol yn bwysigach na cheniniog neu ddwy oddi ar y dreth.

Mae'n disgrifiad yna'n ddisgrifiad o nifer sylweddol iawn o bobol Cymru - y mwyafrif o bosib. Hwn yw tir canol gwleidyddiaeth Cymru ac mae'n wahanol iawn i dir canol gwleidyddiaeth Lloegr.

Wrth i'r hen batrwm yma ddod yn fwy pwysig yn ein gwleidyddiaeth mae'n ymddangos i mi bod ein pleidiau yn edrych yn debycach i enwadau gwleidyddol bob dydd.

Fel yn achos yr enwadau mae pa blaid y'ch chi'n perthyn iddi'n dibynnu'n fwy ar gefndir teuluol, ardal ac iaith nac ar unrhyw ideoleg arbennig.

Mae 'na wahaniaethu diwinyddol bron rhyngddyn nhw ond dyw llawer o'r cefnogwyr ddim yn ymwybodol iawn beth yw'r gwahaniaethau hynny ac mae'r gwahaniaethau y tu fewn i ambell i blaid llawer yn fwy na'r gwahaniaeth rhyngddi hi a phlaid arall.

Ystyriwch hyn am eiliad. Pe bai Paul Davies, Elin Jones, Aled Roberts a Keith Davies yn eistedd da'i gilydd faint o wahaniaethau barn go iawn fyddai rhyngddyn nhw - o leiaf wrth drafod pynciau penodol Gymreig?

Oes ots? Rwy'n meddwl bod 'na. Does ond angen edrych ar Weriniaeth Iwerddon i weld y peryglon o system bleidiol sy'n ddibynnol ar raniadau'r gorffennol yn hytrach na gwahaniaethau barn y presennol.

Yn y fan honno i raddau helaeth yr hyn oedd yn gwahaniaethu Fianna Fail a Fine Gail oedd ar ba ochor yr oedd teulu'r aelodau yn ystod rhyfel cartref Iwerddon.

Yn y fath sefyllfa ydy hi'n syndod bod gwleidyddiaeth wedi troi'n gem o chwennych grym er mwyn ei gael - gyda'r canlyniad bod llygredd mewn gwleidyddiaeth yng ngeiriau comisiwn swyddogol yn "endemic, well known and pervasive"

Rwy'n falch i ddweud nad wyf yn credu y bydd sefyllfa tebyg yn datblygu yng Nghyrmu.

Mae 'na arwyddion bod platiau tectonig ein gwleidyddiaeth yn symud a bydd system bleidiol Cymru yn adlewyrchu'r rhaniadau barn naturiol ymhen amser."

Cyfri'r Ymgeiswyr

Vaughan Roderick | 15:31, Dydd Iau, 12 Ebrill 2012

Sylwadau (10)

Un o'r tasgau mwyaf sy'n wynebu'r Uned Wleidyddol ar drothwy etholiadau lleol yw'r gwaith o gasglu'r ystadegau ynghylch faint o ymgeiswyr sy'n sefyll yn yr etholiadau ac i bwy. Wrth i fi sgwennu'r geiriau yma mae dau o'n newyddiadurwyr wrthi'n palu trwy ffeiliau pdf di-ri er mwyn cael darlun cywir.

Dyw'r gwaith ddim wedi ei lwyr ddilysu eto ond gan fy mod yn holi Nick Clegg heddiw fe ofynnais am frasamcan ynghylch nifer ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol o gymharu â 2008. Roeddwn i'n synhwyro bod gostyngiad sylweddol wedi bod ac roeddwn i'n iawn yn hynny o beth.

Yn 2008 roedd gan y blaid 436 o ymgeiswyr. 341 yw'r nifer y tro hwn - gostyngiad o ryw 25%. Mae'r gostyngiad hyd yn fwy mewn ambell i ardal oedd arfer bod yn addawol iawn i'r blaid. Ym Mhen-y-bont, er enghraifft, lle'r oedd y blaid yn arwain y Cyngor am gyfnod ar ôl etholiad 2008 mae nifer ei hymgeiswyr wedi gostwng o 31 i 16. Yng Nghasnewydd mae'r nifer wedi gostwng o 47 i 25.

Ni ellir beio difaterwch cyffredinol am hyn. Mae'r tair prif blaid arall wedi llwyddo i gynyddu nifer ei hymgeiswyr ers 2008. Mae gan Lafur 887 o ymgeiswyr, 11 yn fwy na thro diwethaf. Mae'r Ceidwadwyr wedi enwebu 571 ymgeisydd y tro hwn o gymharu â 514 tro diwethaf ac mae nifer ymgeiswyr Plaid Cymru wedi cynyddu o 517 i 558. Mae hyd yn oed yr ymgeiswyr annibynnol ar i fyny o 600 i 651.

Wrth reswm mae'r mwyafrif llethol o'r wardiau y mae'r blaid wedi troi ei chefn arnyn nhw yn rhai lle'r oedd ymdrech 2008 yn aflwyddiannus. Serch hynny dyw'r ffaith bod y blaid yn ymladd brwydr mor amddiffynnol ddim yn argoeli'n dda.

Dŵr sy'n llifo dros y wlad...

Vaughan Roderick | 11:18, Dydd Mawrth, 10 Ebrill 2012

Sylwadau (3)

Rhywle yn y tŷ mae gen i focs o recordiau sengl cynnar cwmni Sain. Dŵr Huw Jones oedd y record gyntaf un ac os cofiaf yn iawn roedd 'Tryweryn' gan Meic Stevens hefyd ymhlith yr hanner dwsin cyntaf. Mae'n brawf, os oes angen prawf, o ba mor bwysig oedd dŵr fel pwnc yng ngwleidyddiaeth Cymru yn sgil boddi Capel Celyn.

Nid Tryweryn a Chlywedog oedd yr unig gynlluniau i foddi cymoedd yng Nghymru yn y chwedegau. Diolch i brotestiadau ar y pryd mae ysblander creigiog Cwm Senni yn Sir Frycheiniog o hyd yno i'w fwynhau. Dydw i ddim yn cofio i unrhyw gynllun am gronfa ddŵr newydd godi ei ben ers hynny er bod son wedi bod am godi uchder ambell i argae er mwyn cynyddu maint cronfeydd.

Fe wnaeth Deddf Dŵr, 1973 lawer i ostegu'r dyfroedd - os gwnewch chi faddau'r geiriau mwys. Fe sefydlodd honno Awdurdod Datblygu Cenedlaethol Dŵr Cymru, rhagflaenydd sector gyhoeddus Dŵr Cymru, i fod yn gyfrifol am gyflenwadau dŵr y rhan fwyaf o'r wlad. Fe wnaeth hi hefyd greu mecanwaith i alluogi i'r Awdurdod godi am ddŵr a gyflenwyd o Gymru i Loegr.

Hanfod y system oedd gorfodi i Awdurdod Hafren Trent drosglwyddo rhydd-ddaliad unrhyw gronfa o'i eiddo yng Nghymru i'r Awdurdod Cymreig ac yna cytuno ar delerau prydles er mwyn cael defnyddio'r dŵr.

Pa mor berthnasol yw hynny i'r dadleuon presennol? Yn fy marn i mae'n berthnasol iawn gan ei fod yn datgan egwyddor bwysig sef hon: nid yw prynu tir a buddsoddi mewn codi cronfa yn gyfystyr a phrynu'r hawl i'r holl ddŵr y gellid ei gasglu. Ym marn gwleidyddion 1973, o leiaf roedd gan bobol Cymru, trwy eu hawdurdod cyhoeddus, berchnogaeth o'u dŵr.

Mae'n ymddangos bod Dŵr Cymru'n credu hynny hefyd. Mewn datganiad sydd wedi ei eirio'n hynod o ofalus dyma sydd gan y cwmni i ddweud.

"Mae hwn yn fater i lywodraeth ond, yn hanesyddol, mae dŵr wedi bod yn bwnc gwleidyddol hynod ddadleuol yng Nghymru a dychmygwn y byddai unrhyw benderfyniad ynghylch cronni a chyflenwi dŵr yn y dyfodol yn un a byddai'n derbyn cefnogaeth Llywodraeth a phobol Cymru"

Neu i ddefnyddio un o sloganau'r chwedegau - "Ni piau'r dŵr!"

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.