麻豆社

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Cariad at y cwm

Vaughan Roderick | 14:54, Dydd Mawrth, 21 Chwefror 2012

Deugain mlynedd yn 么l i'r wythnos hon bu farw un o gymeriadau mwyaf lliwgar hanes gwleidyddol Cymru.

Fe fyddai'n deg i ddadlau, rwy'n meddwl, mai S.O yw'r Aelod Seneddol mwyaf asgell chwith yn hanes gwleidyddiaeth Cymru.

Cafodd ei ddiarddel o'r blaid Lafur seneddol o leiaf bump o weithiau am wrthryfela ac roedd ganddo fwy o feddwl o bolisi tramor Moscow nac un Whitehall. Roedd hefyd yn un o'r ychydig aelodau seneddol i gefnogi'r ymgyrch dros Senedd i Gymru yn y pumdegau. Ar 么l colli'r enwebiad Llafur ym Merthyr yn 1970 fe safodd fel ymgeisydd annibynnol ac yn groes i bob disgwyl fe lwyddodd i drechu'r peiriant lleol a chadw'r sedd.

Bu farw S.O prin ddwy flynedd yn ddiweddarach ac yn yr isetholiad a ddilynodd ei farwolaeth cafwyd ras agos rhwng Llafur a Phlaid Cymru gyda'r cenedlaetholwyr yn honni mai eu hymgeisydd nhw, Emrys Roberts, oedd gwir etifedd radicaliaeth genedlaetholgar yr hen rebel.

Mae gen i fat cwrw yn rhywle ac arno'r slogan "Henry Richard - Keir Hardie - S.O - Emrys - Let's give Merthyr the Grand Slam!" - neu rywbeth felly. Beth bynnag oedd yr union eiriau - chi'n deall y neges

Merthyr oedd yr olaf o dri isetholiad nodweddiadol yn y cymoedd yn chwedegau a saithdegau'r ganrif ddiwethaf lle ddaeth Plaid Cymru o fewn trwch blewyn i drechu Llafur. Fe esgorodd y rheiny ar ganfyddiad yn rhengoedd Plaid Cymru mai'r ffordd i'r blaid sicrhau mwyafrif a thrwy hynny annibyniaeth oedd trwy drechu Llafur yn y cymoedd ac mae'r ffordd orau i wneud hynny oedd trwy ymosod arni o'r chwith.

Mae ambell i lwyddiant mewn etholiadau lleol ers hynny ac ennill Islwyn a'r Rhondda yn 1999 wedi bod yn ddigon i ddarbwyllo nifer o fewn y blaid bod y strategaeth yn un realistig a rhesymol o hyd. Mae'r gred honno yn rhan o ap锚l Leanne Wood fel arweinydd posib i nifer o bleidwyr.

Mae'n ddigon posib hanner canrif yn 么l bod y fformiwla 'Y Fro Gymraeg + y cymoedd = annibyniaeth' yn cynrychioli'r unig lwybr at lwyddiant i Blaid Cymru. Yn sicr doedd fawr ddim tystiolaeth ar y pryd y gallai'r blaid apelio yn yr hyn a ddisgrifiwyd ar y pryd fel "British Wales".

Ond ydy hynny o hyd yn wir? Ydy hi'n bosib bod breuddwydio breuddwydion mawr ynghylch y cymoedd wedi dallu Plaid Cymru i strategaethau posib eraill?

Wedi'r cyfan ers degawdau bellach bu gan y blaid bresenoldeb ar Gyngor Bro Morgannwg ac yn etholiad cynulliad y llynedd fe enillodd bron cymaint o bleidleisiau yng Ngorllewin Caerdydd.

Hyd y gwelaf i does un o'r tri ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi bod yn s么n rhyw lawer am sut mae apelio at y Gymru ddinesig. Oni ddylen nhw wneud neu ydy S.O yn dal i daflu ei gysgod dros y blaid?


i

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:21 ar 21 Chwefror 2012, ysgrifennodd John Dixon:

    Fel un a fu鈥檔 rhan o鈥檙 鈥漰resenoldeb ar Gyngor Bro Morgannwg鈥 (yn wir, fi oedd Y presenoldeb rhwng 1979 a 1983), dwi鈥檔 credu bod perygl mewn ceisio dod i gasgliad ar sail etholiadau lleol ynghylch dewis safbwynt ideolegol fydd yn ennill pleidleisiau. Go brin bod fy safbwynt ideolegol innau鈥檔 wahanol iawn i eiddo Leanne, ond nid ar sail ideoleg yr enillwyd y 鈥榩resenoldeb鈥 hwnnw. Hunan-dwyll fyddai honni hynny, gwaetha鈥檙 modd.

    Y gwir syml yw taw鈥檙 hyn a enillodd gyfres o etholiadau lleol i鈥檙 Blaid mewn rhai wardiau penodol ym Mro Morgannwg oedd t卯mau lleol cryf a chyson. A yw hynny, mewn gwirionedd, yn wahanol iawn i鈥檙 sefyllfa yn y Cymoedd? Traul a llanw fu hi ers degawdau yn absenoldeb y cryfder a鈥檙 cysondeb hwnnw, ac mae鈥檙 cymoedd yn dystiolaeth i hynny, yn amlwg.

    Nid dadlau ydw i na ddylai gwleidyddion arddel safbwynt ideolegol; dim ond dweud nad yw鈥檙 safbwynt honno ddim bob tro鈥檔 chwarae r么l mor bwysig 芒 hynny wrth benderfynu acnlyniad unrhyw etholiad, yn arbennig ar lefel leol.

  • 2. Am 21:26 ar 21 Chwefror 2012, ysgrifennodd Dylan:

    Diolch am roi peth o hanes S.O. inni, Vaughan. Mae rhywbeth yng nghefn fy meddwl mai un o'r rhesymau nad oedd yn fodlon 芒'r ymgeisydd Llafur a roed yn ei erbyn yn 1970 oedd nad oedd hwnnw'n 'wilia Cwmr锚g', chwedl S.O., ac felly nad oedd wir yn addas i fod yn AS Merthyr! Ces gip ar y ddolen a roddwyd i'r Bywgraffiadur Cymreig, ac wedyn ar ei gofnod yn yr Oxford Dictionary of National Biography. Dim gair yn y naill na'r llall ei fod yn siarad Cymraeg (er bod cofnod y Bywgraffiadur yn 1,200+ gair). Ces olwg wedyn ar y cofnodion am ei bartner yn Ffedarasiwn y Glowyr, Noah Ablett. Dim gair ei fod ef yn medru'r Gymraeg chwaith. Byddwn yn tybio bod iaith gyntaf yr unigolion hyn yn rhywbeth werth ei nodi mewn cofnodion bywgraffyddol safonol. Mae'r diffyg yn siomedig iawn yn y DNB, ond yn waeth eto gan y Bywgraffiadur.

  • 3. Am 14:48 ar 22 Chwefror 2012, ysgrifennodd huw:

    Dw i鈥檔 cytuno bod 鈥榚nnill y Cymoedd鈥 wedi bod yn rhyw fath o obsesiwn i Blaid Cymru ar hyd y blynyddoedd.
    Yr hyn sy鈥檔 rhaid ei ddeall ydi bod yr ymlyniad yma i鈥檙 Cymoedd yn rhywbeth llawer dyfnach na strategaeth wleidyddol yn unig. Mae鈥檔 deillio鈥檔 bennaf o ddarlun rhamantaidd a delfrydgar sydd ym meddyliau llawer o bleidwyr y gogledd a鈥檙 gorllewin am bentrefi glofaol cymdogol a sosialaidd lle mae鈥檙 Gymraeg yn adennill tir.
    Y darlun rhamantaidd yma, yn ogystal 芒鈥檙 ffaith fod y Cymoedd yn gadarnleoedd Llafur, sydd hefyd y tu 么l i鈥檙 ddamcaniaeth mai trwy fod i鈥檙 chwith o鈥檙 blaid Lafur y mae ennill cefnogaeth eu trigolion.
    Hyd nes y bydd Plaid Cymru鈥檔 cwestiynu o ddifri pa sail sydd i ddamcaniaeth o鈥檙 fath, anodd gweld pa obaith sydd ganddi o dyfu i fod y blaid fwyaf yng Nghymru.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.