Pen 么l Prydain
Dydw i ddim yn cofio yn lle y clywais i'r talfyriad 'RUK' am y tro cyntaf. Ta beth mae'n weddol gyffredin erbyn hyn wrth gyfeirio at y wladwriaeth fyddai'n weddill pe bai etholwyr yr Alban yn dewis annibyniaeth. "Rump UK" yw ffurf lawn y talfyriad. Ai 'pen 么l Prydain' yw'r cyfieithiad Cymraeg cywir, tybed?
Rwyf wedi cyfeirio o'r blaen at y ffaith bod ychydig o waith yn cael ei wneud y tu 么l i'r llenni ynghylch ffurf gwladwriaeth a fyddai'n cynnwys Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon ac mae Carwyn Jones wedi mentro trafod y peth yn gyhoeddus o bryd i gilydd. Mewn cyfarfod diweddar yn Nulyn dywedodd Carwyn y byddai angen cydbwyso T欧'r Cyffredin gyda siambr arall gyda chynrychiolaeth gyfartal o Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon pe bai'r Alban yn gadael yr Undeb.
Mae aelodau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn llai parod i wyntyllu'r fath amgylchiadau. Mae hynny'n ddigon dealladwy. Ar rwystro ymadawiad yr Alban y mae eu meddyliau nhw wedi eu hoelio a gallai trafod si芒p RUK nawr awgrymu eu bod yn credu bod achos yr Undeb yn debyg o gael ei golli yn refferendwm 2014.
Mae trafod RUK o gwbwl yn cymryd un peth yn ganiataol sef mai'r wladwriaeth honno fyddai olynydd cyfreithiol y wladwriaeth Brydeinig bresennol gyda'r Alban yn cael ei hystyried fel gwladwriaeth newydd. Dim ond o dderbyn y dadansoddiad hwnnw y mae cwestiynau megis yr angen i'r Alban (ond nid RUK) wneud cais i fod yn aelod yn Undeb Ewropeaidd yn codi.
Mae 'na ddadansoddiad arall yn bosib. Gan fod y 'United Kingdom(s)' wedi dod i fodolaeth trwy uno Lloegr a'r Alban gellid dadlau y byddai datgymalu'r ddwy wlad yn ddiwedd ar y wladwriaeth Brydeinig a bod y ddwy wladwriaeth a fyddai'n cael ei ffurfio yn rhai newydd a chyfartal eu statws.
Dyna yw barn cenedlaetholwyr yr Alban ac mae'n ymddangos bod eu cefndryd Cymreig yn cytuno. Yn 么l Simon Thomas, er enghraifft, fe fyddai'r Deyrnas Unedig yn 'finito' pe bai'r Alban yn annibynnol a'r berthynas rhwng Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 'llechen lan'.
Mae edrych ar hanes datgymalu Iwgoslafia a'r ddadl ynghylch hawl gwladwriaeth fyrhoedlog Serbia a Montenegro i enw a breintiau'r hen wladwriaeth yn arwydd o ba mor bwysig y gallai'r ddadl hon fod.
Dydw i i ddim yn arbenigwr ar gyfraith ryngwladol a dydw i ddim am gynnig ateb ond mae'r ffaith ein bod yn trafod y pwnc o gwbwl yn arwydd o ba mor anghyfarwydd yw'r tir cyfansoddiadol yr ydym yn troedio arno.
SylwadauAnfon sylw
Gan fod y 'United Kingdom(s)' wedi dod i fodolaeth trwy uno Lloegr a'r Alban gellid dadlau y byddai datgymalu'r ddwy wlad yn ddiwedd ar y wladwriaeth Brydeinig...
Felly fallai mai 'Lloegr' fydd enw'r endyd sy'n cael ei adael ar ol!
Yn dechnegol, rwy'n amau bod hynny'n gywir gan fod y "Kingdom of England" yn cynnwys neu o leiaf yn hawlio Cymru a'r cyfan o Iwerddon!
Mae gormod o genedlaetholwyr yn anghofio ein bod ni wedi treulio canrifoedd lawer cyn 1707 yn rhan o'r un wladwriaeth a Lloegr, a doedd gan Gymru ddim statws na breiniau neilltuol yn y wladwriaeth honno. Arna i ofn nad annibyniaeth Gymreig na Phrydain ffederal fydd canlyniad anorfod ymadawiad yr Alban o'r DG: fe allwn yr un mor rhwydd ddychwelyd i fodel digon tebyg i un y wladwriaeth Duduraidd.
Mae'r amser pan fydd rhaid i'r Cymry benderfynu a ydynt am fod yn genedl go-iawn, yn gyfartal a'r Gwyddelod, yr Albanwyr a'r Saeson, yn brysur nesau. Neu a fyddant yn bodloni ar statws 'ethnic minority' oddi fewn i'r 'Kingdom of England'? Nid oes gan leiafrifoedd ethnig yr hawl i dimau rygbi a phel droed ar lwyfan ryngwladol, felly Saeson fydda ni wedyn i bob pwrpas yng ngolwg gweddill y byd, a mwy na thebyg yng ngolwg rhan fwyaf o'r Saeson hefyd. A pham lai os oedd y dewis o'n blaenau a ninnau'n ei wrthod? Pen ol Prydain? - gan y gwirion ceir y gwir Vaughan!
Efallai bod "the Kingdom of England" yn hawlio Cymru, ond fel mae Vaughan yn gwybod, er 1967 a'r Ddeddf Iaith gyntaf, nid yw unrhyw gyfeiriad at Loegr i gynnwys Cymru. (Adr. 4)
Ond beth am Ddeddf Uno 1800? Mae honno'n dal mewn grym.
Diddorol, Hendre.
Wrth ystyried bod EIN 'Deddfau Uno' ni (Deddf Cyfreithiau yng Nghymru 1435-1542) wedi eu dileu gan y Ddeddf Iaith yn 1993. A bod honno wedi diddymu (ond nid wedi arfer y Deddfau Uno rheiny gan Fesur Iaith y Cynulliad, y llynedd.
Uno Prydain Fawr ac Iwerddon wnaeth deddf 1800. Y deddfau sydd fel arfer yn cael eu cyfeirio atynt fel deddfau uno yn y cyd-desrun Cymreig yw'r Deddfau 'Laws in Wales' 1535-1542. Yn ddiddorol iawn diddymwyd rhain gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Mae lle i ddadlau felly, fel mater o gyfraith, nid yn unig nad yw Cymru'n rhan o Loegr o gwbl, ond nad oes undod cyreithiol rhyngddynt ers 1993. Sydd ond yn dangos, fel y mae nifer wedi dadlau yng nghyd-destun yr Alban, nad y gyfraith yw'r ffactor pwysicaf yn y materion hyn.
Ond beth am 鈥淎n act to enforce the execution of 芒n act of this session of parliament, for granting to his Majesty several rates and duties upon houses, windows, or lights鈥 neu 鈥楧deddf Cymru a Berwick 1776鈥, fel y鈥榠 gelwir, sy鈥檔 cynnwys y cymal yma:
鈥淚t is declared and enacted that in all cases where the Kingdom of England and England hath been or shall be mentioned in any Act of Parliament, the same has been and shall henceforth be deemed and taken to comprehend and include the dominion of Wales and Town of Berwick upon Tweed.鈥
Dyw'r ddeddf ei hun ddim mewn grym mewn perthynas 芒 Chymru ond onid yw Deddfu Dehongli 1978 yn 鈥榓dfer鈥 y cymal hwn;
"in any Act passed before 1st April 1974, a reference to England includes Berwick upon Tweed and Monmouthshire and, in the case of an Act passed before the Welsh Language Act 1967, Wales."
Felly mae鈥檙 cyfeiriad at 鈥楨ngland鈥 yn Neddf Uno 1707 yn ein cwmpasu ni? Ai dyna鈥檙 unig ddarn o statud (hy Deddf Dehongli 1978) sy鈥檔 ein clymu ni yn y Deyrnas Unedig? Fy mhwynt i wrth s么n am Ddeddf Uno 1800 oedd na fydden ni'n dychwelyd at 'Teyrnas Lloegr' oni bai bod y ddeddf honno yn cael ei diddymu hefyd.
ON Bydd Leanne Wood (fel finne) yn falch o nodi mai 鈥榙ominion鈥 oedd Cymru yn 1776 ac nid tywysogaeth!
Hm. Diddorol.
Fel hyn dwi'n ei gweld hi:
Dydi Deddf Dehongli 1978 ddim yn adfer y cymal addiddymwyd yn Neddf Cymru a Berwick, ond dwi'n cytuno ei bod hi'n ei gwneud yn eglur fod y cyfeiriad at Loegr yn y Ddeddf uno 1707 yn cynnwys Cymru. OND os mai deddfau 1535-1542 sy'n uno Cyru a Lloegr (gellid dadlau nad dyna a wnaethant, ond cadarnhau uniad oedd eisioes yn bod), yna effaith Deddf yr Iaith 1993 yw diddymu'r uniad hwnnw ers 1993. Os yw hynny'n gywir, yna mae'n ymhlyg fod effaith Deddf Dehongli 1978 wedi dod i ben ar yr un pryd, ac na ellir dehongli deddf 1707 fel bo Lloegr yn dal i gynnwys Cymru wedi 1993.