麻豆社

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Nid yw'r post hwn yn ddwyieithog!

Vaughan Roderick | 10:12, Dydd Gwener, 14 Hydref 2011

Mae'r Cynulliad wedi cyrraedd oedran lle mae ambell i draddodiad a defod wedi eu magu. Un o'r rheiny yw bwrdd y wasg yn ffreutur T欧 Hywel. Bob dydd mae newyddiadurwyr y Bae yn ymgynnull i giniawa gyda'n gilydd ac i roi'r byd yn ei le.

Gwleidyddiaeth a gwaith yw'r testunau siarad gan amlaf wth reswm ond ambell dro mae pwnc arall yn codi. Y dydd o'r blaen roedd Betsan, Gareth Hughes a finnau'n trafod bwydydd cysur - yn fwyaf arbennig y rheiny sydd wedi diflannu o fyrddau swper y genedl. Dyna ni felly yn trafod pwdin pibau a bara the pan dorrodd cynhyrchydd ITV Lyn Courtney ar draws y sgwrs.

"This is very odd" meddai "I understand everything you're talking about."


Sgowsar yw Lynne sy ddim, hyd y gwn i, wedi cael unrhyw fath o wers Gymraeg ffurfiol yn ei bywyd ond rhywsut, o fod yn awyrgylch dwyieithog y Cynulliad, mae rhyw faint o Gymraeg wedi treiddio i'w hymenydd.

Mae'n ffenomen sy'n codi cwestiwn diddorol i mi sef lle yn union mae'r ffin ieithyddol yng Nghymru'r dyddiau hyn? Nid son am ffin ddaearyddol ydw i ond y ffin feddyliol rhwng y siaradwyr Cymraeg a'r Di-Gymraeg.

Y gwir amdani, am wn i, yw mai ychydig iawn o bobol sy 'na yng Nghymru erbyn hyn sydd heb unrhyw wybodaeth o'r iaith. Mae datblygiadau yn yr ysgolion a'r ffaith bod y Gymraeg mor weladwy bellach yn golygu y byddai'n rhaid bod yn hynod benstiff i ddim byd treiddio. Yn wir, yn achos disgyblion ysgol yn y sector Saesneg sy'n cael gwersi Cymraeg gorfodol am ddegawd fe ddylai llawer mwy treiddio! Mater arall yw hynny.

Yn y cyd-destun ieithyddol yma mae 'na ddadl efallai y dylai'r sector gyhoeddus fod yn fwy anturus a defnyddio mwy o ddychymyg yn yr ymdrech i hybu'r Gymraeg. Pam defnyddio Saesneg o gwbwl mewn rhai achosion? Oes angen fod yn slafaidd ddwyieithog bob tro? Enwau Cymraeg nid rhai dwyieithog sydd gan Ysbyty Aneurin Bevan ac Ysbyty Ystrad Fawr a da o beth yw hynny - ond beth am gael ambell i arwydd ffordd uniaith Gymraeg neu ambell i gyfarwyddyd syml.

Fel mae'n digwydd mae'r archfarchnad agosaf i'n nghartref yn gwneud yr union beth yna. Mae ambell i arwydd yn ddwyieithog, eraill un uniaith Saesneg ac eraill eto yn uniaith Gymraeg. Oes angen dewud 'bread' yn ogystal 芒 'bara' neu 'milk yn ogystal 芒 'llaeth'? Dydw i ddim yn meddwl bod e. Mae'n rhywbeth i Meri Hughes feddwl yn ei gylch!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:20 ar 14 Hydref 2011, ysgrifennodd D. Enw:

    Yn union Vaughan. Mater o agwedd yw hi. Fe ddylse dyn allu fynd fewn i unrhyw siop yng Nghymru a gallu gofyn cwestiwn syml fel 'ga' i baned o goffi pl卯s' heb fod nhw'n teimlo fel eu bod nhw wedi rhegi ar y staff. I raddau mae pethau'n gwella'n ara bach.

    Ti'n llygad dy le ar arwyddion hefyd. Mae pawb bellach wedi hedfan ar Ryanair i lefydd hynod egsotig. Bu farw unrhywun o newin neu syched neu a fethon nhw fynd i'r t欧 bach achos eu bod nhw heb ddeall yr arwyddion? Oes wir angen Gent/Dynion ar y tai bach? Wir? Gyda llun boi bach ar y drws hefyd? Onid yw 'bara' uwchben cowneter sy'n gwerthu, erm, bara yn rhoi cliw i'r cwsmer?

    Rydyn yn s么n am safonnau ise, disgwylidau isel, cyrhaeddidau isel. Byddai dysgu, meithrin a defnyddio rhagor o Gymraeg yn rhan o ymgyrch i godi disgwyliadau pobl o'u gilydd. Mae'n rhan o addysg anffurfiol bob dydd pobl - fel dysgu sut mae trydar neu sut flas sydd i fwyd newydd neu darllen cyfarwyddiadau syml.

  • 2. Am 16:31 ar 14 Hydref 2011, ysgrifennodd Carl Morris:

    Dw i wedi sgwennu cofnod fel ateb.

  • 3. Am 17:07 ar 14 Hydref 2011, ysgrifennodd BoiCymraeg:

    Mae strydoedd newydd ym Mro Morgannwg wedi derbyn enwau uniaith Gymraeg am gryn dipyn. Efallai bod hynny'n syndod i rai, o gofio nad yw'r Fro yn cael ei ystyried ymysg y Cymreiciaf o ardaloedd Cymru; ond dyna ni. Hyd y gwn i does neb wedi cwyno.

    Rwy'n cytuno 芒 Vaughan mewn theori, yn enwedig mewn rhai achosion, er enghraifft Morissons yng Nghaernarfon, lle mae'r geiriau

    Siop / Shop
    Petrol / Petrol

    Wedi eu paentio ar lawr...

    Un broblem yw bod Cymry Cymraeg wedi bod yn defnyddio'r "hawl i dderbyn gwasanaeth yn eich hiaith eich hun" fel dadl dros wasanaethau dwyieithog am flynyddoedd. Pe bai pobl yn dechrau ceisio cael gwared 芒 Saesneg mewn rhai cyd-destunau mi fyddai hynny'n mynd yn erbyn y ddadl hwnnw. Mae'n bur debyg bod y mwyafrif yng Nghymru bellach yn deall digon o Gymraeg i'n galluogi i fynd heb y Saesneg weithiau; ond o droi'r ddadl yna ar ei ben, rydyn ni i gyd yn deall digon o Saesneg i fynd heb y Gymraeg. O leia drwy fynnu ar ddwyieithrwydd rydym yn osgoi'r cwestiwn mawr hwnnw, sef, ai pwrpas hyn oll yw creu Cymru Dwyieithog, neu hybu'r iaith Gymraeg?

  • 4. Am 11:08 ar 16 Hydref 2011, ysgrifennodd Iwan Rhys:

    Blogiad diddorol. Fe dreulies i flwyddyn yn Seland Newydd yn ddiweddar, ac mae'r P膩keh膩 (unrhyw rai nad ydynt yn F膩ori) a'r M膩ori fel ei gilydd yn defnyddio llawer o eiriau te reo M膩ori (yr iaith M膩ori) wrth siarad Saesneg. Yn aml, fydden nhw ddim yn sylweddoli eu bod nhw'n gwneud hynny, ac ar y dechre fe fydden i'n gorfod eu stopio nhw a gofyn iddyn nhw egluro. Ond o fewn rhai misoedd, roeddwn i'n dod yn gyfarwydd 芒'r termau hynny hefyd.

    e.e.
    P膩keha = pobl nad ydynt yn F膩ori, yn llythrennol
    te reo = yr iaith
    whakapapa = llinach
    koha = cyfraniad/rhodd ("admission by koha" yn aml ar waelod poster)
    hui - cyfarfod/cynhadledd
    whanau = teulu estynedig
    whenua = gwlad, a hefyd brych(!)
    tangata whenua = y brodorion / y bobl wreiddiol / pobl y tir
    tamariki = plant
    iwi = llwyth
    tapu = cysegredig
    haka = wel, sdim angen i mi esbonio'r haka!

    Roedd rhain i'w clywed a'u gweld yn rheolaidd. Ond pe gofynnech chi i'r P膩keh膩, bydde'r mwyafrif llethol yn dweud nad ydyn nhw'n siarad gair o te reo M膩ori! Faint o hynny'n sy'n wir am Gymru a'r Gymraeg, sgwn i?

    Dwi ddim yn siwr a oes hawl rhoi dolen mewn sylwad fel hyn, ond os goglwch chi "Dwy Grwydryn o Gymru" fe ddewch o hyd i flog fy ngwraig a mi, ac ewch i'r postiad ar ddydd Sul, 27 Mawrth 2011.

  • 5. Am 13:28 ar 20 Hydref 2011, ysgrifennodd Nangogi:

    Mae hwn wedi fy atgoffa o arwydd "dwyieithog" welais i mewn neuaddau preswyl myfyrwyr yn Aberystwyth: Warden / Warden !

    Ond mae'r pwynt yn un dilys iawn. Mae llawer fawr iawn o fywyd cyhoeddus Cymru'n digwydd yn uniaith Saesneg, a hynny ambell waith yn cael ei herio, ambell waith yn cael ei dderbyn. Ond pan fentrir gwneud rhywbeth yn uniaith Gymraeg - wow, mae rhywun yn gallu wynebu'r gwenwyn a'r chwerwder rhyfeddaf.

    Yn y b么n, ni fydd y Gymraeg yn goroesi oni bai bod meysydd ble mae'n unig iaith - pethau nad oes modd cael mynediad atynt oni bai am drwy'r Gymraeg (mae'r blog hwn yn enghraifft perffaith!). Fel arall, mae pob cymhelliad - ymarferoldeb, ymdrech, egni, effeithiolrwydd, etiquette cymdeithasol - yn arwain cymdeithas i gyfeiriad unieithrwydd.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.