Yn Y Doc
Efallai eich bod chi'n credu fy mod yn berson anoracaidd braidd - ond nid fi yw'r gwaethaf yn Uned Wleidyddol y Â鶹Éç!
Wrth i mi gyrraedd y gwaith heddiw roedd un o fy nghydweithwyr yn wen o glust i glust ac yn amlwg wedi ei gyffroi. Roedd 'na sawl rheswm posib - perfformiad timau rygbi a phêl-droed Cymru, efallai, neu gan ei fod yn un o Gasnewydd y grasfa roddodd Newport County i Fleetwood neithiwr? Ond na.
"Wyt ti wedi gweld hwn" meddai gan chwifio dogfen. Beth oedd honno? Canlyniad achos llys sydd wedi bod yn rhygnu ymlaen ers peth amser.
"AXA General Insurance Limited and others v The Lord Advocate and others (Scotland)" oedd teitl swyddogol yr achos yn y Llys Goruchaf
Er mai achos yn erbyn Llywodraeth a Senedd yr Alban oedd hwn roedd Cwnsler Cyffredinol Cymru yn cymryd rhan yn yr achos hefyd oherwydd y cynseiliau cyfansoddiadol oedd yn debyg o gael eu gosod.
Herio deddf a basiwyd gan Senedd yr Alban oedd AXA. Roedd y ddeddf honno wedi ei llunio i wyrdroi penderfyniad gan Arglwyddi'r Gyfraith (cyn dyddiau'r Llys Goruchaf) ynghylch hawliau gweithwyr a allai ddatblygu Clefyd Asbestos i iawndal gan yswirwyr eu cyflogwyr.
Doedd dim modd herio'r ddeddf trwy ddefnyddio cyfraith yr Alban. Yn hytrach ceisiwyd defnyddio Cyfraith Cyffredin Lloegr (y gyfraith a ddefnyddiwyd i sefydlu Senedd yr Alban) a chyfraith Ewropeaidd. Dadl AXA oedd bod gweithredoedd Senedd yr Alban yn afresymol a throëdig.
Mae ymateb yn Llys yn hynod ddiddorol. Yn y bôn mae'r barnwyr yn dweud nad yw rhesymoldeb gweithredoedd Caeredin neu Gaerdydd yn fater i'r llysoedd. Mae'n fater i'r etholwyr. Dyma'r paragraff allweddol.
"Law-making by a democratically elected legislature is the paradigm of a political activity, and the reasonableness of the resultant decisions is inevitably a matter of political judgment. In my opinion it would not be constitutionally appropriate for the courts to review such decisions on the ground of irrationality. Such review would fail to recognise that courts and legislatures each have their own particular role to play in our constitution, and that each must be careful to respect the sphere of action of the other."
Yr hyn mae'r penderfyniad yn golygu yw bod cyfreithiau Cymru a'r Alban o fewn y meysydd datganoledig cywerth a chyfreithiau'r Deyrnas Unedig. Mae'n cadarnhau bod gan y Cynulliad elfen, o leiaf o sofraniaeth. Mae'r cyfan yn dechnegol braidd ond coeliwch fi a'r anorac - mae'n bwysig!
SylwadauAnfon sylw
Vaughan - 'rydym gyd yn anoraciaid nawr'.