Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Blocio Burnham

Vaughan Roderick | 14:12, Dydd Mercher, 13 Gorffennaf 2011

Mae'n ddiwedd tymor yn y Bae. Cyn i unrhyw un yn o fy nghydweithwyr yn San Steffan waedu arnaf i, dyw hynny ddim yn golygu diwedd y tymor gwleidyddol. Mae'r senedd yn eistedd wythnos nesaf a chyda'r holl helynt hacio go brin y bydd yr haf yn un digyffro, hirfelyn tesog.

Serch hynny darlledir CF99 olaf y tymor heno ac mae'n anhebyg y bydd 'na 'Dau o'r Bae' yr wythnos hon oherwydd gweithredu diwydianol. Dylwn i nodi'r achlysur felly. Des i a bocs o donyts i'r gwaith i fy nghydweithwyr ond beth fedra i roi i chi, darllenwyr annwyl?

Wel mae gen i un stori fach i gynnig o'r 'ffynnon fach sy'n rhoi o hyd' - helyntion etholiadol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Chwi gofiwch efallai bod Eleanor Burnham wedi dweud wrth CF99 rhai wythnosau yn ôl bod yr holl sefyllfa yn "siambols" Nawr fe fyddai rhai yn dweud bod disgrifiad Eleanor yn un digon teg, ffeithiol hyd yn oed.

Nid felly oedd y blaid yn gweld pethau. Derbyniodd Eleanor tri llythyr, dau gan bwyllgorau sirol ac un gan y Prif Weithredwr ar ran y pwyllgor gwaith yn ei chyhuddo o ddwyn anfri ar y blaid. "Bringing the party into disrepute" oedd yr union eiriau.

Nawr mae llythyr fel yna gan amlaf yn gychwyn ar broses disgyblu ac efallai bod y blaid wedi gobeithio di arddel Eleanor er mwyn sicrhau nad hi fyddai'n derbyn sedd Aled Roberts pe bai hwnnw'n cael ei gau allan o'r Cynulliad yn barhaol. Efallai bod hynny'n wir er ei bod hi'n anodd credu y byddai'r blaid wedi gallu cwrdd â holl anghenion ei chyfansoddiad Bysantaidd mewn da bryd.

Ta beth am hynny, y cwestiwn sy gen i yw hwn. P'un sydd waethaf - galw rhywbeth yn siambols neu greu siambols - ac os oen na ddisgyblu i fod onid awdur un o'r llythyrau ddylai fod o flaen ei gwell am fethu sicrhau bod ymgeiswyr y blaid wedi eu henwebu'n gywir?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 08:16 ar 14 Gorffennaf 2011, ysgrifennodd chris castle:

    Swn i'n dweud mae creu siambol yn waeth.
    A hefyd, wrth son am siambols a "Bringing the Party into disrepute" yntydi'r Rhyddfrydwyr yn San steffan yn Carthu'r 30% o bolisiau mae pobol wedi pleidleisio'n uniongyrchol amdanynt (ffioedd dysgu, llai o dorriadau ac ati) er mwyn gweithredu'r 70% o'r Maniffesto does neb wedi sylwi arnynt yn gwneud y tro yn well?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.