Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Draw dros y dwr i'r de

Vaughan Roderick | 14:08, Dydd Mercher, 15 Mehefin 2011

Ymhen ychydig ddyddiau fe fydd Plaid Cymru yn cynnal cyfweliadau i ddewis Prif Weithredwr ac er cymaint siomedigaethau diweddar y Blaid does dim prinder ymgeiswyr. Mae'n ymddangos bod 'na hen ddigon o bobol dalentog yn dymuno gweithio i'r blaid - mwy efallai na sy'n deisyfu sefyll drosti! Ta beth am hynny, fe fydd hi'n beth amser cyn i bwy bynnag sy'n cael ei benodi gwybod pa strategaeth y bydd y blaid yn ei dilyn yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Go brin y bydd y Blaid yn derbyn cyngor Dafydd Elis Thomas i osgoi syllu ar ei bogel ei hun a chyrraedd cytundeb clymblaid buan a Llafur. Ac eithrio Dafydd ei hun dydw i ddim yn synhwyro bod unrhyw un o fewn y grŵp yn deisyfu hynny. Efallai bod hynny'n esbonio'r pellter rhwng sedd 41 lle mae'r cyn-lywydd yn eistedd a seddi gweddill aelodau Plaid Cymru.

Mae'n anorfod bod unrhyw blaid sydd wedi dioddef etholiad siomedig yn treulio peth amser yn pwyso a mesur. Gellir gwneud hynny mewn un o ddwy ffordd. Y ffordd gyntaf yw'r un a ddilynwyd gan Lafur ar ôl yr Etholiad Cyffredinol sef cynnal etholiad am yr arweinyddiaeth gyda'r gwahanol ymgeiswyr yn cynrychioli'r gwahanol safbwyntiau. Y peryg wrth wneud hynny yw posibilrwydd nad yw'r person sy'n arddel y syniadau mwyaf poblogaidd yn arbennig o gymwys i fod yn arweinydd. Amser a ddengys a ydy hynny'n wir yn achos Ed Milliband.

Y ffordd arall o bwyso a mesur yw gwneud yr hyn mae Plaid Cymru'n gwneud sef gosod yr arweinyddiaeth i'r naill ochor a chynnal trafodaeth agored. Mae 'na beryg y gall hynny greu sefyllfa lle mae'n ymddangos bod plaid wedi troi ei chefn ar yr etholwyr ac ond siarad â hi ei hun. Dyw hynny ddim wedi digwydd yn achos Plaid Cymru. Dim eto, o leiaf, ond mae'r cloc yn tician.

Cafwyd dau gyfraniad i ddadl Plaid Cymru yn rhifyn heddiw o'r Western Mail. Cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod traethodau Elin Jones ac Adam Price wedi ymddangos yn yr un rhifyn o'r papur. Roedd traethawd Elin yn barod i fynd wythnos ddiwethaf. Fe'i daliwyd yn ôl, fe dybiwn i, er mwyn peidio ymddangos fel ymateb i'r ffrwgwd ynghylch Ieuan Wyn Jones. Serch hynny mae'r cyd-ddigwyddiad yn enghraifft berffaith o broblem sy'n wynebu arweinydd nesaf Plaid Cymru.

Dyma i chi ddau draethawd - un gan un o'r ffefrynnau, os nad y ffefryn, i fod olynydd i Ieuan ac un gan rywun nad yw'n aelod etholedig o unrhyw gorff a sydd ddim hyd yn oed yn bwy yng Nghymru ar hyn o bryd. Traethawd pwy felly sy'n cael ei wthio i gornel o'r papur a pha un sy'n haeddu pennawd a llun enfawr yn ogystal â stori newyddion ar wahân?

Chin gwybod yr ateb. Adam Price sy'n serennu. Elin Jones sydd yn y cysgodion.

Hyd yn oed o gofio "bromance" Martin Shipton ac Adam Price mae'n awgrymu y gallai arweinydd nesaf Plaid Cymru fod dan gysgod y Mab Darogan gan ymddangos fel arweinydd dros dro - rhyw stiward yn gofalu am Gondor nes i'r Brenin ddychwelyd.

Fe wynebodd yr SNP broblem debyg yn etholiad 2007 wrth geisio canfod rolau ymgyrchu cymwys i Alex Salmond, oedd yn aelod yn San Steffan, a Nicola Sturgeon, arweinydd grŵp y Blaid yn Holyrood. Yn y diwedd fe luniwyd cyfaddawd trwy ddylunio Alex Salmond fel "darpar brif weinidog" y blaid.

A fyddai Plaid Cymru yn ystyried cymryd cam tebyg? Mae hynny'n fater iddyn nhw ond mae Adam yn broblem yn ogystal ag yn ased enfawr i Blaid Cymru.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:06 ar 15 Mehefin 2011, ysgrifennodd Robert:

    "Y mae un cryfach na mi yn dod. Nid wyf i'n deilwng i ddatod y sandalau am ei draed." ;-)

  • 2. Am 21:00 ar 16 Mehefin 2011, ysgrifennodd Defi:

    A lle mae Adam Price ? - mae bywyd yn yr UD yn braf iawn, mae'n rhaid gennyf i. Mae'r ysgoloriaeth yma'n talu am arhosiad maith iawn. Mae pob munud mae'n aros yno yn gwneud drwg i'w gyfleon fel arweinydd. A fydd yn adnabod y Gymru wleidyddol bellach ? . Ar ol ei ran yn llofruddiaeth papur newydd Cymraeg , a oes cefnogaeth iddo ymysg y 'chattering classes ' ? .
    Credaf fod PC yn chwilio am arweinydd newydd sydd rhy hen - Dafydd Wigley.
    Mae gloddestwyr y ty cyri'n haeddu cael eu condemnio am oes am fradychu
    ef, PC a Cymru yn y pen draw, a gadael i Gymru gael ei chadw'n dlawd gan y Blaid Lafur.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.