Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ar awyr y bore mae arogl coffi...

Vaughan Roderick | 10:29, Dydd Iau, 9 Mehefin 2011

Nes i wrando arni er mwyn cael pennawd i bost ddoe roeddwn i wed anghoio gystal gân oedd "Rue Saint Michelle". Mae gen i deimlad y byddaf yn cloddio am ambell i bennawd arall yn y gân honno dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Mae amseru'n bopeth mewn gwleidyddiaeth, medden nhw ac yn sicr roedd amseriad absenoldeb Ieuan Wyn Jones o'r cynulliad yn hynod anffodus - iddo fe o leiaf. Mae'n fel ar fysedd ambell i un arall o fewn y blaid.

Hynny yw pe bai Ieuan wedi colli agoriad brenhinol neu ryw ddefod arall mewn cyfnod lle'r oedd ei arweinyddiaeth yn gadarn fe fyddai 'na dipyn o embaras ond heb os, fel yn achos Rhodri Morgan a Seremoni Goffa D-Day yn 2004 fe fyddai Ieuan wedi goroesi fel arweinydd. Mae codi cwestiynau ynghylch ac awch a chrebwyll yn nyddiau machlud gyrfa yn wahanol iawn.

Dyw e ddim yn syndod bod rhai o aelodau'r blaid bellach yn teimlo y dylai Ieuan roi'r gorau i'r arweinyddiaeth yn gynt nac oedd e'i hun yn bwriadu.

Er bod Ieuan wedi gadael ambell i ddrws yn agored trwy ddweud y byddai'n ymddeol o'r arweinyddiaeth "rhywbryd yn ystod hanner cyntaf y Cynulliad" y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o fawrion y blaid o'r farn mai ymhen rhyw flwyddyn y byddai Ieuan yn rhoi'r ffidl yn y to. Nid pawb oedd yn hapus ynghylch yr amserlen ond roedden nhw'n fodlon ei derbyn. Mae hynny wedi newid.

Hyd y gwn i does neb yn dymuno gweld Ieuan yn ymddiswyddo yn syth gan roi'r argraff ei fod yn gwenud hynny oherwydd digwyddiadau'r wythnos hon. Fe fyddai hynny yn rhoi 'scalp' i'r pleidiau eraill ac yn dwyn anfri ar ben gwleidydd y mae'r mwyafrif llethol o bleidwyr o hyd yn ei hoffi ac yn ei barchu.

Eto i gyd mae 'na nifer cynyddol yn credu y dylai arweinydd newydd gael ei ddewis eleni. Mae ambell i ymgeisydd posib eisoes yn braenaru'r tir ar gyfer yr ymgyrch trwy gynyrchu erthyglau a syniadau ynghylch dyfodol y blaid. Roedd un erthygl felly i fod i ymddangos heddiw. Mae'n debyg ei bod wedi ei dal yn ol oherwydd helyntion Ieuan.

Ydy Ieuan yn sylweddoli hyn wrth iddo frecwasta yn ne Ffrainc? Dwn i ddim. "Wake up and smell the coffee" fel maen nhw'n dweud.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:15 ar 9 Mehefin 2011, ysgrifennodd Robert:

    Nid oes unrhyw un yn siarad am y stori yma heblaw am Â鶹Éç Cymru a'r rhai sydd yn y swigen 'na yn y bae. Yn wir, "Wake up and smell the coffee"

  • 2. Am 14:46 ar 9 Mehefin 2011, ysgrifennodd Robert:

    Dyma gliw paham fod yr unoliaethwyr (gan gynnwys y Â鶹Éç) ar y droed ol:

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.