Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Beth i wneud-wneud?

Vaughan Roderick | 14:27, Dydd Mercher, 11 Mai 2011

Hwyrach mae'r ffaith bod 'na ddau Andrew Davies yn y Cynulliad oedd yn gyfrifol am y nifer o lysenwau mae'r aelod Ceidwadol o'r enw yna wedi eu denu. "RT" - priflythrennau ei enwau canol yw'r mwyaf cyffredin er bod "then-then" yn cael ei glywed yn bur aml hefyd. Tuedd Andrew i ail-adrodd y gair olaf mewn brawddeg yw'r sail i'r ail lysenw. Dydw i ddim yn gwybod ai rhywbeth tafodieithol ym Mro Morgannwg yw'r arfer ond mae'n drawiadol ta beth-beth!

Heb os Andrew Davies yw'r ceffyl blaen yn y ras i olynu Nick Bourne fel arweinydd y Ceidwadwyr. Ers iddo ymddiswyddo o gabinet y Ceidwadwyr mae Andrew wedi treulio cryn dipyn o amser yn "helpu allan" ar lawr gwlad - yn mynd o ginio i swper, o ffair haf i ffair Nadolig gan swyno aelodau cyffredin y blaid - yr union rai fydd yn ethol yr arweinydd newydd. Does dim dwywaith chwaith bod eu safbwyntiau cymharol asgell dde ac unoliaethol yn boblogaidd ymhlith y ffyddloniaid.

Gobaith gwrthwynebwyr Andrew yn y Cynulliad diwethaf oedd y byddai'n bosib ei rwystro rhag cyflawni ei uchelgais trwy ddefnyddio rheolau'r blaid. Yn ôl y rheolau hynny dyletswydd grŵp y Cynulliad yw dewis dau enw o'u plith i'w gosod gerbron yr aelodau cyffredin mewn etholiad arweinyddol. Y gred oedd y byddai'n bosib sicrhau nad oedd enw Andrew yn un o'r rheiny ond mae'r gobaith hwnnw wedi diflannu o ganlyniad i'r gwaed newydd sydd wedi cyrraedd y Bae. Mae gan ambell i aelod newydd ffafrau i ad-dalu - a gall Andrew fod yn weddol sicr o gael ei enw ar y papur.

Y cwestiwn sy'n wynebu ymgeiswyr posib eraill yw p'un ai i sefyll yn erbyn Andrew ac wynebu'r posibilrwydd o gael crasfa ai peidio. Gallai peidio sefyll ymddangos yn llwfr. Ar y llaw arall mae 'na ambell i Geidwadwr o'r farn y gallai Andrew faglu fel arweinydd oherwydd byrbwylltra. Mewn sefyllfa felly fe fyddai gan y grŵp yr hawl i'w diorseddi a dewis arweinydd arall heb droi at yr aelodau cyffredin.

Beth fyddai Machiavelli'n dweud, tybed?


Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.