Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Trafferthion i'r Toriaid

Vaughan Roderick | 10:00, Dydd Iau, 31 Mawrth 2011

Mater i'r pleidiau yw sut mae lansio eu hymgyrchoedd ond gair bach i gall.

Dyw cynnal lansiad yn ystod 'Wales Tonight' a 'Wales Today' heb sicrhau bod eich arweinydd ar gael i gyfweliadau byw ddim yn syniad arbennig o dda.

Efallai eich bod wedi yn ceisio dyfalu pam mai Darren Millar ac nid Nick Bourne oedd yn ymddangos ar rifyn neithiwr o 'Wales Today' - y ffenest siop bwysicaf i wleidyddion Cymreig. Wel, dyna'r esboniad i chi.

Roedd Nick yn annerch llond dwrn o gefnogwyr mewn ystafell di-nod tra roedd Darren yn cael dweud ei ddweud o flaen 276,000 o wylwyr teledu.

Roedd Darren wrth ei fodd, wrth reswm! Andrew RT llai felly, efallai!

Roedd ambell i Dori yn rhyfeddu wrth weld y fath gawl amaturaidd gan blaid sydd gan amlaf yn cael ei nodweddi gan ei phroffesiynoldeb ond mae 'na broblem arall gan Geidwadwyr Cymru.

Deallaf fod dyddiad lansio maniffesto'r blaid wedi ei ohirio tra bod trafodaethau munud olaf yn cael eu cynnal a'r blaid yn Llundain.

Does gen i ddim clem beth yw'r union broblem ond gallaf ddychmygu. Mae'n bosib bod y maniffesto yn cynnwys addewidion sy'n effeithio ar y berthynas a Llundain a bod angen eu sgwario ac adrannau Whitehall. Rhywbeth ynghylch ariannu, efallai.

Mae'n ddigon posib hefyd bod y maniffesto yn cynnwys addewid neu addewidion i Gymru sy'n rhagori ar yr hyn mae Llywodraeth y DU yn gwneud yn Lloegr.

Cymerwch un enghraifft posib. Mae'r blaid wedi bod yn rhygnu ymlaen ers misoedd am y syniad o gyflwyno "cerdyn y lluoedd arfog" a fyddai'n galluogi i aelodau a chyn-aelodau'r lluoedd dderbyn llwyth o fuddiannau megis teithio am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae'r addewid hwnnw yn un o'r rhai sydd ar gerdyn addewidion y blaid ond mae'n gadael gôl agored i Lafur yn San Steffan. Os ydy'r cerdyn yn syniad mor dda pam nad yw Llywodraeth David Cameron yn cyflwyno cynllun tebyg yn Lloegr? Ydy'r Ceidwadwyr yn credu bod milwyr a morwyr Cymru'n ddewrach a mwy haeddiannol na rhai Lloegr?

Nawr, dyw Llundain ddim yn mynd i orfodi'r i'r blaid Gymreig newid y polisi hwnnw nac unrhyw bolisi arall ond mae angen amser i ystyried sut mae delio a'r goblygiadau posib yn San Steffan.

Fel dywedais i o'r blaen dydw i ddim yn gwybod beth yw union asgwrn y gynnen ond mae'r rhyfeddod nad oedd y pethau yma wedi eu sortio allan misoedd yn ôl.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:56 ar 2 Ebrill 2011, ysgrifennodd Steffan John:

    Mae hyn yn od a dweud y lleiaf. Nid oedd dyddiad yr etholiad yn gyfrinach. Mae hyn yn codi cwestiynau am broffesiynoldeb y Torïaid - ond mae hefyd yn dangos agwedd y blaid Brydeinig. Mae'n glir nad ydynt yn deall na derbyn datganoli - unai drwy wneud yn siŵr eu bont yn mynd trwy faniffesto'r blaid Gymreig o flaen llaw, neu dderbyn bod y blaid Gymreig gyda hawl i wneud fel y mynnai.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.