Palu'n ddyfnach
Mae cyhoeddi "cyllideb" yn gallu bod yn beth peryg i wrthblaid.
Ar lefel Brydeinig fe wnaeth Llafur syrthio i'r trap hwnnw ar drothwy etholiad 1992 wrth i Ganghellor yr Wrthblaid, John Smith, gyhoeddi cynlluniau economaidd manwl.
Roedd y bwriad strategol yn amlwg. Roedd Llafur wedi addo cynyddu pensiwn y wladwriaeth a budd-dal plant ac yn dioddef ymosdodiadau cyson gan y Ceidwadwyr am beidio esbonio o ble y byddai'r arian yn dod.
Ateb y cwestiwn hwnnw oedd pwrpas y "shadow budget" ond roedd y faith ei bod yn cynnwys cynlluniau i gynyddu trethi'r dosbarth canol yn fel ar fysedd y Ceidwadwyr.
Mae sawl un yn credu mai cyllideb yr wrthblaid wnaeth arwain at fuddugoliaeth annisgwyl John Major yn 1992. Yn bersonol, ryw'n digwydd credu bod amheuon ynghylch hygrededd Neil Kinnock yr un mor bwysig. Serch hynny, erys y wers. Mae manylu gormod ynghylch eich cynlluniau ariannol yn gallu bod yn beryglus.
Mae Ceidwadwyr y Cynulliad yn wynebu problem debyg. Pan gyhoeddodd y blaid ei haddewid i ddiogelu'r gyllideb iechyd fe berodd hwnnw wir bryder i hen bennau'r pleidiau eraill.
Beth bynnag oedd ei ragoriaethau neu ffaeleddau fel polisi, roedd yr addewid yn un syml, yn hawdd ei ddeall ac yn debyg o fod yn boblogaidd. Roedd tynnu'r addewid hwnnw'n ddarnau yn flaenoriaeth i bleidiau'r llywodraeth a'r Democratiaid Rhyddfrydol fel ei gilydd. Efallai nad oedd y Ceidwadwyr yn disgwyl ymosodiadau mor ffyrnig ond yn fuan fe lwyddodd y pleidiau eraill i greu cryn ddryswch ynghylch y polisi.
Addewid gwreiddiol Nick Bourne oedd y byddai'r Ceidwadwyr yn cynyddu cyllideb yr adran iechyd yn unol â chwyddiant wedi ei fesur ar raddfa'r RPI. Mae hynny'n wahanol ac yn uwch na'r mesur chwyddiant y mae'r llywodraeth yn defnyddio sef y 'GDP deflator'.
Wrth gael ei holi ynghylch hynny ar Radio Wales fe ddrysodd Andrew R.T Davies, y llefarydd iechyd, yn llwyr gan addo y byddai'r cynnydd yn y gwariant ar sail cyfanswm y ddau fesur - hynny yw y byddai'r cynydd yn ddwbl lefel chwyddiant!.
Y diwrnod wedyn cafwyd cywiriad arall felly. Y "GDP Deflator" ac nid RPI fyddai'r mesur allweddol!
Doedd hi ddim yn rhyfeddod i un o newyddiadurwyr y Cynulliad (nid un o rai'r Â鶹Éç) amau bod hwn yn bolisi "wedi ei weithio mas ar gefn pecyn sigars"!
Ond prif ymosodiad y pleidiau eraill oedd yr un clasurol - "o ble mae'r arian yn dod?". Ers wythnosau mae'r Ceidwadwyr wedi addo ateb y cwestiwn hwnnw gan addo gwneud mewn ffordd fanwl na welwyd ei thebyg gan wrthblaid o'r blaen.
Heddiw cafwyd yr ateb hwnnw.
Yn wahanol i 'gyllideb' John Smith doedd 'na ddim lansiad drudfawr - dim cynhadledd newyddion hyd yn oed. Yn hytrach cafwyd datganiad dwy dudalen o hyd yn nodi faint y byddai'r Ceidwadwyr yn torri o gyllideb pob adran. Fe wneir hynny ar ffurf canran yn hytrach na swm ariannol. Fe fyddai'r adran addysg, er enghraifft, yn wynebu toriadau o 12% o gymharu â'r 8% y mae'r Llywodraeth yn eu bwriadu.
A fydd y datganiad yn ddigon i dawelu'r dyfroedd? Mae'r strategaeth yn weddol eglur.
Trwy ryddhau'r datganiad reit ar ddiwedd y tymor ac yr un diwrnod a dadl y ffioedd yn San Steffan mae'n bosib na fydd y stori'n derbyn llawer o sylw. Dyna, rwy'n tybio, yw gobaith y Ceidwadwyr. Pan ofynnir ynghylch ariannu'r addewid yn y dyfodol fe fydd y blaid yn mynnu bod y cwestiwn eisoes wedi ei ateb.
Mae'n bosib y gallai hynny weithio fel tacteg - ond gyda misoedd i fynd tan yr etholiad mae'r un mor bosib bod y blaid ar fin troi twll yn bwll.
SylwadauAnfon sylw