Colli Awdurdod
Wel, fe ddywedais fy mod yn disgwyl datblygiadau ynghylch S4C yn weddol fuan! Mae'n anodd credu nad ydym yn cyrraedd rhyw fath o drobwynt pwysig yn y stori.
I'r rheiny sy'n diystyru ymyrraeth ddiweddaraf Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymru mae'n werth nodi bod pump o'r deuddeg aelod o'r Pwyllgor Dethol yn Dorïaid. Gall eu datganiad fod yn rhagflas o'r casgliadau y bydd y Pwyllgor yn eu cyrraedd ac mae'n ddiddorol mai aelodau'r Awdurdod ac nid ei gadeirydd sydd dan y lach.
Neithiwr cynhaliwyd cyfarfod o'r Awdurdod pan gafodd yr aelodau wybod bod John Walter Jones wedi cytuno gyda'r adran ddiwylliant beth amser yn ôl y byddai'n ymddeol fel Cadeirydd ar ei ben-blwydd yn 65 ym Mis Mawrth flwyddyn nesaf. Mae John Walter ei hun wedi cadarnhau hynny wrth Betsan.
Mae ffynonellau (dienw) gwahanol wedi awgrymu wrthyf i, bod y cyfarfod yn un stormus a bod John Walter wedi cael cymaint o lond bol nes iddo gyhoeddi ei fod am ymddiswyddo yn y fan a'r lle. Roedd y Cadeirydd yn y gogledd a thorodd y cysylltiad fideo rhyngddo a'r cyfarfod er mwyn cyfleu'r penderfyniad hwnnw i'r DCMS.
Yn ddiweddarach deallir bod John Walter wedi newid ei feddwl. Does wybod beth yw'r rheswm am hynny ond mae'r bosib ei fod wedi derbyn y neges o Lundain mai ei gyd-aelodau oedd y broblem - nid fe.
Beth sy'n digwydd nesaf? Dwn i ddim - ond mae'n amlwg bod yr awdurdod yn rhedeg allan o ddewisiadau. Mae'r aelodau wedi ei hollti rhwng y rhai sydd am gyrraedd y ddel orau posib yn yr amgylchiadau a'r rheiny sydd yn dymuno gwneud safiad ac edrych ar opsiynau cyfreithiol.
Dyw'r naill ddewis na'r llall yn ddeniadol iawn. Fe fyddai'r gyntaf yn golygu colli o leiaf rhywfaint o annibyniaeth a thua chwarter incwm flynedd y sianel ond gallai mynd i'r baraceds adael yr Awdurdod mewn sefyllfa lle byddai'n rhaid ceisio cynnal y sianel ar incwm o £7 miliwn y flwyddyn a dogn o raglenni gan y Â鶹Éç.
Beth bynnag sy'n digwydd, mae'n amlwg erbyn hyn bod yr awdurdod mewn peryg o syrthio'n ddarnau. O dan yr amgylchiadau hynny mae'n anodd gweld sut y gall yr Awdurdod fwrw ymlaen a'r broses o ddewis prif weithredwr newydd.
SylwadauAnfon sylw
Piti na fydden nhw 'di darlledu'r blincin cyfarfod, fydde 'na rwbeth gwerth i wylio ar y sianel fel 'ny.