Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hyn a'r llall...

Vaughan Roderick | 16:22, Dydd Iau, 7 Hydref 2010

Derbyniais un o'r e-byst firaol yna'r dydd o'r blaen yn awgrymu sloganau i'r pleidiau ar gyfer etholiad cynulliad 2011. Dydyn nhw ddim yn gweithio cystal yn Gymraeg ond dyma nhw. "Amddiffyn Cymru" oedd yr awgrym i Lafur a "Gobaith i Gymru" oedd un Plaid Cymru. Awgrymwyd "Penderfyniadau Dewr dros Gymru" ar gyfer y Ceidwadwyr. A'r Democratiaid Rhyddfrydol? Wel y slogan oesol, wrth gwrs "Dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol all guro X yn fan hyn"!

Trwy ryfedd wyrth fe gyrhaeddodd yr e-bost munudau'n ddiweddarach munudau i un gan y blaid felen yn cychwyn fel hyn;

Aberconwy Lib Dems, having polled more votes than Plaid Cymru in the recent General Election, are targetting the Plaid held Aberconwy seat for the Welsh Assembly.

Fedra i weld y "bar-chart" yn barod!

Mae 'na bleidlais arall i ddod cyn etholiad y Cynulliad wrth gwrs sef y refferendwm. Disgwylir i'r ymgyrch "ie" gael i lansio'n gymharol fuan yn sgil cyfarfod yr wythnos hon rhwng pwyllgor llywio'r ymgyrch ac arweinwyr y pedair plaid yn y Cynulliad hwnnw. Un penderfyniad i leihau'r baich ar ysgwyddau Rhodri Morgan - un o brif asedau'r ymgyrch, yw'r penderfyniad y dylai rhyw un arall gadeirio cyfarfodydd y pwyllgor llywio o hyn ymlaen. Sgwn i a fydd aelodau'r pwyllgor yn colli clywed hanesion a straeon difyr Rhodri yn eu cyfarfodydd?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:40 ar 10 Hydref 2010, ysgrifennodd Iestyn:

    "Focus" - Llaneirwg: "Conservatives can't win here", a'r siart bar arferol, gyda bar y Dem Rhydd wedi codi ychydig ar y graff er mwyn gwneud bach yn fwy o wahaniaeth rhwng eu 36.9% a 36.6% Llafur.

    Ond 'na ni, mae nhw'n honni eu bod wrthi'n carco ein ysgolion a chadw'r GIG rhag colli "Front line services"...

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.