Ar y goelcerth
Fe godwyd y ploryn pensaernïol hwn fel cartref i Awdurdod Gwasanaethau Cyffredin Gwasanaeth Iechyd Cymru - llond ceg o gwango y gwnaeth John Redwood ei ddiddymu.
Dydw i ddim yn cofio mewn gwirionedd ond rwy'n fodlon mentro bod Ysgrifennydd Cymru wedi derbyn ambell i bennawd ffafriol am daflu'r cwango arbennig hwnnw ar y goelcerth. Y gwir amdani wrth gwrs oedd bod y corff yn gwneud yr union beth y mae gweinidogion yn rhygnu ymlaen ei gylch byth a hefyd sef dod a thipyn o drefn i bwrcasu a chomisiynu yn y sector gyhoeddus.
Mae'r pendil arbennig yma'n symud yn ôl ac ymlaen yn gyson yn y sector gyhoeddus. Fe fydd un gweinidog yn canoli trefniadaeth gan addo arbedion ariannol trwy "ddifetha seilos ac ymerodraethau biwrocrataidd lleol". Fe fydd y nesaf yn brolio ei fod wedi chwalu cwango a dychwelyd cyfrifoldebau yn "agosach at y defnyddiwr" er mwyn sicrhau "atebolrwydd".
Y bore 'ma cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei chynlluniau i ad-drefnu cwangos Lloegr. Mae'n ddiddorol nad yw'r Llywodraeth honno wedi rhoi unrhyw awgrym ynghylch y nifer o swyddi fydd yn cael eu colli na faint o arian fydd yn cael ei arbed - os oes 'na arbediad o gwbl. Mae hynny i'w ganmol - ffrwyth dychymyg fyddai unrhyw ffigyrau ar hyn o bryd. Polisi wedi ei gyrru gan ideoleg yw hwn - a does dim byd yn bod ar hynny - nid ymdrech i arbed arian.
Mae safio pres ar y llaw arall yn ganolog i'r adolygiadau mae Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal ar hyn o bryd ym meysydd megis addysg a llywodraeth leol. Mae dod o hyd i'r drefn rataf o redeg gwasanaethau er mwyn diogelu'r gwasanaethau ei hun yn beth gwbwl synhwyrol wrth gwrs ond os oedd na system berffaith neu ateb hawdd fe rhyw un wedi dod o hyd i'r greal sanctaidd hwnnw erbyn hyn.
Mae 'na un ffordd sicr o wastraffu arian sef ei daflu at ymgynghorwyr allanol o leiaf dyw Carl Sargeant a Leighton Andrews ddim am ddilyn y trywydd hurt hwnnw!