Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Taith y Pererin?

Vaughan Roderick | 10:30, Dydd Mercher, 1 Medi 2010

Mae'r daith wedi cyrraedd! Mae mynegai hunagofiant Tony Blair yn adrodd cyfrolau.


Mae 'na 27 cyfeiriad at Iraq, 72 at Saddam Hussein, 121 at Gordon Brown a thri at Gymru fach!

A beth sydd ganddo i ddweud am Gymru? Dim llawer. Y peth mwyaf difyr, efallai yw cyfaddefiad y byddai Llafur wedi gwneud yn well yn etholiad cynulliad 2007 pe bai'r awenau wedi eu trosglwyddo i Gordon Brown cyn hynny. Does dim dwywaith bod hynny'n wir. Yn bwysicach efallai mai'n weddol sicr na fyddai Llafur wedi colli grym yn yr Alban yn yr etholiad hwnnw pe bai Tony Blair wedi gadael yn gynt.

Ond nid sylw gan Tony Blair yw'r un mwyaf difyr i mi weld yn ddiweddar ynghylch record y llywodraeth Lafur yng Nghymru. Un gan y ffefryn i ennill yr arweinyddiaeth Llafur, David Miliband, yw hwnnw.

Mewnyn y King Solomon Academy yn Llundain sydd heb dderbyn llawr o sylw yng Nghymru fe ddywedodd David Miliband hyn;

Tony and Gordon did great things. Really great things. But I know that in Tony's time he did not focus on income inequalities, stopped devolution at Scotland and Wales when we should have carried it on, and too often defined himself against the party not against the Tories.

Nawr , mae hynny'n ddiddorol. Ystyriwch y peth am eilaid. Mewn araith i gynulleidfa yn Lloegr fe restrodd y mab darogan y methiant i fynd a datganoli'n ymhellach fel un o dri methiant mwyaf Tony Blair.

Fe ddylai hynny godi calonnau'r rheiny sy'n becso ynghylch ymroddiad y Blaid Lafur Brydeinig i sicrhau pleidlais Ie yn y refferendwm datganoli.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:53 ar 1 Medi 2010, ysgrifennodd Dewi:

    O lyfr Blair:
    "I was never a passionate devolutionist. It is a dangerous game to play. You can never be sure where nationalist sentiment ends and separatist sentiment begins"
    Diolch i Dduw am Donald Dewar a Ron Davies....

  • 2. Am 14:17 ar 1 Medi 2010, ysgrifennodd Paul Rowlinson:

    Onid yw'r gosodiad "stopped devolution at Scotland and Wales" yn golygu peidio â chyflwyno datganoli i ranbarthau Lloegr? Rwy'n meddwl y buasai wedi dweud "stopped devolution in Scotland and Wales" i olygu mynd â datganoli ymhellach yn y gwledydd hyn, efallai.

  • 3. Am 04:19 ar 2 Medi 2010, ysgrifennodd Bwlch:

    Unig rheswm wnaeth y Blairites mynd am datganoli oedd y disgwyliad fydd LLafur rheoli Cymru a'r Alban am byth, dim oherwydd fod nhw credu mewn democratiaeth. Falch dweud na wnaeth y prosiect yna chwalu yn darnau!!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.