Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bysus Bach y Wlad

Vaughan Roderick | 13:42, Dydd Mawrth, 14 Medi 2010

Rwyf newydd orffen darlleno Lloyd George gan Roy Hattersley. Mae'r llyfr yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau ac mae'n werth ei ddarllen hyd yn oed i rheiny sy'n gyfarwydd â hanes Dewin Dwyfor o fywgraffiadau blaenorol.

Mae "The Great Outsider" yn cynnwys elfennau a gwybodaeth newydd ond yr hyn sy'n ddifyr yw darllen dadansoddiad un gwleidydd o gymhellion a thactegau gwleidydd arall. Fe fydd y rheiny sydd wedi darllen bywgraffiad Roy Jenkins o Winston Churchill yn gyfarwydd â pha mor ddifyr a dadlennol y mae llyfrau felly'n gallu bod.

Mae Roy Hattersley yn tynnu sylw yn ei lyfr at yr unig addurn oedd ar wal swyddfa Lloyd George yn Downing Street. Darn o frodwaith wedi ei fframio oedd hwnnw yn cynnwys adnod o lyfr Job; "Llwybr yw hwn nid adnabu aderyn ef ac ni chanfu llygad barcud ef".

Ac eithrio'r ffaith ei bod hi'n bosib mai o'r adnod hon y tarddodd yr ystrydeb "llygad barcud" mae'n un ddigon di nod. Go brin ei bod hi'n un o'r ffefrynnau wrth i blant yr Ysgol Sul godi ar eu traed i adrodd eu hadnodau - hyd yn oed yn nyddiau plentyndod Lloyd George!

Yn ol Roy Hattersley llwybr Job oedd llwybr Lloyd George. Mae hynny'n ffordd bert o ddweud bod yr hen foi yn gwybod yn iawn beth oedd e'n gwneud a beth oedd ei fwriadau. Roedd ei gefnogwyr a'i wrthwynebwyr fel ei gilydd ar y llaw arall, yn gorfod ceisio dyfalu beth yn union oedd yn mynd ymlaen a pha dric gwyrthiol fyddai'n ymddangos nesaf o lewys y dewin.

Does dim dirgelwch o gwbwl ynghylch pa lwybr y cymerodd aelodau Cymdeithas yr Iaith y dydd o'r blaen er mwyn cynnal protest yn erbyn torriadau yng nghyllid S4C. Yr M4 oedd y llwybr hwnnw, rwyn cymryd.

Mae 'na gwestiwn ar y llaw arall ynghylch pwy dalodd am y bws mothus ar gyfer y protestwyr. "Cefnogwr di-enw" oedd yn gyfrifol neu dyna ddywedodd un o'r trefnwyr wrth un o'r trwps. Fe fyddai'n ddiddorol gwybod pwy yn union oedd y cefnogwr hwnnw. Mae gen i un cwestiwn bach arall hefyd. Sut oedd y protestwyr wedi cael gwybod bod y cyfarfod rhwng S4C a'r DCMS wedi ei symud o bencadlys yr adran i'r senedd ar y funud olaf? Dim ond gofyn.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:41 ar 14 Medi 2010, ysgrifennodd Siôn Jobbins:

    Vaughan - mae Roy Hattersley yn rhoi sgwrs ar y llyfr yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aber ddydd Iau 23 Medi (gwnaeth llawer o'i waith ymchwil ar gyfer y llyfr yma). Bachwch le:

    Gyda llaw mae John Graham Jones, Pennaeth yr Archif Wleidyddol Gymreig newydd gyhoeddi llyfr ar DLlG hefyd: 'Lloyd George and Welsh Liberalism':

    ... does dim dianc rhag Lloyd George!


  • 2. Am 19:41 ar 14 Medi 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae RH yn nodi ei ddyled i'r LlG yn y llyfr. Gellir clywed fy nghyfweliad ac RH yn fan hyn.

    /iplayer/console/b00tnlnl/The_Sunday_Supplement_12_09_2010

    Diolch ychwanegol i'r LlG am ddarparu'r unig le ar y we yr oeddwn yn gallu canfod Beibl William Morgan i sicrhau fy mod wedi cael yr adnod yn iawn!

  • 3. Am 12:15 ar 15 Medi 2010, ysgrifennodd D'OH:

    "Mae RH yn nodi ei ddyled i'r LlG yn y llyfr."

    Wel ydi siwr iawn meddyliais i nes sylwi nad Lloyd George oedd yr Ll G hwn.

  • 4. Am 13:16 ar 15 Medi 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Da Iawn!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.