Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O'r Post

Vaughan Roderick | 20:27, Dydd Mercher, 29 Medi 2010

Mae'r pethau rhyfedda yn cyrraedd y blog yma! Beth am y neges fach yma i ddechrau?

Red Ed. Dwi'n hawdd i'm hudo - yn Irac,
roedd hi'n rong. Dwi'n mentro
bwrw sen ar frawd heno.
Terfynaf ei yrfa fo.

Roedd honno'n ddienw. Mae David Jones ar y llaw arall yn rhoi ei enw ar gwt y neges nesaf er bod yr enw hwnnw bron yn ddigon cyffredin i weithio fel non-de-plume! Gofyn mae David i mi dynnu sylw at ei ymderch i sefydlu gwefan seffolegol Cymreig newydd. Dyma .

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:29 ar 30 Medi 2010, ysgrifennodd AVBK:

    Diolch am gyfeiriad y wefan seffolegol - bydd yn un diddorol i'w dilyn. Tybed bydd rhywun 'na sydd yn gallu esbonio system seffolegol BARB i mi. Gwelais i rywle bod math o gyfri gwahanol gyda BARB ynglŷn â S4C achos y gynulleidfa yn un fach yn cymharu â'r miliynau o bobl sydd yn gwylio sianeli Saesneg yn Lloegr. Digon rhesymol, ond wedyn, dywedon nhw eu bod nhw'n rhoi teledu mewn 600 o dai yng Nghymru - 309 gydag o leiaf un siaradwr Cymraeg yn y tŷ a'r gweddill heb unrhyw siaradwr Cymraeg yn y tŷ!?!?! I mi, mae hynny yn golygu bod rydych chi'n tynnu i ffwrdd hanner y gynulleidfa bosibl cyn dechrau monitro unrhyw raglen. Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr i mi. Ydy'r wybodaeth yn anghywir, ydw i'n dwp neu ydyn nhw'n wallgo??

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.