Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Top Cat

Vaughan Roderick | 11:35, Dydd Gwener, 29 Ionawr 2010

david_davies_bbc226.jpgAm y tro cyntaf i mi gofio mae David Davies yn cadw ei ben lawr gan wrthod pob cais am sylw neu gyfweliad. Mae'n weddol amlwg bod mawrion y blaid wedi gorchymyn i aelod Mynwy cau ei drap ar ôl ei sylwadau dadleuol ynghylch achos Balal Khan.

Heb os mae'r Ceidwadwyr yn cymryd y sefyllfa o ddifri gyda llefarwyr y blaid yng Nghaerdydd a Llundain yn ymateb gyda'r un geiriad gofalus.

"These comments do not reflect the views of the party in any way."

Mae ambell i Geidwadwr wedi ymateb mewn modd mwy agored. Rwy'n ddiolchgar i am dynnu fy sylw at sylwadau darpar ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Gorllewin Abertawe, René Kinzett, ar Twitter;

sorry, but why is David TC Davies MP such a flaming pain in the arse? Rape linked to race? Go back to selling tea

Yn ddiweddarach wrth ymateb i Tomos Livingstone ychwanegodd René;

@TomosL How can someone be so crass as to blame rape on ethnicity and be a serious-minded Parliamentarian in the 21stC?

Y cwestiwn mawr nawr yw a fydd David yn cael ei ddisgyblu?

Cofiwch fod Alun Cairns wedi gorfod sefyll gerbron ei well ar ôl gwneud sylwadau amrwd am Eidalwyr ar "Dau o'r Bae". Oedd "joc" ymgeisydd Bro Morgannwg o ddifri yn fwy o bechod na'r geiriau yma o eiddo aelod Mynwy?

"...there do seem to be some people in some communities who don't respect women's rights at all and who - if I may say, without necessarily saying that this is the case on this occasion - who have imported into this country barbaric and medieval views about women and that is something that also needs to be addressed."

Hyd yma dyw'r sefyllfa ddim wedi cael llawer o sylw gan y cyfryngau Prydeinig. Mae David yn lwcus yn hynny o beth ond mae e ar dir peryglus iawn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:55 ar 29 Ionawr 2010, ysgrifennodd D. Enw:

    Sori Vaughan - ond beth yw'r stori?

    Dwi ddim yn ffan mawr o DD, ond does dim gwadu fod pobl wedi symud i Brydain o gymunedau sydd ddim â thraddodiad hir (os o gwbl) o statws cyfartal i fenywod. Does gan hyn ddim i wneud ag ethnigrwydd a phopeth i'w wneud â magwraeth ddiwylliannol person.

    Oes 'na rhywbeth wn i ddim amdanno neu ydy hyn yn enghraifft o or-ymateb achos fod pobl yn or-sensitif am unrhyw beth gall cael ei weld fel ymwneud ag hil (h.y. pobl am ddod ag hil fewn i drafodaeth lle nad oes un).

  • 2. Am 17:38 ar 29 Ionawr 2010, ysgrifennodd Dylan Llyr:

    D.Enw, y peth ydi nad oes unrhyw dystiolaeth (hyd y gwn i) bod y llanc 'ma wedi gwneud yr hyn a wnaeth oherwydd ei "fagwraeth ddiwylliannol". Dw i'n hyderu bod rhieni'r twpsyn yn torri'u calonau bod eu mab wedi troi'n fwystfil o'r fath.

    Mae pob "grwp ethnig" yn cynnwys ambell nytar. Yn naturiol a chywir, does neb yn gofyn cwestiynau dyrys am ddiwylliant ethnig ac ati pan mae iob gwyn yn treisio neu'n lladd rhywun; mae pobl yn derbyn mai'r cyfan sydd wedi digwydd ydi un person yn colli'r plot. Mae gofyn y cwestiynau hyn jyst achos bod y boi'n digwydd bod yn aelod o leiafrif ethnig, ar y llaw arall, yn dangos bod Dai2 yn ragrithiwr hiliol.

    Sylwer nad ydw i'n dweud dim am agweddau tuag at ferched mewn gwledydd eraill. Mae'n afiach mewn sawl achos. Ond y gwir plaen ydi bod dynion gwyn yn treisio merched weithiau. Does dim byd rhyfeddol wedi digwydd, felly, a than bod tystiolaeth i'r gwrthwyneb yn ymddangos, mae'n hiliol gofyn mwy am y peth. Dyna'r gwir.

  • 3. Am 16:54 ar 1 Chwefror 2010, ysgrifennodd Ben.Dige:

    D.Enw:

    Ym mha fodd mae hyn yn or-ymateb? Mae pobl yn naturiol yn gweld bod DD wedi tynnu ethnigrwydd i'r ddadl lle nad oes lle iddo fod, yn union fel dy gwyn a dweud y gwir.

    Dyma ffeithiau yn ymwneud a thrais ym Mhrydain:

    Oddeutu 85,000 o achision o drais yn erbyn merched ym Mhrydain yn flynyddol.

    230 achos trais yn wythnosol (deg yr awr!).

    Mae cyfanradd erlyniadau llwyddiannus oddetu 4% - mae'r rhan fwyaf o achosion o drais yn aros heb gael eu cofnodi.

    Gellir disgwyl cael 800 o erlyniadau llwyddiannus o achosion o drais yn flynyddol ym Mhrydain.

    Mae awgrymu mai problem o 'ddiwylliannau' eraill ydi treisio yn beth hurt i'w wneud. Nid oes angen tynnu ar broblemau diwylliannol neb arall arnom ni yma ym Mhrydain - mae'n ddigon drwg fel ag y mae hi. Wedi'r cyfan dim on 2% o dreisiadau sy'n cael eu cyflawni gan ddieithriaid!

    Dwi'n credu bod ei bod hi'n warthus be mae DD yn ei wneud - anwybyddu'r broblem sydd yma yn bodoli ers degawdau ac yna rhoi'r bai ar hyn am rhyw bobl annelwig sy'n 'dod yma' o rhyw wledydd pell ble mae yna rhyw nam ar eu 'magwraeth diwylliannol'. Anhygoel a dweud y gwir.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.