Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Siarad Plaen

Vaughan Roderick | 11:37, Dydd Gwener, 16 Hydref 2009

jiwmc203.jpgMae rhywun yn cael dweud pethau ar ôl gadael swydd nad oedd modd eu dweud tra'n was cyflog. Diddorol yw gweld bod Judith Isherwood, sy'n gadael y Ganolfan Mileniwm ar ôl ei llywio o'r cychwyn, wedi dewis gwneud hynny. Heb os fe wnaeth Judith jobyn ardderchog ac mae'n gadael gyda phawb yn canu ei chlodydd.

Erbyn hyn mae'n bennaeth canolfan celfyddydau Melbourne, dinas eu mebyd. Mewn cyfweliad gyda mae'n cyfaddef am y tro cyntaf pa mor anodd oedd sefydlu'r ganolfan yng Nghaerdydd gan ddweud hyn;

''On the ground, the politics were brutal. There were huge divisions about the investment of £106 million on a cultural facility the likes of which Wales had never seen. There were those who actually wanted to see us fail.''

At bwy mae'n cyfeirio, tybed?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:38 ar 17 Hydref 2009, ysgrifennodd Harri:

    O twt, hanner stori yw hon Vaughan! Rho rhyw glem i ni i ba gyfeiriad y dylem troi ein golygon. Dere, pwy yn ei iawn bwyll fydde eisiau i Ganolfan y Mileniwm i fethu!

  • 2. Am 23:06 ar 17 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    At weinidog diwylliant Llafur y mae Judith yn credu wnaeth anwybyddu problemau ariannol y ganolfan y mae'r fwled wedi ei hanelu, rwy'n tybio. Nid fy mod i, o reidrwydd, yn cytuno.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.