Rhwydweithio
Fe wnes i anghofio postio ddydd Gwener i'ch atgoffa am y podlediad. Mae'n cynnwys "Dau o'r Bae" fel arfer ynghyd a sgwrs ac Archesgob Cymru ynghylch y cysylltiad rhwng crefydd a gwleidyddiaeth. Mae modd gwrando neu danysgrifio i'r podlediad trwy wasgu'r botwm ar y dde ac mae 'na restr lawn o bodlediadau Cymraeg y Â鶹Éç yn fan hyn.
Fydd 'na ddim CF99 yr wythnos hon, gyda llaw, oherwydd hanner tymor y cynulliad. Dyw hynny ddim yn effeithio ar y blog. Yn wir fe ddylai hon fod yn wythnos ddifyr i flogio. Un gair. PÔL!!!!
Dyma gasgliad o ddolennau difyr gan gychwyn gyda "blog wars" yng Ngwynedd.
Darllenwch yn gyntaf ac yna ymateb .
Os ydy pethau mynd yn waeth rhyngddyn nhw gallai'r dolennau nesaf fod o gymorth! Mae 'na rybudd o anweddustra ynghylch y rhain. Mae angen stumog gref!
Sut mae rhegi yn (Esquire), (Rhegiadur) a .
Rwy'n dwli ar y ffaith mai "mollethi" yw'r gair Cernyweg am regi!
Sut mae dysgu iaith ar "Twitter"
STV
Fedra i ddim yr wrthsefyll y demtasiwn i gyflythrennu. Hanes yr hyrliwr hoyw.
Irish Independent
Mae'n werth cofio weithiau bod 'na lefydd lle mae'r Saesneg yn iaith leiafrifol.
National Post (Canada)
SylwadauAnfon sylw
Os ti'n byw yng Nghaernarfon 'does yna fawr fedar rhegiadur ei ddysgu i ti mae gen i ofn.