Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hwre! Arolwg barn o'r diwedd!

Vaughan Roderick | 10:15, Dydd Sadwrn, 3 Hydref 2009

_44677238_ballotbox_bbc226.jpgMae'r diffyg arolygon yng Nghymru yn boen i bawb ac yn gwneud y gwaith o ddehongli a dadansoddi ein gwleidyddiaeth llawer yn fwy anodd. Diolch i felly am gynnig glased o ddŵr wrth i ni ymlwybro trwy'r anialdir!

Mae'r safle wedi cyhoeddi canlyniadau ei arolwg barn blynyddol gan YouGov o etholaethau ymylol. Gyda sampl enfawr o dros 33,000 a system glyfar o gynyddu'r sampl mewn etholaethau "anarferol" mae 'na werth ac ystyr i'r canlyniadau Cymreig.

Cofiwch gall unrhyw arolwg fod yn anghywir ac heb arolygon eraill i'w defnyddio fel cymhariaeth mae angen pinsied, ond dim ond pinsied, o halen wrth ddarllen y canlyniadau.

Mae'r arolwg yn rhagweld gogwydd o 9% o Lafur i'r Ceidwadwyr yn seddi ymylol Cymru ynghyd a gogwydd o 7.6% o Lafur i Blaid Cymru. Mae'r safle yn darogan y byddai hynny'n ddigon i sicrhau buddugoliaethau i'r Torïaid ym Mhen-y-bont, Gogledd Caerdydd, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Gŵyr, Gorllewin Casnewydd, Dyffryn Clwyd a Bro Morgannwg ac i Blaid Cymru yng Ngheredigion ac Ynys Môn.

Mae'r manylion yn (pdf)

Ymddiheuriad Trwy hap fe wnes i adael Aberconwy oddi ar rhestr enillion y Blaid Geidwadol. Roedd hynny'n amlwg o ddilyn y ddolen. Gwnes i ddim cynnwys chwaith y seddi ymylol oedd yn cael eu samplo na fydd yn newid dwylo yn ôl YouGov. Os ydych chi'n cael trafferth agor y ffeil pdf mae'r rhestr gyflawn ar wefan "".

Un pwynt bach arall. Mae angen bod yn garcus iawn ynghylch yr hyn mae'r arolwg yn awgrymu am berfformiad y Democratiaid Rhyddfrydol. Ceredigion a Brycheiniog a Maesyfed oedd yr unig ddwy o "etholaethau da" y blaid honno i gael eu cynnwys yn yr arolwg. Mae'n biti na chafodd Gorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd eu cynnwys gan fod y mwyafrifoedd seneddol yn y rheiny yn ddigon tebyg i rai o'r seddi eraill ar y rhestr.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:54 ar 3 Hydref 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    Diddorol iawn. Sgwn i pa mor agos ydi hi yn nifer o'r seddi - Llanelli er enghraifft?

  • 2. Am 14:06 ar 3 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dyw hi ddim yn bosib dweud o'r deunydd sydd wedi cyhoeddi hyd yma ond rwy'n cymryd y bydd y "cross tabs" y nwylo'r anoraciaid yn weddol o fuan!

  • 3. Am 16:06 ar 3 Hydref 2009, ysgrifennodd Penderyn:

    Ond, mae'n digon posib gosod y swing Llafur i Blaid Cymru ochr yn ochr a chanlyniad etholiad 2005. O wneud hynny mae'n rhoi mantais o tua 1,000 o bleidleisiau i Lafur, a hynny gan gymryd nad oes unrhyw ffactorau lleol yn effeithio. Pe byddai'r Americaniaid yn gweld pol felly ar noson yr etholiad y 'galwad' fyddai 'Too Close to Call'.

  • 4. Am 18:02 ar 3 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae hwnnw'n bwynt digon teg. Mae'n amlwg bod y safle wedi penderfynu "galw" pob etholaeth pa mor bynnag agos yw'r canlyniadau. Yr hyn sy'n ddiddorol yw bod YouGov wedi cynnwys Llanelli yn yr arolwg o gwbwl gan fod y mwyafrif yn 2055 o gwmpas 20%. Dyw seddi a mwyafrifoedd seneddol digon tebyg (ee Wrecsam, Dwyrain Casnewydd a Gorllewin Abertawe) ddim wedi eu cynnwys.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.