Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tân Siafins

Vaughan Roderick | 21:04, Dydd Iau, 17 Medi 2009

all_the_presidents_men.jpgMae 'na lot o wedi bod yn ystod y dyddiau diwethaf ynghylch y stori yma wnaeth ymddangos yn ystod dyddiau olaf ymgyrch etholiad 2007.

Mae ambell i flogiwr,yn eu plith, wedi awgrymu mai Carwyn Jones oedd yn gyfrifol am friffio Betsan a finnau bod Llafur yn ystyried cyrraedd cytundeb â Phlaid Cymru ar ôl etholiad y cynulliad. Fe fyddai rhai yn amau mai ymgais digon amaturaidd gan Blaid Cymru i faglu'r ceffyl blaen yn y ras i arwain Llafur yw hwn. Fi fyddai'r olaf i awgrymu hynny ond mae gen i ddau bwynt bach i wneud.

1. Mae'r stori yn cyfeiro at "ffynonellau" nid "ffynhonnell". Mae'r fersiwn Saesneg o'r stori yn Sylwch ar y gair "figures" yn y lluosog. Ni fyddai'r Â鶹Éç wedi cyhoeddi stori mor anhygoel o sensitif ar sail gair un gwleidydd Llafur- pa mor bynnag uchel oedd hwnnw neu honno o fewn y blaid. Roedd 'na fwy nac un gwddwg dwfn yn y stori yma!

2. Gan ddefnyddio'r math o resymeg sydd yn y cwestiwn "pryd wnaethoch chi roi'r gorau i guro eich gwraig?" mae Adam yn defnyddio'r ffaith nad yw Leighton Andrews, trefnydd ymgyrch Carwyn, wedi gwadu'r cyhuddiad fel prawf o'i wirionedd. Pam ar y ddaear y dylai Leighton wadu cyhuddiad pan nad yw Adam wedi cyflwyno'r un darn lleiaf o dystiolaeth i gyfiawnhau ei sylwadau? Sut yn y nefoedd mae Adam yn disgwyl i Leighton wybod pwy oedd ffynonellau'r Â鶹Éç, ta beth? Ydy fe, mewn gwirionedd, yn disgwyl i Leighton groesholi'r ymgeisydd y mae'n drefnydd ymgyrch iddo ar fympwy aelod o blaid arall?

I wneud pethau'n eglur felly. Y ffynonellau (lluosog) eu hun, Betsan a finnau sy'n gwybod o le ddaeth y stori yma. Dyw Betsan am finnau ddim am ddweud na syrthio i'r trap o ddechrau dweud nad oedd hwn, hon neu'r llall yn rhan o'r peth.

Os ydw i'n cyrraedd fy nghant fe wna i gynnwys y gwir yn fy hunangofiant- rhwng y bennod yn datgelu pwy oedd "Meibion Glyndŵr" a'r un ynghylch y sgandal rhywiol yn ymwneud â Cheidwadwr amlwg, yr Ŵyl Gerdd Dant a Shambo'r tarw sanctaidd!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:28 ar 18 Medi 2009, ysgrifennodd Adam Price:

    Vaughan,

    Roeddwn i'n gobeithio ymateb i dy flog yn gynharach ond dwi wedi cael diwrnod prysurach na'r disgwyl - diolch, Vaughan. Ond dwi dal yn meddwl mae yna rhai pwyntiau mae angen cywiro:

    1. Yn y lle cyntaf nid ymgais amateuraidd na phroffesiynol mo hon i danseilio Carwyn. Pam ar y dddaer y bydden ni am helpu Huw Lewis? Ymateb yn wreiddiol i flogiau gan Carwyn a chan ei reolydd ymgyrch yn ymosod arna i ac yn pedlo'r un hen anwiredd bod pleidlais i'r Blaid gyfystyr a phleidlais i'r Toriaid, oeddwn i. Roedd rhaid i rywun pwyntio mas bod hyn yn gwbl anghyson i'r hyn mae Carwyn wedi bod yn gweud yn breifat ar y pwnc erioed - yn arbennig pan oedd e yn cyhuddo fi - ar gam - o anghysondeb.

    2. Yn ail, nid fi wnaeth gwneud y cyhuddiad gwreiddiol taw Carwyn oedd un o dy ddau ffynhonell ar gyfer y stori - ond ffigurau amlwg o fewn y Blaid Lafur oedd yn grac da Carwyn ar y pryd. Does gyda fi ddim tystiolaeth o herwydd dim ond ti a Carwyn sydd yn gwybod y gwir. Mi wyt ti fel pob newyddiadurwr proffesiynol yn dewis cadw yn dawel, ond pam nad yw Carwyn yn fodlon cadarnhau neu beidio. Wedi gweud hynny, mae blog diweddaraf Leighton - sydd ymhlith pethe eraill yn fy ngalw i yn Nazi, y tro cyntaf erioed gan Weinidog Llafur dwi yn credu - i weld yn cadarnhau bod Carwyn wedi eich briffio chi a chadarnhau bod yna sylfaen i gredu bod coch-gwyrdd yn bosib wedi'r cwbl. The rest, ys dywydsen nhw, is history. Am hyn yr ydym yn fythol ddiolchgar - ond dwi ddim yn gwled rhyw lawer o bwynt ceisio ail-ddyfeisio dy hun yn wrth-genedlaetholwr rhonc wedyn'ny. Dyw e jyst ddim yn gredadwy.

  • 2. Am 21:06 ar 18 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Ymddiheuriadau yn gyntaf am achosi dy ddiwrnod prysur! Llongyfarchiadau ar yr ysgoloriaeth! Y pwynt oeddwn yn ceisio ei wneud yw hyn. Os ydy gwleidyddion (a newyddiadurwr) yn dechrau datgelu pethau am eu cysylltiadau preifat maent ar lwybr peryglus. Cymer, er enghraifft, dy fod ti wedi rhoi stori sensitif i mi a fy mod wedi dweud mai "aelod blaenllaw o Blaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin" oedd y ffynhonnell. Beth fyddai dy sefyllfa di os oedd Helen, Rhodri ac eraill o Sir Gar wedyn yn gwadu maen nhw oedd y ffynhonnell?

    Yn yr un modd beth pe bai Carwyn yn gwadu'r stori yma ond yn gwrthod gwadu stori arall yn y dyfodol. Fe fyddai hynny yn cael ei gymryd fel cadarnhad o'r ail stori. "Wedi'r cyfan fe wnaethoch chi wadu'r llall" fyddai'r gri. Gwell yw i bob gwleidydd a phob gohebydd dweud dim.

    Parthed post Leighton rwy'n meddwl bod unrhyw gyfeiriad at Natsïaeth wrth ymosod ar wleidyddion o bleidiau democrataidd yn anffodus ac yn bychanu erchyllterau’r ail ryfel byd.

  • 3. Am 03:23 ar 19 Medi 2009, ysgrifennodd Huw Waters:

    Dwi'n edrych ymlaen i ddarllen eich llyfr!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.