Nid pob arwr sydd angen asyn
Mae gen i gyfaddefiad. O bryd i gilydd rwy'n teimlo'n rhwystredig nad ydwyf yn gallu dod o hyd i ryw ddyfyniad neu ddywediad bachog i gyfleu syniad neu i ddefnyddio fel pennawd. Ar adegau felly rwy'n estyn i fy nychymyg ac yn bathu rhywbeth sy'n swnio'n dda, yn hynafol ac sy'n cyfleu'r ystyr.
Ffug-ddywediadau a dyfyniadau yw'r rhain mewn gwirionedd, pethau fel "mwy o geffyl gwaith na cheffyl gwedd" neu " y gwas bach sy'n cael y geiniog". Yr un gorau i mi gofio oedd "codi caib i agor cocos"- fy fersiwn Gymraeg i o "sledge-hammer to crack a nut".
Dydw i ddim sicr p'un ai hanner cofio'r pethau 'ma ydw i ai eu creu nhw allan o nunlle! Serch hynny mae'n rhoi boddhad enfawr i mi pan welaf rywun arall yn defnyddio un ohonyn nhw misoedd neu flynyddoedd yn ddiweddarach.
Ta beth, ar y daith yn ôl o Landudno fe drafododd Betsan a finnau y syniad o fathu dywediadau gwbl ddiystyr a'u cynnwys yn ein blogs i weld a fyddai unrhyw un yn sylwi! Fyddai hynny ddim yn beth call yn yr hinsawdd bresennol ond dyma rai o'r ffug-ddywediadau y gwnaethom ni eu bathu.
"Nid hawdd yw twyllo gafr benddu"
"Nid ar gaws y mae codi buarth"
"Un wiwer ni wna goelcerth"
"Haul y bore yw hunllef yr hwyr"
Ydych chi'n gallu meddwl am rai gwell ac oni fyddai'n sbort cael cystadleuaeth fathu yn y Babell Len?
SylwadauAnfon sylw
Mae'n anodd cerdded heb goesau.
'Y ceffyl a recho a dynn ei bwn.'- un a fathwyd gan 'nhad (dros beint) yn y 50au.
Dyma ddywediad y bathodd Gwynfor:
"Hanfod Celfyddyd - Cynildeb"
'Dafad yw dafad ond nid buwch yw buwch' - aralleiriad o'r hyn ddywedodd Elin Jones yn ei araith ddydd Gwener diwethaf pan yn son am LCO cig coch.
Yn falch i weld bod cynhadledd y Blaid weid esgor ar drafodaeth fywiog am ddyfodol y genedl!
Yn araf bach a phob yn dipyn mae tynnu'r gwir o reportas BBibun
O ran bachu ymadroddion, beth am hyn, sydd ar hyn o bryd yn brif-bennawd newyddion Â鶹Éç Cymru'r Byd, a hefyd i'w weld ar y tudalen Saesneg, yn un o'r dolenni:
'Dyw ef ddim, wrth gwrs, yn golygu dim yn Gymraeg, ond mae'n gyfieithiad gair-am-air o "Health: praise for telephone service" ond bod y sawl a ysgrifennodd y peth wedi edrych am y *ferf* 'praise' yn lle'r *enw* yng ngeiriadur y Â鶹Éç (neu efallai wedi bod yn "google'o" gan ddefnyddio'r gwasanaeth cyfieithu-i'r-Gymraeg newydd, sydd ar y cyfan yn arbennig o dda er bod angen bod yn wyliadwrus).
Mae gweddill yr erthygl hefyd yn frith o ysgrifennu (neu gyfieithu) gwael.
Google'o gwael yw gwarth y gair.
Wedi ei gywiro. Diolch.
'Swn i'n anghytuno ag Aled. Mae "canmol" yn enw sy'n golygu "mawl, moliant, clod, ffafr, cymeradwyaeth" yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru. "Mae canmol mawr i'r prifathro newydd" "Roedd tipyn o ganmol ar y bregeth dydd Sul". (dw i ddim yn hollol siwr ydi "canmol i" yn iawn - ond mae "canmol ar" yn sicr yn iawn.)
Cyn cywiro, tsheced!