Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Finito

Vaughan Roderick | 16:22, Dydd Gwener, 4 Medi 2009

jones.jpgMae Syr Wmffra wedi gadael yr adeilad! Corporal Jones sy'n rhedeg pethau yn swyddfeydd y Comisiwn erbyn hyn a barnu o'r awyrgylch o banig sy'n sgubo trwy DÅ· Hywel.

Yn sgil llythyrau Nick Bourne a Cheryl Gillan mae aelodau o'r pleidiau eraill wedi dechrau lleisio'u gwrthwynebiad i benderfyniadau'r Comisiwn. Yn eu plith mae'r cyn-weinidog Iaith Jenny Randerson. Mae hi'n dweud hyn;

"The reaction to the scrapping has been very strong and I believe that people all across Wales should have the right to read what their Assembly Members say in the two languages of Wales. The Assembly Commission has to rethink its decision and reinstate this bilingual service for the National Assembly of Wales, for its integrity and for the benefit of the Welsh language"

Yn y cyfamser mae Chris Franks, cynrychiolydd Plaid Cymru ar y Comisiwn, yn honni ei fod wedi gwrthwynebu'r cynlluniau o'r cychwyn ond bod cofnodion y Comisiwn wedi methu nodi hynny. Mae Mr Franks wedi cwrdd a Claire Clancey heddiw i ddatgan ei farn "nad yw'r mater yma ar ben".

Yn bersonol rwyf o'r farn bod y mater ar ben a bod cynlluniau'r comisiwn ynghlylch cyfiethu'r cofnod yn gwbwl gelain. Fe ddaw cadarnhad swyddogol a gwahoddiad i'r angladd yn y man. Mwynhewch eich penwythnos.

DIWEDDARIAD Mae aelodau o'r pedair plaid yn cynnal trafodaethau gyda'r bwriad o gyflwyno cynnig yn y cynulliad i wyrdroi penderfynniad y Comisiwn. RIP!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:57 ar 4 Medi 2009, ysgrifennodd Gwilym Euros Roberts:

    Haleliwia! Synwyr cyffredin o'r diwedd. Credaf yn sgil yr holl lanast yma dylai fod Dafydd El yn ymddiswyddo fel Cadeirydd y Comisiwn a Llywydd y Cynulliad. Mae'r ffaith fod cyn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith wedi cymeradwyo fath benderfyniad i ddechrau yn dangos diffyg crebwyll a diffyg parch tuag at ei gyd aelodau o fewn y Cynulliad ond gwaeth na hynny mae'n dangos agwedd gwbwl drahaus tuag at yr iaith a Chymry Cymraeg.

  • 2. Am 22:50 ar 4 Medi 2009, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    Dyma ddolen at erthygl Gwion Lewis yn bARN:

  • 3. Am 11:34 ar 5 Medi 2009, ysgrifennodd Adam Jones:

    Dwi hefyd yn credu y bod hi'n bryd i Dafydd El gamu lawr, Yn fy marn personol i, Nid yw'n cynrychioli plaid Cymru'n dda ac mae wedi bod yn llawer rhy cyfeillgar gyda phleidiau eraill ac anghofio egwyddorion a pholisïau ei blaid ei hunain a'r pobl y mae'n cynrychioli.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.