Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dime Dime Dime Hen Blant Bach

Vaughan Roderick | 19:34, Dydd Llun, 28 Medi 2009

_38925719_halfpenny238.jpgGadewch i ni fynd yn ôl at gychwyn yr holl ffwdan ynghylch y cofnod a rhywbeth ddywedodd un aelod o'r Comisiwn Peter Black wrth ysgrifennu ar "";

"If a language is to survive and flourish then it must be used as part of daily life and business. It follows therefore that in a body such as the National Assembly we should be using our resources to enable our business to be conducted blingually rather than producing what is effectively a retrospective record that adds nothing to that aim. For Rhodri Glyn Thomas and others it appears the bilingual record of proceedings is symbolic rather than functional. At £250,000 a year that is a very expensive symbol."

Wrth gwrs, ers hynny mae'r Comisiwn wedi ildio tir gan addo, yn gyntaf, cyfieithiad llawn "o fewn 3-10 diwrnod" ac, yn ddiweddarach ar dudalen flaen y Cofnod cyfieithiad "o fewn pum diwrnod".

Heddiw, mewn cyfarfod y Pwyllgor Cyllid, datgelodd Prif Weithredwr y Cynulliad, Claire Clancey, y bydd y drefn newydd yn costi £170,000. Mae'r arbediad, erbyn hyn felly, yn £80,000 y flwyddyn. Dyw hynny ddim yn cynnwys cost rhan arall o "gyfaddawd" y comisiwn sef cyfieithu cofnodion pwyllgorau deddfwriaethol.

Fel un oedd yn defnyddio'r cyfieithiad dros-nos yn gyson fedra i ddweud yn onest y bydd y cawl eil-dwym sy'n cael ei gynnig nawr o fawr o ddefnydd i mi. Yn fynych iawn rwy'n dymuno dyfynnu rhywbeth o'r Siambr ar y diwrnod canlynol. Mae'n anodd meddwl am achosion lle rwyf wedi dyfynnu rhywbeth o'r wythnos flaenorol. Rwy'n cymryd bod yr un peth yn wir am ddefnyddwyr eraill y Cofnod Cymraeg, y newyddiadurwyr, y gwleidyddion a'r gweision sifil fel ei gilydd.

Fe fyddai aelodau'r Comisiwn yn gwybod hynny pe bawn nhw wedi gwneud unrhyw ymdrech i ganfod barn defnyddwyr y Cofnod. Yn anffodus, mae'n ymddangos bod y Comiswn, heb unrhyw dystiolaeth hyd y gwelaf i, yn meddwl nad yw'r fath defnyddwyr yn bodoli. Wel, Arglwydd, dyma fi! Rwy'n sicr bod 'na eraill hefyd!

Dyma'r sefyllfa, felly. Er mwyn arbed dimeiau (yn nhermau cyllideb y Cynulliad) fe fydd y Cofnod yn cael ei droi yng ngeiriau Peter yn "very expensive symbol". Yn symbol o beth? Mae'n anodd osgoi'r casgliad y bydd e'n symbol o ystyfnigrwydd a hunan-balchder pobol fawr y Comisiwn.

Mae 'na fwy i ddod yn y stori yma. Dyw'r Pwyllgor Busnes, y Cynulliad, y Bwrdd Iaith ac, o bosib, yr Uchel Lys heb ddweud eu dweud eto.

A'r cyfan dros beth? Dime dime dime, hen blant bach.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:04 ar 28 Medi 2009, ysgrifennodd Bynsan:


    Anhygoel fod aelod o Blaid Cymru - yr Arglwydd Lywydd Thomas - mor benderfynol o sathru hawliau'r Cymry Cymraeg.

    Dychmyga'r sdinc tasa raid i'r di-Gymraeg aros bron i wythnos i gael darllen beth ddywedwyd yn Gymraeg gan Rhodri Morgan ar lawr y Senedd...

    Rwy'n hyderus y bydd y Cynulliad yn gwyrdroi'r penderfyniad gwirion yma...ond mae'r Llywydd wedi ymddwyn yn haerllug. Gwarthus oedd dadlau nad oes neb yn defnyddio'r fersiwn Gymraeg, pan mae profi hynny'n amhosib

    Yn bersonol dwi wedi cael llond bol ar Dafydd El - oes yna unrhyw wleidydd lawr fan'na efo'r cojones i alw am ei ymddiswyddiad?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.