Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyfri'r gost

Vaughan Roderick | 18:09, Dydd Mawrth, 22 Medi 2009

sir-humphrey-2.jpgMae'r blogio wedi bod yn ysgafn heddiw gan fy mod a'm mhen i lawr yn paratoi eitemau i'w darlledu adeg ymddeoliad Rhodri Morgan. Mae palu trwy'r archif a gwylio'r Rhodri ifanc yn sbort. Mae gweld y Vaughan Roderick ifanc ar y llaw arall yn frawychus!

Ta beth fe ddylwn i o leiaf ceisio'ch diweddaru ynghylch y busnes gyda'r Cofnod.

Mae 'na ddau gynllun ar y bwrdd, wrth gwrs. Yn gyntaf mae "cyfaddawd" y Comisiwn. Mae hynny'n cynnwys adolygiad o'r polisi iaith. Yn y cyfamser fe fyddai cofnodion pwyllgorau deddfwriaethol yn cynnwys cyfieithiadau o'r Saesneg i'r Gymraeg ac fe fyddai sesiynau llawn o'r cynulliad yn cael eu cyfieithu o fewn deng niwrnod i'r cyfarfod.

Mae 'na gwestiwn diddorol ynghylch y cynllun yma. Efallai eich bod yn cofio mae "arbed arian" oedd y rheswm dros newid y drefn yn lle cyntaf. Fe fyddai'r cynllun gwreiddiol wedi arbed £250,000. Faint fydd yn cael ei arbed gan y "cyfaddawd" felly?

Wel yn ôl un deryn bach yr ateb yw'r un ddimai goch. Fe fyddai'r "cyfaddawd" yn ddrytach na'r drefn bresennol! Mae'n anodd peidio amau mai gwarchod balchder yn hytrach nac arbed arian yw'r bwriad erbyn hyn.

Yr ail gynllun posib yw'r un sydd wedi ei gynnwys yng nghynnig aelodau blaenllaw o'r pedair plaid. Mae'r cynnig hwnnw yn beirniadu ymddygiad y comisiwn ac yn galw am gadw at y drefn bresennol o gyfieithu dros nos wrth i'r adolygiad gael ei gynnal. Deallaf fod y gefnogaeth i'r cynnig hwnnw bron yn unfrydol yng nghyfarfod y grŵp Ceidwadol heddiw.

Pryd fydd y cynnig yn cael ei drafod, os o gwbwl? Mae hynny'n fater i'r pwyllgor busnes ond mae'n ymddangos y bydd yn rhaid i'r Comisiwn ildio ymhellach er mwyn rhwystro embaras i Syr Wmffra yn y Siambr.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:00 ar 22 Medi 2009, ysgrifennodd Dewi2:

    Os mae gan Syr Wmffra arian ychwanegol i'w wario wedi'r cwbl, beth am ei fuddsoddi ar y technolegau sy'n hwyluso ac yn cyflymu'r proses cyfieithu. Mae'r cyfaddawd 10 diwrnod pryn bynnag yn chwerthinllyd.

  • 2. Am 22:14 ar 22 Medi 2009, ysgrifennodd Jon Jones:

    Pam wyt ti'n mynnu bod Syr Wmffra sydd tu ôl i hyn i gyd? Dafydd El sy'n bennaf cyfrifol am y penderfyniad a fe dyle derbyn y bai. Mae ail rhan y sylw wedi ei atal er mwyn cymedroli.

  • 3. Am 22:41 ar 22 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Efallai bod y joc yn mynd braidd yn denau! Mi wyt ti'n iawn mai mater o bolisi a mater gwleidyddol yw hwn erbyn hyn.

    Roedd y cyfeiriadau gwreiddiol at Syr Wmffra yn ymwneud a'r rhesymau/rhesymeg mewn llythyr gan un o weision y cynulliad. Fe wnes i enwi'r swyddog (Claire Clancy) yn y post cyntaf ond dewis peidio gwneud ar ôl hynny. Rwy'n derbyn dy bwynt yn llwyr bod y stori wedi symud ymlaen erbyn hyn.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.