Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rialtwch

Vaughan Roderick | 23:05, Dydd Sadwrn, 1 Awst 2009

GoldenCross.jpg Tafarn nid sinema sydd wedi ysbrydoli'r ddwy ffilm gynta'r wythnos hon.

Rhai blynyddoedd yn ôl daeth y "Golden Cross" yng nghanol Caerdydd o fewn y dim i gael ei dymchwel. Cafodd ei hachub o ganlyniad i ymgyrch i ddiogelu un o'r ychydig dafarnau yng Nghymru i'w hadeiladu yn arddull y "Gin Palace".

Heddiw mae hi wedi ei hamgylchynu gan adeiladau llawer mwy fel y Marriot a'r Radisson ynghyd a'r John Lewis a'r Llyfrgell Ganolog newydd. Serch hynny mae'n haeddu ymweliad ac mae 'na sawl stori ddiddorol yn ei chylch.

Yn ôl yn y tridegau ceisiodd Syr Oswald Mosely a'r "British Union of Facists" gynnal cyfarfod yn y Golden Cross. Ymgasglodd torf sylweddol o brotestwyr y tu fas ac fe gafodd car yr arweinydd ffasgaidd ei droi drosodd. Dychwelodd Syr Oswald i Lundain heb allu traddodi gair o'i araith. Mae'r ffilm yma o'r BUF o hyd yn gallu codi cyfog er cymaint treigl amser.

Wrth fynd heibio, mae'n werth nodi mai'r BUF wnaeth arwain at y gyfraith yn gwahardd mudiadau gwleidyddol rhag ymddwyn mewn modd ffug-filwrol. Defnyddiwyd y gyfraith honno i erlyn arweinwyr yr FWA yn 1969. Doedd fawr ddim byd arall yn bosib profi yn eu herbyn. Mae un o'r arweinwyr hynny yn cael ei goffau ar arwydd un arall o dafarnau Caerdydd, y "Cayo Arms", un o glwstwr o dafarnau Cymraeg yn ardal Gerddi Soffia. Yn ychwanegol at y "Cayo", y "Mochyn Du" a'r "Fuwch Goch" agorodd ei drysau bythefnos yn ôl. Nid cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith mai "Cadno" oedd enw cod Julian Cayo Evans ac mai cyn-berchennog y "Cayo" yw perchennog y "Cadno"!

Ond yn ôl a ni at ben arall y dre! Mae'r ffaith bod y "Golden Cross" bellach yn dafarn hoyw yn brawf efallai o fuddugoliaeth rhyddfrydiaeth ac eangfrydedd dros ragfarn a chulni. Dydw i ddim yn meddwl y byddai Syr Oswald Mosley yn mwynhau'r perfformiad yma rhywsut!

Mae'r stori yn ein hatgoffa nad yw buddugoliaeth rheswm dros ragfarn yn gyflawn eto.

A lone gunman killed three people and wounded at least 10 at a gay support centre in the Israeli city of Tel Aviv before escaping. Most of the victims were gay teenagers, who were meeting at the centre .

Sut ar y ddaear y gall rhywun feddwl bod pobol ifanc yn cael amser da yn haeddu cael eu saethu? Hyd yn oed yn waith oedd darllen bod rhieni rhai o'r cryts a chrotesau gafodd eu saethu yn gwrthod gweld eu plant yn yr ysbyty oherwydd eu bod yn y ganolfan hoyw "heb ganiatâd". Mae rhai pethau y tu hwnt i mi! Beth uffern sy'n bod ar bobol yma?

Ar nodyn ysgafnach, efallai y bydd y rheiny sydd ar ochor arall y ffens, o safbwynt eu rhywioldeb, yn mwynhau'r awgrym yma gan "Obell"! Y dynion, hynny yw!

Mae'n rhyfedd bod pethau oedd yn cael eu cyfri fel adloniant yn 1980 yn ymylu ar fod yn annerbyniol heddiw ond dwi'n meddwl bod "sgrech" Jake Thackray yn erbyn menywod yn ddigon clyfar a digon hunan-ymwybodol i haeddu ail-wrandawiad!

Diolch i bawb sydd wedi llenwi'r storfa awgrymiadau'n diweddar! Mae Rialtwch yn saff am fis arall!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.