Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Felly, S.O

Vaughan Roderick | 09:40, Dydd Mawrth, 18 Awst 2009

sodavies203.jpgUn o gymeriadau mawr gwleidyddiaeth Cymru oedd S.O Davies aelod seneddol Merthyr o 1934 tan 1972. Roedd yn sosialydd rhonc ac yn un o'r ychydig aelodau Llafur oedd yn credu mewn, ac yn ymgyrchu dros, ymreolaeth i Gymru.

S.O hefyd oedd yr unig berson go iawn i mi glywed oedd yn siarad amdano fe'i hun yn y trydydd person, jyst fel mam Wali yn C'mon Midffild! "Mae S.O yn credu...", "Bwriad S.O yw...", "S.O will not retire..." oedd hi bob tro. Dydw i ddim yn meddwl bod y geiriau "fi" neu "me" wedi pasio'i wefusau unwaith!

Roeddwn i'n meddwl am S.O ar ôl darllen ymateb Huw Lewis i araith Carwyn Jones yn yr Eisteddfod, y bwledi cyntaf yn y ras i olynu Rhodri Morgan. Dyw'r naill ymgeisydd na'r llall yn sefyll fel ymgeisydd "Llafur Newydd" ond mae'n deg i ddweud, dwi'n meddwl, bod Huw yn portreadu ei hun fel yr ymgeisydd traddodiadol neu geidwad y ffydd os mynnwch chi. Sut arall mae darllen dyfyniad fel hwn?

"Our core vote alone may not be enough to win the election for Labour- we certainly won't win it without them!"
so.jpg
Ond pa mor bur yw ffydd sosialaidd Huw, mewn gwirionedd? Ar y dde mae un o daflenni S.O o 1934. Ynddi mae'n galw am wladoli'r diwydiannau trymion, gwasanaethau trafnidiaeth, tir a'r banciau. Go brin y byddai Huw'n cytuno â hynny!

Ar y llaw arall mae'n bosib darganfod llinyn arian yn cysylltu'r ddau wleidydd. Nid yn yr atebion sy'n cael eu cynnig ond yn y cwestiynau sy'n cael eu gofyn a'r bobol y maen nhw'n poeni yn eu cylch. Dyma sydd gan Huw i ddweud;

"We need bold ideas on how to get families onto the housing ladder, further improve outcomes in health, truly transform the lives of those children living in poverty and fight the deprivation that still blights far too many of our communities."

Dyna yn union beth oedd S.O yn ceisio gwneud trwy alw am godi'r oedran gadael ysgol, diddymu profion gallu ar fudd-daliadau a chynyddu cyflogau gweithwyr. Yn yr ystyr hynny mae'n amlwg bod Huw yn perthyn i draddodiad S.O. Dyw pethau ddim mor amlwg yn achos Carwyn.

Os oedd Huw'n dymuno gwneud y pwynt yn fwy eglur, hwyrach y dylai fe ystyried defnyddio'r trydydd person wrth gyfeirio at ei hun!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.