Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rialtwch

Vaughan Roderick | 20:29, Dydd Sadwrn, 25 Gorffennaf 2009

Tywyn.jpg

Mae'n rhyfeddol bod sawl sinema o'r hen deip wedi goroesi yng Nghymru. Sinema Tywyn sydd yn y llun. Hyd y gwn i does na ddim enw arall ar y lle.

Mae 'na berlau i'w gweld hefyd yn Aberhonddu, Trefynwy, Porthmadog a Chaerfyrddin. Mae'n rhaid gobeithio y bydd addewidion yn cael eu cadw a na fydd y "Multiplex" yng Nghaerfyrddin yn tanseilio'r Lyric yn y tymor hir.

Fe wnawn ni gychwyn yr wythnos hon gyda'r hysbyseb ar gyfer ffilm sy'n gas gan bron pawb yng Nghymru. Serch hynny, mae'n werth cofio bod "How Green Was My Valley" wedi curo "Citizen Kane" yn yr Oscars. Do. Onest.

Mae "Proud Valley" wedi goroesi treigl amser yn well. Gwyliwch allan am y Rachel Thomas ifanc!

Roedd pethau'n wahanol iawn yn y Bae yn 1959! Dyma ddechrau "Tiger Bay"

Tipyn bach o Zulu i gloi....


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 02:46 ar 26 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Ceri Jones:

    Pam ti'n gwed bod 'How Green Was My Valley' yn ffilm sy'n gas gan bron pawb yng Nghymru. Fi'n dwli arni - er bo sbel odd ar ifi i' gweld hi. Fi'n diall bo ti'n gwed 'bron pawb' ond fi'n siwr nage fi yw'r unig un sy'n lico ddi. Ife siarad am y 'trailer' wyt ti ac nid y ffilm ei hunan.

    Pwy gei di well na Maureen O'Hara yn wara rhan Angharad, Bronwyn neu Ianto - wi'm yn cofio pa un nawr ond odd hi'n really gwd.

    Gida llaw, wi'n gwpod bo ti'n neud 'quizzes' o bryd i'w gilydd a dyma gwestiwn ma bron pawb yn cal yn anghywir:

    Pwy yw mam Mia Farrow?

    Nage Maureen o Hara yw ei mam - er bo pawb yn meddwl 'ny!!

    Fi ond yn gwpod 'ny am bo fi wedi darllin bywgraffiad ar Maureen O'Hara -ia, fi really mor 'sad' a 'ny ;)

  • 2. Am 03:04 ar 27 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Wrth fy modd gyda Tiger Bay ond rhaid cyfadde - pob tro mae Zulu ar y teledu rwy eisiau'r Zulus i ennill.....

  • 3. Am 13:32 ar 28 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Maureen O'Sullivan - "Jane" i "Tarzan" Weismuller....

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.