Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mab annwyl dy fam

Vaughan Roderick | 11:59, Dydd Iau, 16 Gorffennaf 2009

Wythnos fach dawel oedd hon i fod. Fe ddylwn i wybod yn well erbyn hyn. Mae stormydd Awst yn taro'r cynulliad cyn gweddill y wlad. Yn ddieithriad bron mae rhywbeth yn digwydd i darfu ar ein trefniadau diwedd tymor. Sigâr Rhodri Glyn oedd y broblem y llynedd, stranciau cynghorwyr Môn a chardiau credid gweision sifil oedd yn ein poeni eleni. Hei Ho.

Ces i ddim cyfle ddoe i ddweud fy nweud ynghylch trafferthion cyngor Môn ac rwy'n petruso braidd ynghylch mentro i bydew gwleidyddol yr ynys. Mae Rhun ap Iorwerth a John Stevenson wedi ceisio esbonio "miri Môn" i mi sawl tro ond dydw i ddim yn gallu hawlio fy mod yn ei ddeall. Fe fedra i ddweud hyn. Dydw i erioed wedi darllen adroddiad gan yr archwilydd cyffredinol oedd cweit mor ddamniol a di-flewyn ar dafod.

Y cwestiwn mawr yw hwn. Beth sydd wrth wraidd problemau Môn ac eithrio ffaeleddau cynghorwyr unigol? Beth sy'n gwneud Môn yn wahanol i gynghorau eraill lle mae 'na nifer fawr o aelodau annibynnol ond sy'n gweithio'n effeithlon- cynghorau fel Cerdeigion, Sir Benfro a Phowys?

Mae'n bosib bod y broblem yn deillio o'r arfer o ffurfio carfannau ac egin-bleidiau yn sgil cynnal yr etholiadau lleol. Does dim modd i etholwyr wybod o flaen llaw wrth fwrw eu pleidleisiau pa garfannau fydd yn cael eu ffurfio na phwy fydd yn rheoli am y pedair blynedd nesaf.

Mae pleidleisiwr yng Ngheredigion a Sir Benfro yn gwybod y bydd ymgeisydd annibynnol yn aelod o'r garfan annibynnol. Does dim clem gan etholwyr Môn i ba garfan y maen nhw'n pleidleisio ac mae'n ddigon posib nad oes 'na fawr o glem gan yr ymgeiswyr chwaith!

Fe fyddai'r system yn gweithio'n iawn pe bai 'na garfan annibynnol sefydlog neu pe bai'r cyngor yn hepgor grwpiau'n gyfan gwbwl a mabwysiadu system bwrdd.

Dyna oedd yn digwydd ym Mhowys tan yn ddiweddar. Yn y sir honno ar ôl etholiad 2008 penderfynwyd ffurfio grwpiau annibynnol am y tro cyntaf. Mae 'na ddau ohonyn nhw! Nawr mae 'na son am fabwysiadu system gabinet yn y sir. Efelychu Cyngor Môn mewn geiriau eraill. Am esiampl i ddilyn!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:27 ar 16 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Mae Mon yn rhannu llawer o nodweddion gyda Sicilly o ran gwleidyddiaeth. Mae elyniaeth personnol sy'n mynd yn ol flynyddoedd. Yn ychwangeol mae nifer sy'n barod i newid lliw yn ddibynnol ar y gwynt gwleidyddol ac mae na ormod o egos a personoliaethau cryf gyda ambell bypedwyr ar y cyrion yn cesio lliwio cyfeiriad. Yr hyn sy'n anodd ei ddeall o'r tua allan yw bod y personliaethau cryf yn cael ei hailethol yn ddidraferth. Yn unigol mae unigolion yn rhesymol ac yn sefyll yn gryf dros ei hardal ond o'i casglu ynghyd mae pethau yn fler. Mae brwydyr barhaus i fod yn yn Alpha Cynghorydd neu os nad yn Alpha Cynghorydd yna mewn sefyllfa i ddylanwadu.

    Ar un ystyr mae pethau wedi bod ychydig yn fwy sefydlog ers yr etholiad diwethaf ond mae pobl yn parhau i biso i mewn i'r babell os gai fenthyg adroddiad ac mae rhai sydd yn y babell yn methu a pheidio ymateb sydd yn ffyrnigo pethau.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.