Ieuan ac Ivor
Does gen i ddim anorac a dydw i ddim yn "trainspotter". Serch hynny, ar y cyfan mae'n well gen i deithio ar drên nac mewn car neu fws. Rwy'n digwydd meddwl hefyd bod ail-agor leiniau rheilffyrdd Bro Morgannwg a * i deithwyr yn ddau o lwyddiannau mawr Llywodraeth y Cynulliad.
Wythnos nesaf fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi ei chynllun trafnidiaeth cenedlaethol. A fydd hwnnw tybed yn cynnwys ail-agor rhagor o reilffyrdd? Fe gyhoeddodd Ieuan Wyn Jones dro yn ôl bod y llywodraeth yn ystyried y posibilrwydd o wneud hynny. At ba wasanaethau yr oedd e'n cyfeirio tybed?
Y peth cyntaf i ddweud yn fan hyn yw y byddai hi bron yn amhosib ail-agor leiniau hir sydd wedi eu hen golli Aberystwyth i Gaerfyrddin, er enghraifft neu Riwabon i Fermo.
Y cynlluniau mwyaf realistig yw'r rheiny (fel yn achosion Bro Morgannwg a Glynebwy) lle mae'r rheilffordd wedi parhau mewn bodolaeth ar gyfer gwasanaethau nwyddau. Fe fyddai ail agor gwasnaethau rhwng Aberdâr a Hirwaun a Beddau a Phontyclun yn gynlluniau amlwg a chymharol hawdd. Ond mae'n anodd credu y byddai 'na ddigon o deithwyr i gyfiawnhau ail-agor rhai o'r leiniau eraill yn y dosbarth yma, y rheilffordd o Ddowlais i Ystrad Mynach, er enghraifft neu'r un o Flaengarw i Dondu.
Mae'n bosib y byddai na ddigon o deithwyr ar y llaw arall i gyfiawnhau ail-agor lein Dyffryn Aman pe bai modd ail-gysylltu lein y Canolbarth ac Abertawe yn hytrach na Llanelli. Yn yr un modd gallai gwasanaethau rhwng Bryn Mawr a Chasnewydd dalu eu ffordd. Mae'r llywodraeth eisoes yn buddsoddi rhai cannoedd o filoedd o bunnau mewn ar ran o'r lein honno. Croesi ffyrdd newydd yn ardal Pont-y-pŵl fyddai'r broblem yn yr achos yma.
Y tu allan i'r de diwydiannol ychydig iawn o bosibiliadau sy' na. Mae'n debyg y byddai rheolwyr yn dymuno ymestyn y lein i Gorwen a Rhiwabon ac mae 'na wasanaethau'n ail-gychwyn yn ardal ond gwasanaethau treftadaeth yw'r rheiny.
Ac eithrio gwasanaethau Hirwaun a Beddau felly mae'n anodd gweld pa gyfleoedd sy 'na ar gyfer gwasanaethau newydd. Mae'n debyg mai ar wella'r ddarpariaeth ar y rhwydwaith presennol y bydd y pwyslais
*Fel arwydd o undod rhwng blogwyr y Â鶹Éç rwy'n derbyn dadl Glyn Evans draw ar flog Cylchgrawn mai Glynebwy nid Glyn Ebwy sy'n gywir.
SylwadauAnfon sylw
"Y peth cyntaf i ddweud yn fan hyn yw y byddai hi bron yn amhosib ail-agor leiniau hir sydd wedi eu hen golli Aberystwyth i Gaerfyrddin, er enghraifft neu Riwabon i Fermo."
Sut wyt ti'n dweud hyn? Ydy'r costau ar flaen dy fysedd Vaughan? Fel rwy'n deall, y gost mwya' yw gwneud y ffordd.....mae'r rhain yn dal i fodoli yn y rhan fwyaf o achosion.
Cyfeirio at lefel y cyfalaf sy'n debyg o fod ar gael yn ystod oes y cynllun oeddwn i. Efallai nad oedd hynny'n ddigon eglur. Dydi hi ddim yn amhosib eu hail-agor yn y tymor hir ac mae'n bosib y gellid comisiynu astudiaethau paratoawl yn ystod y blynyddoedd nesaf. Yn achos lein Bermo fe fyddai Dolgellau yn broblem ynghyd a sicrhau "hawliau rhedeg" dros rheilffordd Llangollen. Rwy'n credu bod lein Aberystwyth mwy neu lai yn gyflawn. Fel rhyw fath o arwydd o'r gost mae ail-agor lein fach Eryri wedi costi bron i £3O miliwn am rheilffordd 25 milltir o hyd. Roedd y ffordd yn bodoli yn yr achos hwnnw. Anodd yw credu felly y byddai'n bosib ail agor y naill lein na'r llall am lai na £100 miliwn a dyw'r fath yna o arian ddim ar gael yn y tymor byr. Yn achos lein Aber (ond nid Bermo) roedd y gwasanaethau'n gythreulig o araf (3 awr a mwy) yn rannol oherwydd natur troellog y lein oedd yn cyfyngu ar gyflymdra'r trenau. Er mwyn sicrhau gwasnaeth modern safonol fe fyddai'n rhaid addasu'r hen ffordd yn helaeth.
mae angen agor lein lawr Cwm Tawe i Abertawe - fydde hynny'n werth y pres ac yn talu ffordd gredwm i.
Bydde modd ymestyn rheilffordd Glyn Ebwy ymlaen i Aberhonddu sgwn i?
Peth arall maen nhw'n gallu wneud gyda'r rheilfyrdd yw agor/ail-agor rhai gorsafoedd mae'r trenau yn pasio hebio, megis Sblot, Llaneirwg a ChaerlÅ·r.
Byddai'n llawer rhy ddrud i roi rheilfford o Gaerfyrddin i Aberystwyth er enghraifft - ond beth am rwydwaith o fysus "express"? "Express" go iawn wrth gwrs, dim byd fel y Trawscambria!