Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Blogail-syllu

Vaughan Roderick | 10:18, Dydd Llun, 13 Gorffennaf 2009

Mae'n ddiwedd tymor yn y Bae. Rhyw wythnos o bwyllgorau'n cau pen y mwdwl fydd hon. Cafwyd yr adroddiadau pwysig a'r cyhoeddiadau mawr wythnos ddiwethaf. Wedi'r cyfan fe fydd pawb yn awyddus i ymlacio a mwynhau'r partïon diwedd tymor. Pawb, ac eithrio'r cyn-weinidog treftadaeth, efallai!

Rhywbryd yn ystod yr wythnos fe fydd post rhif 1,000 yn ymddangos ar y blog yma. Mae hynny'n rhyw 300,000 o eiriau i gyd ers i'r peth gychwyn dwy flynedd a hanner yn ôl. Mae'r cyfanswm yna'n ddwy-waith hyd y Testament Newydd a phedair gwaith hyd y Koran. Dydw i ddim yn disgwyl i fy ngwirioneddau mawr i bara cyhyd!

Ar hyn o bryd dyw rhannau helaeth o'r archif ddim ar gael oherwydd problem dechnegol. Fe fydd y broblem yn cael ei chywiro cyn bo hir, gobeithio! Rhag i ambell berl fynd yn angof, dros yr haf yn lle cau'r blog i lawr fel y gwnes i llynedd a'r flwyddyn gynt rwy'n bwriadu diweddaru ac ail-gyhoeddi ambell i erthygl o'r gorffennol. Fe fydd hynny'n dechrau wythnos nesaf. Mae 'na wythnos o flogio i fynd cyn hynny. Bant a ni felly.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:41 ar 13 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Gwerfyl Jones:

    Llongyfarchiadau mawr ar dy gamp Vaughan - y blog cyntaf y byddaf yn ei ddarllen bob dydd!

  • 2. Am 19:41 ar 13 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Harri:

    A ga' innau ategu geiriau Gwerfyl Jones trwy gyfaddau mai dyma'r blog cynta' bydda' innau hefyd yn ei agor bob dydd. Dalied ati - H

  • 3. Am 09:33 ar 15 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Fi:

    Beth am gyhoeddi llyfr efo detholiad o'r blogiau. Byddai rhaid addasu ychydig ond dim llawer o ysgrifennu newydd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.